Gyda Chwpan Rygbi’r Byd yn cychwyn yn Japan y mis hwn mae cwrw a gwirodydd o Gymru yn cael eu hallforio i Asia er mwyn i gefnogwyr rygbi gael eu blasu.
Mae casgliad o gwrw Cymreig gan Fragdy Mŵs Piws a gwirodydd Cymreig gan Ddistyllfa Wisgi Aber Falls wedi eu cael eu hanfon yn dilyn ymweliadau datblygu masnach llwyddiannus Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn ymweliad masnach ddiweddar llwyddodd Bragdy Mŵs Piws i sicrhau cytundeb sylweddol yn Tokyo. Maen nhw wedi allforio naw paled sy’n cynnwys 10,560 potel o’u casgliad craidd o gwrw. Mae’r poteli bellach yn nwylo dosbarthwr sy’n cyflenwi dau o’u bwytai eu hunain yn ogystal â bariau a bwytai ar draws Japan.
Dywedodd Lawrence Washington, a sefydlodd Bragdy Mŵs Piws ym Mhorthmadog yn 2005 ac sydd wedi ennill sawl gwobr am ei gwrw,
“Rydyn ni newydd allforio ein harcheb gyntaf i Tokyo. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gefnogwyr rygbi Cymru fwynhau blas o adref pan fyddant yn cyrraedd Japan ym mis Medi eleni. Rydyn ni wedi anfon ein casgliad craidd o gwrw potel yno. Mae’r casgliad hwnnw’n cynnwys Cwrw Eryri, Cwrw Madog, Cwrw Ysgawen, Cwrw Glaslyn ac Ochr Dywyll y Mŵs, yn ogystal â dau o’n cwrw crefft – Cwrw Mwsh ac Antlered IPA.
“Mae ymweliadau masnach Llywodraeth Cymru wedi bod yn hynod werthfawr o ran creu cyfleoedd busnes yn Asia. Rwy’n argymell i unrhyw un sy’n ystyried y peth i gymryd fanteisio ar y cyfle.”
Mae Distyllfa Wisgi Aber Falls wedi ei sefydlu ym mhentref Abergwyngregyn yng Ngogledd Cymru. Hon yw’r ddistyllfa gyntaf yng Ngogledd Cymru ers dros gan mlynedd. Maen nhw wedi anfon cynnyrch o’u casgliad, sydd eisoes wedi derbyn clod rhyngwladol, i Japan. Mae’r cyfan yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio dŵr Rhaeadr Fawr, y rhaeadr Aber Falls enwog, sy’n golygu bod y stori am darddle’r gwirodydd ymhlith y straeon mwyaf dilys yng Nghymru.
Dywedodd James Wright, Rheolwr-Gyfarwyddwr Aber Falls: “Mae’r ddistyllfa wedi bod yn weithredol am lai na dwy flynedd ac mae ein gwirodydd eisoes wedi ennill teitl ‘Cynnyrch Newydd Gorau Prydain’ yng ngwobrau Great British Food Awards 2018. Gallwn ddweud â sicrwydd felly ein bod wedi cynhyrchu hylifau o safon sy’n flasus dros ben.
“Mae ein Swp Bychan o Jin Cymreig yn un o’n jiniau gorau. Ynddo mae perarogl blodeuol lafant yn bennaf sy’n cael ei gwblhau gan flasau meryw a phupur. Mae hyn yn rhoi blas gorffenedig melys i’r jin a’r blas hwn yn aros yn geg am amser. Mae ein casgliad hefyd yn cynnwys ein Jin Riwbob a Sinsir a Jin Marmalêd Oren sef ein gwerthwyr gorau. Mae’r rhain yn cael eu hategu gan ein Gwirod Fioled, Gwirod Toffi Hallt a Gwirod Siocled Tywyll sy’n berffaith ar gyfer coctels.
“Rydyn ni’n hynod falch bod cefnogwyr rygbi ar draws y byd yn mynd i gael y cyfle i fwynhau ein cynnyrch yn ystod Cwpan y Byd. O ystyried bod ein Wisgi yn mynd i gael ei lawnsio yn 2021, bydd Japan yn farchnad bwysig iawn i ni. Dyma gyfle gwych i ymdrwytho pobl yn stori Aber Falls a’u cyffroi ar gyfer lansiadau yn y dyfodol. Mae’r ymweliad datblygu masnach diweddar gan Lywodraeth Cymru wedi ysgogi trafodaethau hynod gadarnhaol ynghylch presenoldeb Aber Falls yn Japan.”
Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn credu ei bod yn hanfodol i’r diwydiant bwyd a diod gymryd mantais o gyfleoedd fel hyn er mwyn parhau i ddatblygu marchnadoedd byd-eang. Dywedodd, “Mae’n wych gweld bwyd a diod o Gymru yn serennu yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Japan yr Hydref hwn. Dyma engrhaifft arbennig o sut y gall busnesau bwyd a diod o Gymru gamu i farchnadoedd newydd drwy fynychu digwyddiadau masnach byd-eang allweddol”.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Bragdy Mŵs Piws ewch i https://purplemoose.co.uk.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Distyllfa Wisgi Aber Falls ewch i www.aberfallsditillery.com.