Mae penderfyniad Cymru i gynnal a chryfhau ei chysylltiadau gyda phartneriaid Ewropeaidd yn ffocws digwyddiad busnes-i-fusnes rhyngwladol a gynhelir yn hwyrach y mis yma. Er gwaethaf ansicrwydd Brexit, bydd Llywodraeth Cymru yn dweud wrth y ddirprwyaeth ryngwladol o Brosiect Allforio Bwyd yr Iwerydd fod Cymru’n parhau i fod yn genedl allblyg a chroesawgar, sydd yn agored i fusnes.

Cynhelir y digwyddiad busnes-i-fusnes diolch i aelodaeth Cymru o brosiect Ardal yr Iwerydd a ariennir ag €1.8miliwn o arian Ewropeaidd, wedi’i gyd-ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gyflawni gan BIC Innovation. Mae’r prosiect yn helpu cwmnïau bwyd a diodbychain i weithio gyda’i gilydd i oresgyn rhwystrau a bod yn gystadleuol ar draws marchnadoedd byd-eang.

Bydd bron i 50 o gynrychiolwyr yn mynychu’r digwyddiad yng Nghymru o wahanol ranbarthau’r prosiect, gan gynnwys o Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Byddant yn cymryd rhan mewn rhaglen lawn o ddigwyddiadau er mwyn archwilio a datblygu ymhellach gyd-berthnasoedd rhwng y sectoraubwyd a diod Cymreig ac Ewropeaidd.

Bydd y ddirprwyaeth yn cael ei chroesawu’n swyddogol gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fydd yn tanlinellu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal perthnasoedd da gyda phartneriaid yn Ewrop, trwy ddweud:

“Beth bynnag ddaw’r dyfodol, mae ein penderfyniad nid yn unig i gynnal ond i gryfhau ein partneriaethau gyda chenhedloedd a rhanbarthau ledled Ewrop yn gwbl gadarn.  Gwyddom mai cydweithio yw’r peth iawn i’w wneud, gwyddom y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd a gwyddom fod sector bwyd a diod Cymru yn gryfach oherwydd y partneriaethau hyn. Efallai fod y fframwaith y gweithredwn ynddo yn wahanol, ond mae ein huchelgais i gydweithio ar draws ffiniau yn gryfach nac erioed.”

Mae Prosiect Allforio Bwyd yr Iwerydd yn crynhoi at ei gilydd gorff o sgiliau a phrofiad diwydiannau bwyd ar draws Ewrop. Cafodd cwmnïau o Gymru fu’n rhan o’r cynllun y cyfle i ymweld â’r rhanbarthau eraill, archwilio partneriaethau ar y cyd gyda chwmnïau bwyd a diod bach a chanolig o’r un anian a datblygu gweithgareddau mynediad i’r farchnad ar y cyd megis teithiau astudio a ffeiriau masnach.

Mae’r ddirprwyaeth ryngwladol yn cyfarfod law yn llaw â chynhadledd fasnach ryngwladol BlasCymru/TasteWales yng Nghanolfan y Celtic Manor yng Nghasnewydd ar 20-21 Mawrth.

Mae disgwyl i BlasCymru/TasteWales ddenu mwy na 600 o gynadleddwyr o bob rhan o’r byd, fydd yn dod at ei gilydd i rwydweithio, clywed gan arbenigwyr rhyngwladol yn y diwydiant ynghyd â blasu llawer o’r llwyddiannau bwyd a diod a gynhyrchir yng Nghymru.

 

 

Share this page

Print this page