Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynychu un o ddigwyddiadau masnach bwyd mwyaf y byd yn Dubai, Emiradau Arabaidd Unedig rhwng 18 a 22 Chwefror. Yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Fasnach y Byd yn Dubai, bydd Gulfood yn denu dros 97,000 o ymwelwyr dros y pum diwrnod, ac yn croesawu mwy na 5,000 o arddangoswyr o 120 o wledydd gan arddangos cynhyrchion ar draws 8 sector marchnad sylfaenol.

Bydd 14 o gwmnïau Cymreig o’r sector bwyd a diod yng Nghymru yn cyflwyno o dan faner Cymru/Llywodraeth Cymru. Bydd y cwmnïau sy’n cymryd rhan o Gymru yn cynnwys Dairy Partners, Fayrefields Foods, Daioni, Calon Wen, Hilltop Honey, Hybu Cig Cymru, Radnor Hills, The Cake Crew, Llaeth y Llan, Eat my Flowers a Coco Pzazz.

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, yn credu ei bod yn hanfodol i’r diwydiant  barhau i ddatblygu marchnadoedd byd-eang,

“Yn ddiweddar mae bwyd a diod o Gymru wedi ennill enw da cynyddol a haeddiannol am ansawdd uchel. Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod yn cynnal ein gwelededd ac yn arddangos ein cynhyrchion arloesol mewn digwyddiadau masnach byd-eang allweddol. Mae bod yn bresennol mewn digwyddiadau fel Gulfood yn cyfrannu at ein targedau parhaus o gynyddu’r diwydiant o 30% i 7bn erbyn 2020 ar gyfer y sector sy’n chwarae rhan hollbwysig yn economi Cymru.”

Mae un cwmni o Ogledd Cymru - cwmni The Cake Crew yn gobeithio y bydd Gulfood yn agor y drws i gyfleoedd newydd yn y Dwyrain Canol. Fel gwneuthurwr annibynnol mwyaf cacennau bach labeli preifat yn y DU, mae’n cynhyrchu amrywiaeth eang o gynnyrch becws, gan gynnwys cacennau bach, cacennau tun bas, cacennau torth a myffins.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwerthu Bill Smith-Coats,

"Gyda becws 25,000 troedfedd sgwâr wedi'i lleoli yn y Bala, ac yn cyflogi tua 300 o staff, The Cake Crew yw un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r cwmni wedi profi twf parhaus sydd wedi arwain at ehangu i’r categori cacennau bach wedi’u brandio gyda’n cyfres ‘Beautifully Crafted’. Credwn ein bod wedi creu ryseitiau rhagorol ac rydym yn falch o’n cyfres o gacennau bach premiwm wedi’u haddurno â llaw. Gyda haen uchaf o batrwm chwyrlïad uchel ac addurniadau aur premiwm maen nhw’n cynnig danteithion gwirioneddol bleserus i ddefnyddwyr.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y daith hon ac yn gobeithio y bydd yn creu cyfleoedd newydd i ni yn y Dwyrain Canol gan ein bod yn awyddus i ehangu i’r farchnad fyd-eang.”

Ar hyn o bryd, mae’r cynhyrchydd Mozzarella, Dairy Partners, sydd yn wneuthurwr caws teuluol wedi’i hen sefydlu, yn mynd drwy broses ehangu mawr i ddarparu ar gyfer ceisiadau am ei gynhyrchion caws poblogaidd. Yn cynhyrchu Mozzarella a chaws Pizza yn ogystal â Mozzarella llawn braster, mae caws wedi cael ei gynhyrchu ar yr un safle yng Ngorllewin Cymru ers 1938. Gan ddefnyddio cynnyrch llaeth o fewn cylch o 50 milltir o’r safle yn Sir Gaerfyrddin, mae Dairy Partners yn cydweithio gyda ffermwyr lleol er mwyn sicrhau cyflenwad.

Ym mis Mehefin y llynedd, fe wnaeth Dairy Partners brynu tir i adeiladu ffatri brosesu newydd. Bydd y safle newydd yn dyblu cynhyrchiad a bydd lle i dyfu wrth i alw gynyddu, yn enwedig o farchnadoedd tramor. 

Cyn yr ymweliad â Gulfood, dywedodd y Cyfarwyddwr Will Bennett,

"Rydym wedi gweld twf uchel yn y marchnadoedd tramor yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o'r Dwyrain Canol ac Asia. Rydym yn gweld yr ehangu hwn yn ogystal â’n presenoldeb yn Gulfood, fel cyfle gwych i fynd mewn i farchnadoedd sy’n tyfu ac i fuddsoddi yn ein perthnasoedd presennol. Ni yw’r unig fusnes cwbl integredig sy’n cynhyrchu, rhwygo a phrosesu caws Pizza, mozzarella a chaws llinyn yng Ngogledd Ewrop ac rydyn ni’n tyfu drwy’r amser!”

Mae yna nifer o gynhyrchion newydd sy'n cael eu lansio gan gynhyrchwyr Cymru yn Gulfood. Bydd Llaeth y Llan / Village Dairy yn arddangos dau gynnyrch newydd - iogwrt naturiol Heb Fraster ac iogwrt Naturiol gyda Mêl, gan weithio ochr yn ochr â Hilltop Honey i ddatblygu cynnyrch a enillodd Fforch Aur yng ngwobrau Great Taste 2016.

Mae’r cynhyrchwyr mêl arobryn o’r Canolbarth, Hilltop Honey, sydd hefyd yn arddangos yn Gulfood, wedi llwyddo i restru tri chynnyrch newydd gyda Sainsbury’s y mis hwn. Mae’r gyfres newydd o gynnyrch mêl yn cynnwys Mêl Lafant, Mêl Blodau Oren a Mêl Teim a byddant ar gael ar draw 343 o siopau Sainsbury’s.

Bydd Radnor Hills yn arddangos eu cyfres Heartease Farm Premium Pressé poblogaidd a ail-lansiwyd yn ddiweddar gyda labeli newydd sbon a ryseitiau sy’n cynnwys llai o siwgr.

Wrth sôn am yr ail-lansiad dywedodd y Swyddog Marchnata Gweithredol Holly Sparrow,

“Rydym yn cadw at brif ethos a threftadaeth y brand drwy ddefnyddio cynhwysion naturiol yn unig yn ogystal â defnyddio ein dŵr ffynnon pefriog ysgafn ein hunain o’r fferm ym Mhowys. Bydd y ryseitiau newydd yn cael melyster drwy ddefnyddio Stevia - melysydd naturiol sy’n deillio’n gyfan gwbl o blanhigion ac nad yw’n cynnwys unrhyw galorïau bron! Bydd pob potel yn cynnwys yr un faint o sudd ffrwythau blasus sydd wedi’u cymysgu’n fedrus i ryseitiau Prydeinig traddodiadol ond bydd y dull ‘ysgafn’ newydd yn golygu y gallai ambell flas gynnwys tua 50% yn llai o siwgr.”

Un cynhyrchydd sy’n mynychu ac yn gobeithio gwneud argraff dda yn Gulfood yw Sarah Hughes o Eat My Flowers, sy’n creu blodau ‘bwytadwy’ wedi’u crisialu â llaw gaiff eu defnyddio i addurno pwdinau, siocled, cacennau a lolipops. Mae Sarah yn cyflenwi ei lolipops a’i blodau i Harrods yn ogystal â gwestai The Dorchester a’r Berkeley yn Llundain.

Mae'r perchennog Sarah Hughes yn ystyried Gulfood yn gyfle gwych i hyrwyddo ei chynhyrchion i gynulleidfa ryngwladol,

"Rwy'n teimlo'n gyffrous iawn am y trip i Dubai y mis nesaf. Mae digwyddiadau fel hyn yn wych i unrhyw fusnes, a gyda chefnogaeth Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru rwyf yn gallu arddangos fy nghynhyrchion yn uniongyrchol i brynwyr a chyflenwyr yn y Dwyrain Canol. Rwy'n gobeithio y bydd yr ymweliad hwn yn agor y drws i o leiaf un cyfle posibl.”

Bydd Gulfood, sydd bellach yn ei 23ain mlynedd yn dwyn cyfres o syniadau a gweithgareddau ynghyd i helpu’r gymuned bwyd a diod byd-eang wneud penderfyniadau busnes gwybodus, darganfod cynnyrch a chyflenwyr newydd, dadlennu cyfleoedd busnes newydd a dod o hyd i ddatrysiadau i heriau byd-eang newydd a heriau sy’n esblygu.

Ewch i weld stondinau Cymru SN18 a SP17 yn y World Food Sheikh Saeed Hall 1, stondinau A2-18 ac A2-26 yn y Dairy Hall yn Gulfood 2018.

Share this page

Print this page