• Princes fydd y prif noddwr wrth iddynt ddatgelu cynlluniau i drawsnewid eu safle gynhyrchu yng Nghaerdydd yn ‘Ganolfan Ragoriaeth Diodydd Meddal’
  • Mae ffigyrau newydd yn dangos yr arweiniodd digwyddiad BlasCymru / TasteWales cyntaf at £14miliwn o werthiannau ychwanegol i fusnesau bwyd a diod Cymru

Cyhoeddwyd mai un o’r enwau mwyaf yn niwydiant bwyd a diod Cymru y DG fydd y prif noddwr ar gyfer BlasCymru / TasteWales 2019.

Bydd Princes yn cynnig eu cefnogaeth i’r ail arddangosiad rhyngwladol o fwyd a diod o Gymru, a gynhelir unwaith eto yng Nghanolfan y Celtic Manor yng Nghasnewydd (20 – 21 Mawrth 2019) ac sy’n croesawu prynwyr bwyd a gweithwyr bwyd proffesiynol o bedwar ban byd.

Mae’r nawdd yn cyd-ddigwydd â buddsoddiad o tua £60 miliwn gan y cwmni yn ei ganolfan yng Nghaerdydd, sef eu buddsoddiad mwyaf erioed yn y farchnad diodydd meddal. Bydd y prosiect yn trawsnewid y safle yn ‘Ganolfan Ragoriaeth Diodydd Meddal’ bwrpasol, ac yn cynyddu capasiti ar gyfer eu cynhyrchion sudd amgylchynol ac wedi’i oeri, fydd yn eu galluogi i ddatblygu cynhyrchion newydd wrth i’r cwmni atgyfnerthu ei safle yn un o’r prif gwmnïau cynhyrchu diodydd meddal.

Mae paratoadau Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddynt yn barod ar gyfer digwyddiad arfaethedig BlasCymru / TasteWales, ac mae ffigyrau newydd yn dangos y cynhyrchodd digwyddiad cychwynnol y llynedd werth £14 miliwn o werthiannau a chontractau ychwanegol, ac mae gobeithion uchel am well perfformiad fyth y tro hwn. Daw’r digwyddiad ar adeg gynhyrchiol iawn i ddiwydiant bwyd a diod Cymru, gan fod targed y llywodraeth, sef twf o 30% i £7bn erbyn 2020, bron â’i gyrraedd.

Dywedodd Craig Price, Prif Weithredwr Princes Limited,

“Mae Princes yn falch iawn o fod yn cefnogi BlasCymru / TasteWales yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd a’r hwb a roddodd i lawer o gynhyrchwyr bwyd a diod. Mewn sawl ffordd, mae’r  amseru’n gweddu’n berffaith i’n cynlluniau ehangu uchelgeisiol yng Nghymru wrth inni geisio trawsnewid ein canolfan yng Nghaerdydd yn ‘Ganolfan Ragoriaeth Diodydd Meddal’. Mae hwn yn dangos ein hymrwymiad hirdymor i’n gwaith yng Nghaerdydd, a fydd yn creu swyddi newydd ac yn ein helpu i dyfu ac addasu wrth i archwaeth pobl newid a diwallu anghenion ein cwsmeriaid a defnyddwyr i’r dyfodol.” 

Ysgrifennydd Cabinet Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths sy’n gyfrifol am y digwyddiad,

“Mae defnyddwyr bob tro’n chwilio am ansawdd da a dyna pam mae prynwyr cenedlaethol a rhyngwladol yn troi fwy a mwy i Gymru. Gwelwyd hynny’n amlwg iawn yn dilyn digwyddiad y llynedd, ac roedd yr £14m a gynhyrchwyd i’n cynhyrchwyr yn uwch na’n holl ddisgwyliadau cychwynnol. Mae gennym bob rheswm i fod yn falch o’n cynnyrch, a gwyddom fod llwyddiant y diwydiant i’r dyfodol yn dibynnu arnynt yn cael mynediad i gymaint o farchnadoedd newydd ag y bo modd, sef pam mae BlasCymru / TasteWales mor bwysig i’w llwyddiant i’r dyfodol.”

Share this page

Print this page