Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn teithio i Cologne yn yr Almaen yr wythnos hon (5-9 Hydref) i fynychu un o ffeiriau masnach mwyaf y byd ar gyfer bwyd a diod er gwaethaf yr ansicrwydd a sialens Brexit.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd wyth cwmni o Gymru yn mynd i Anuga 2019 o dan faner Cymru/Lloegr, pob un am gyrraedd marchnadoedd allforio newydd.
Gan sôn cyn yr arddangosfa fasnach, mae Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, ynni a materion gwledig, Lesley Griffiths, yn credu ei bod yn bwysig i fwyd a diod o Gymru gael eu gweld ar lwyfan byd-eang, meddai: “Rydym wedi amlinellu ein cynlluniau i ddatblygu enw da byd-eang Cymru fel cenedl bwyd. Felly, rydym yn falch o gefnogi cynrychiolaeth gref o Gymru yn y digwyddiad pwysig hwn ar gyfer masnach fyd-eang, gan ailgadarnhau ein hymrwymiad i godi ein proffil rhyngwladol a chefnogi ein busnesau i werthu eu bwyd a’u diod o safon i’r byd."
Mae cwmnïau sy’n arddangos yn Anuga yn cynnwys Dŵr Ffynnon Ty Nant, 9Brand Foods, Calbee Group UK Ltd, Plas Farm Ltd a Mornflake, gyda chynrychiolaeth hefyd o grŵp Evan-Evans Group Ltd, Sabor De Amor a Gut Instinct. Bydd gan Hybu Cig Cymru (HCC) bresenoldeb amlwg yn y digwyddiad hefyd a byddant yn ceisio parhau i dyfu proffil cig oen Cymru PGI a chig eidion Cymru PGI yn yr Almaen a gwledydd cyfagos.
Un cwmni sy’n parhau i hybu twf allforio yn Ewrop er gwaethaf Brexit yw’r brand byrbrydau 9Brand Foods.
Mae 9BrandFoods yn gwneud byrbrydau iachach yn faethlon ac yn flasus. Mae’r amrywiaeth o gynhyrchion yn cynnwys NAW bar hadau a bariau ceircj fflapjac Brynmor, sy’n llawn blas ac yn defnyddio’r cynhwysion naturiol gorau yn unig. Mae eu cwsmeriaid craidd yn unigolion actif a’r rhai sy’n dilyn ffyrdd llysieuol a ffyrdd ‘rhydd o…’ o fyw.
Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae ystod NINE wedi tyfu i 10 blas blasus - pob un â hadau wrth ei wraidd (a dim llanast o ran golwg) i gyd wedi eu gwneud mewn becws crefft yng Nghorwen, Gogledd Cymru.
Gan roi sylwadau dywedodd Bill Smith-Coats, Rheolwr Cyffredinol 9Brand Foods,
"Rydym wedi gweld cynnydd yn y defnyddwyr yn mabwysiadu diet sy’n seiliedig ar blanhigion o 360% ers 2016. Mae defnyddwyr hefyd yn edrych i adeiladu dewisiadau maethlon naturiol a gwych i’w bywydau bob dydd ac rydym mewn sefyllfa unigryw i fod wrth wraidd yr hyn y mae defnyddwyr yn chwilio amdano Diolch i’n cymysgedd o hadau a chynhwysion naturiol sy’n rhoi ffynhonnell wych o faeth ac ynni naturiol yn seiliedig ar blanhigion.
“Mae ein busnes rhyngwladol mewn twf o 25% o flwyddyn i flwyddyn ac rydym bellach yn cyflenwi 17 o wledydd gyda 4 wedi’u cadarnhau ar gyfer Ch4 eleni. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid dosbarthu a chyfeirio cwsmeriaid i’w cefnogi, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a gwerthiant y brand. "
Un arall o’r cynhyrchwyr o Gymru sy’n cymryd rhan yn Anuga fel rhan o’r arddangosfa bwyd a diod o Gymru ac yn gobeithio ennill busnes newydd yw Beatriz Albo o Sabor De Amor, sy’n cynhyrchu sawsiau coginio a chynfennau dilys Sbaenaidd o’i chartref yn Wrecsam.
Wrth sôn cyn mynd i Anuga, dywedodd Beatriz Albo,
"Rwy’n llawn cyffro ac yn edrych ymlaen yn fawr at fynd i Anuga. Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae hyn bellach yn bosibl i mi. Bydd yn rhoi cyfle gwych i mi gael cipolwg ar farchnad yr Almaen a chyflwyno fy nghynnyrch i gynulleidfa newydd gyfan."
Yn 2018 roedd allforion bwyd a diod Cymru werth £539m, gyda 73% yn mynd i'r UE.
Digwyddiad tri diwrnod yw Anuga sy'n rhoi cyfle i fusnesau bwyd a diod ddatblygu cyfleoedd allforio newydd yn ogystal â chynnal y fasnach bresennol gyda phrynwyr ar draws y byd. Mae’r ffair ryngwladol bob dwy flynedd yn denu dros 165,000 o ymwelwyr o 198 o wledydd ac mae’n un o’r llwyfannau masnach, cyrchu a thuedd pwysicaf ar gyfer y diwydiant bwyd rhyngwladol.
Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn cael eu lleoli yn y Pafiliwn Rhyngwladol – 10.2 – stondin Rhif F051. Mae Anuga yn cael ei gynnal yn Cologne, yr Almaen 5-9 Hydref 2019.