Mae detholiad o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn gobeithio cryfhau a meithrin cysylltiadau â darpar bartneriaid a buddsoddwyr wrth iddynt ymweld â Paris, Ffrainc yr wythnos nesaf.

Fel rhan o Ymweliad Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru â’r rhanbarth rhwng 24 a 27 Ebrill 2023, bydd saith cwmni bwyd a diod yn cael y cyfle i arddangos eu cynnyrch i lu o ddosbarthwyr a phrynwyr manwerthu, pob un yn gobeithio sicrhau busnes newydd.

Ffrainc yw’r ail farchnad allforio fwyaf ar gyfer bwyd a diod o Gymru, a gyda Chwpan Rygbi’r Byd i’w chynnal yno yn ddiweddarach eleni, mae’n cael ei ystyried yn gyfle gwych i hyrwyddo cynnyrch Cymreig.

Ymhlith y cwmnïau Cymreig sy’n cymryd rhan yn yr Ymweliad Datblygu Masnach â Paris mae Cradoc’s Savory Biscuits, Cwmfarm Charcuterie Products, Distyllfa Castell Hensol, In the Welsh Wind, Meridian Foods, Sims Foods Limited – SamosaCo a Tŷ Nant.

Yn dilyn llwyddiant cyfranogiad Llywodraeth Cymru yn SIAL 2022, mae potensial mawr i gwmnïau bwyd a diod o Gymru allforio i Ffrainc. Nod yr ymweliad yw manteisio ar gyfleoedd rhwydweithio a chydweithio rhwng y cynhyrchwyr, Llywodraeth Cymru a Ffrainc yn ogystal â chryfhau cysylltiadau busnes, masnach a thwristiaeth.

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Mae allforion ar gyfer y sector wedi tyfu yn y degawd diwethaf ac rydym yn cefnogi cwmnïau yng Nghymru i weld hyn yn parhau. Mae ein rhaglen cymorth allforio ar gael i bob busnes bwyd a diod ac yn helpu darpar allforwyr yn ogystal â rhai newydd a sefydledig.

“Mae’n wych bod cwmnïau Cymreig yn cael y cyfle hwn i arddangos eu cynnyrch gwych ac i adeiladu perthnasoedd gwaith newydd yn Ffrainc cyn Cwpan Rygbi’r Byd.”

Yn ystod yr ymweliad, bydd y cynadleddwyr yn cael cyfle i arddangos cynnyrch i brynwyr, mewnforwyr a dosbarthwyr dethol a datblygu busnes newydd trwy gyfres o sesiynau briffio yn y farchnad, ymweliadau â siopau a chyfleoedd i gwrdd â’r prynwr.

Un o’r cwmnïau sydd eisiau adeiladu ar y diddordeb a ddangoswyd yn SIAL Paris y llynedd yw Cwmfarm Charcuterie o Abertawe, fel y dywed Ruth Davies,

“Cawsom gryn dipyn o ddiddordeb yn dilyn ein presenoldeb yn SIAL Paris y llynedd ac rydym eisiau datblygu’r cysylltiadau hyn ymhellach. Rwy'n gobeithio gadael yr ymweliad hwn gyda dosbarthwr neu asiant yn ei le i gynorthwyo yn y dyfodol yn ogystal â chreu cysylltiadau newydd.

“Bydd y Daith Fasnach hon yn rhoi cyfle gwych i ni roi ein cynnyrch o flaen prynwyr posibl cyn Cwpan Rygbi’r Byd yn ddiweddarach eleni.”

Mae Meridian Foods o ogledd Cymru yn gwmni arall sy'n mynd i Paris ac yn gobeithio dod o hyd i bartner masnachu addas yn y rhanbarth ar gyfer eu brand menyn cnau.

Dywedodd Grant Martin, Rheolwr Cyfrifon Cenedlaethol Meridian Foods,

“Ein hamcan trwy fynychu’r Ymweliad Datblygu Masnach yw deall y farchnad menyn cnau Ffrengig yn fwy manwl a dod o hyd i lwybr addas i’r farchnad, naill ai trwy ddosbarthwr neu’n uniongyrchol i’r sector manwerthu ar gyfer ein brand Meridian.”

Mae Allie Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Cradoc’s Savory Biscuits yn Aberhonddu hefyd yn gobeithio ddefnyddio’r ymweliad â Ffrainc fel modd o fuddsoddi yn y farchnad ac adolygu lleoliad cynnyrch, gan fod gweini bara gyda chaws yn arferol yno.

“Rydyn ni wedi bod yn ehangu ein busnes cyfanwerthu allforio ac yn canolbwyntio ar farchnadoedd sy'n tyfu. Rydyn ni eisiau lleihau ein hôl troed carbon ac mae Ffrainc ar garreg ein drws. Gallai’r farchnad hon weithio’n dda o bosibl, os ydyn ni’n gallu deall sut y gallen ni addasu ein cynnyrch i fodloni anghenion y genedl hon sy’n dwlu ar fara.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at yr ymweliad hwn, cawson ni lawer o ddiddordeb yn SIAL Paris 2022, fis Hydref diwethaf ac mae angen i’r cysylltiadau hynny weithio i ni.”

Ffrainc yw'r ail farchnad allforio fwyaf ar gyfer bwyd a diod o Gymru, gyda'r gwerth yn cyrraedd £100m yn 2021, i fyny o £72m yn 2020. Y categori allforio gwerth uchaf oedd cig a chynhyrchion cig ar £68m, gyda grawnfwydydd a pharatoadau grawnfwyd yn dilyn ar £9m. Allforiodd y DU £2.3bn o nwyddau bwyd a diod i Ffrainc yn 2021.

Cododd mewnforion nwyddau Ffrainc 21.2% yn 2021, tra bod ganddyn nhw'r bumed farchnad bwyd wedi'i becynnu fwyaf yn y byd. Mae marchnad Ffrainc yn soffistigedig gyda gwerthfawrogiad o ansawdd ac olrhain. Yn gynyddol, mae Ffrainc yn croesawu blasau rhyngwladol.

Bydd uchafbwyntiau’r ymweliad yn cynnwys cyfarfodydd gyda nifer o brynwyr, yn y sector manwerthu a gwasanaeth bwyd. Bydd yna hefyd daith marchnad manwerthu i gynrychiolwyr i brofi sut beth yw marchnadoedd bwyd Ffrainc a bydd yn cynnwys ymweliad â Marchnad Rungis, y farchnad fwyd gyfanwerthu fwyaf sy'n gwasanaethu ardal fetropolitan Paris a thu hwnt, y dywedir mai hon yw'r farchnad fwyd fwyaf yn y byd.

Mae datgloi marchnadoedd newydd yn dod â hyd yn oed mwy o gyfleoedd i'r busnesau hyn nid yn unig arddangos eu cynnyrch o safon ledled y byd, ond hefyd i gynhyrchu mwy o refeniw a chynyddu elw.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo eich busnes gydag allforio, ewch i https://businesswales.gov.wales/export/cy/homepagehafan

Share this page

Print this page