Mae cwmnïau bwyd a diod ar draws Cymru’n dathlu ar ôl sicrhau llwyddiant yng ngwobrau Great Taste y DU eleni, gan brofi unwaith eto bod gan fwyd a diod o Gymru enw da haeddiannol am ansawdd a blas.

 

Cydnabuwyd cyfanswm gwych o 153 o gynhyrchion o Gymru, o gynhyrchwyr artisan annibynnol i ddosbarthwyr mwy o faint, yng ngwobrau clodfawr Great Taste eleni, gyda 110 o gynhyrchion o Gymru’n cyflawni 1-seren, 31 yn cael 2-seren a 12 yn haeddu gwobr 3-seren.

 

Trefnir gwobrau Great Taste gan y Guild of Fine Food, a dyma’r meincnod a gydnabyddir ar gyfer bwyd a diod da. Fe’u disgrifir fel ‘Oscars’ y byd bwyd.

 

Y deuddeg cynnyrch o Gymru y cytunodd y beirniaid yn unfrydol eu bod yn cyflawni’r gydnabyddiaeth “Rhagorol! Waw! Blaswch hwn!” ac felly’n ennill 3-seren oedd:

 

  • Apple County Cider Company – Seidr Dabinett Medium
  • Bill King Artisan Baker – Sticky Gingerbread
  • Caws Teifi Cheese – Celtic Promise
  • Coaltown Coffee Roasters – Anthracite No2
  • Coedcanlas – Syrop Masarn Coedcanlas Delton Martins Ontario
  • Eat my Flowers – Blodau Bwytadwy wedi’u Crisialu
  • Fire and Ice – Sorbet Cyrens Duon
  • Forte’s Ice Cream - Hufen Ia Mascarpone a Ffigys wedi’u Carameleiddio
  • Monty’s Brewery Ltd – Monty’s Dark Secret
  • Pant-Du Cyf – Seidr Pant Du Medium Dry
  • Seidr Y Mynydd – Seidr y Mynydd Keeved Cider
  • Tropical Forest Products Ltd – Mêl Organig Zambian Forest

 

Wrth longyfarch yr holl gynhyrchwyr o Gymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AC,

 

“Mae’n wych gweld cynifer o’n cynhyrchion yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol yng ngwobrau Great Taste 2018. Mae’n galonogol iawn bod ein hymrwymiad i ansawdd wedi’i gydnabod gan y beirniaid o’r Guild of Fine Foods uchel eu parch.

 

“Mae’r gwobrau’n gyfle pwysig i arddangos ansawdd, arloesi a blas rhagorol gan gwmnïau mawr a bach o Gymru. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i’w llongyfarch i gyd ar eu llwyddiannau.”

 

Roedd John Farrand, Cyfarwyddwr Rheoli y Guild of Fine Food a threfnwyr gwobrau Great Taste, wrth ei fodd â chryfder yr enillwyr o Gymru:

“Mae safon y bwydydd o Gymru eleni wedi bod yn rhagorol. Mae gwobr Great Taste, boed yn 1, 2 neu 3 seren yn gyflawniad gwych ac yn arwydd pendant o ansawdd a rhagoriaeth sy’n adlewyrchu’r ymrwymiad cynyddol i gynhyrchu bwyd a diod o’r ansawdd gorau sy’n dod yn amlwg yn y wlad.

Bydd y deuddeg enillydd 3-seren o Gymru nawr yn cystadlu am deitl rhanbarthol y Fforc Aur o Gymru, a gaiff ei gyhoeddi nos Sul, 2 Medi 2018 yn Llundain, fel rhan o’r Speciality & Fine Food Fair.

 

Mae rhestr lawn o enillwyr Great Taste o Gymru i’w gweld yma.

 

Mae rhestr lawn o enillwyr eleni i’w gweld yma www.greattasteawards.co.uk

 

Share this page

Print this page