Wrth i dîm rygbi Cymru baratoi ar gyfer brwydr allweddol yfory (dydd Sul) yn erbyn Awstralia yng Nghwpan Rygbi'r Byd mae un bragwr adnabyddus o Gymru eisoes yn mwynhau llwyddiant yn Siapan. Mae archebion ar gyfer Wrexham Lager yn llifo mewn ac maent yn gorfod bragu stoc ychwanegol i ateb y galw.

Daeth yr archebion o Siapan o ganlyniad i ddigwyddiad BlasCymru/TasteWales a gynhaliwyd yn gynharach eleni yng Nghasnewydd o dan faner Llywodraeth Cymru pan ddaeth dosbarthwyr bwyd a chyfanwerthwyr o bob cwr o’r byd i Gymru i gwrdd â chynhyrchwyr bwyd a diod blaenllaw Cymreig.

Mark Roberts yw rheolwr gyfarwyddwr Wrexham Lager ac mae wrth ei fodd gyda'r diddordeb,

“Yn gynharach eleni yn ystod BlasCymru cawsom ein cyflwyno i fewnforwyr o Siapan, yn amlwg roedd diddordeb yn ein cynnyrch oherwydd Cwpan y Byd oedd ar y gweill ond mae’r ymateb ers hynny wedi bod yn anhygoel.

“Roeddem eisoes wedi anfon poteli allan cyn y bencampwriaeth ond fe wnaeth rheiny werthu allan o fewn ychydig ddyddiau felly anfonwyd ail lwyth allan drwy gargo awyr ac fe werthodd hwnnw allan o fewn 24 awr. Rydym bellach wedi anfon llwyth arall eto drwy gargo awyr ac yn disgwyl y byddwn yn ailadrodd y broses dros yr wythnosau nesaf.

“Mae’r cyd-redeg â Chwpan Rygbi’r Byd wedi rhoi hwb naturiol i’r diddordeb ond gobeithiwn y gallwn fanteisio ar hyn ac adeiladu ar y llwyddiant yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”

Ac nid Siapan yw'r unig wlad lle mae Wrexham Lager yn profi’n boblogaidd gan fod mewnforiwr o'r Ffindir hefyd wedi gosod archeb ac ar hyn o bryd mae’r cwmni mewn trafodaethau gydag ystod o gwsmeriaid yn y DU a mewnforwyr Ewropeaidd o ganlyniad uniongyrchol i drafodaethau yn ystod y digwyddiad yng Nghasnewydd.

Wrth siarad am y llwyddiannau hyn, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths,

“Rydyn ni bob amser yn edrych ar ffyrdd o gynyddu ein marchnadoedd allforio gan ein bod yn gwybod bod ein cynnig bwyd a diod yng Nghymru o'r ansawdd uchaf. Yn naturiol, rydyn ni'n manteisio ar ddigwyddiadau allweddol fel Cwpan Rygbi'r Byd sy'n rhoi llwyfan byd eang i ni ac mae hwyluso trafodaethau i i gwmnïau fel Wrexham Lager yn elfen hanfodol o'n gwaith allforio.

“Rwy’n falch iawn o weld cwmnïau o Gymru fel Wrexham Lager yn cael cymaint o lwyddiant yn Siapan a gobeithio y gallant adeiladu ar hyn a datblygu perthynas allforio ffrwythlon a buddiol ar gyfer y dyfodol.”

Wedi'i drefnu gan Lywodraeth Cymru, cynhaliwyd BlasCymru/TasteWales yng ngwesty’r Celtic Manor ym mis Mawrth eleni gan ddod â'r diwydiant cyfan o dan yr un to i arddangos y gorau o fwyd a diod Cymru. Roedd hefyd yn cynnwys rhaglen gynadledda o safon uchel ac arddangosiadau o gynhyrchion safonol, arloesedd, sgilidleythau a chymorth busnes.

 

Share this page

Print this page