Mae busnesau bwyd a diod o Gymru wedi bod yn brysur yn arddangos eu cynnyrch mewn cyfres o ddigwyddiadau ledled y Deyrnas Unedig i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi 2020 (dydd Sul 1 Mawrth).

I hyrwyddo'r amrywiaeth eang o fwyd a diod sydd gan Gymru i'w chynnig, o gaws i siocled, ac o gwrw i brownis, mae rhai o gynhyrchwyr gorau Cymru wedi bod yn codi stondinau pop-yp yn rhai o orsafoedd trên prysuraf y Deyrnas Unedig.

Yr wythnos diwethaf, bu cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn meddiannu gorsaf Piccadilly Manceinion (dydd Gwener 28 Chwefror), lle roedd Cwmni Caws Eryri, diodydd ysgafn Flawsome, Shelly's Shortbread a Bragdy Gŵyr, ymhlith y cynhyrchwyr a fu'n cynnig samplau a thameidiau i deithwyr.

Fel un o'r gorsafoedd trenau sy'n bwydo Cymru, croesawodd gorsaf Paddington lu o gynhyrchwyr o Gymru gan gynnwys Radnor Hills, Gower Cottage Brownies a Llaeth Organig Daioni – roedd pob un ohonynt yn gosod Cymru ar y map ddydd Llun 2 Mawrth.

Ac yn olaf, roedd bragdy Grey Trees, Cwm Farm Charcuterie, Caws Cenarth a Distyllfa Aber Falls i gyd yn cynrychioli Cymru yng ngorsaf New Street Birmingham ddydd Mercher 4 Mawrth.

Roedd y dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn rhan o ymgyrch #GwladGwlad Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod Cymru a'i chynnyrch rhagorol yn cael y sylw mwyaf posib ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, a fu yn y digwyddiad yng Ngorsaf Paddington, Llundain: "Dylai Cymru fod yn falch iawn o'i sector bwyd a diod amrywiol a ffyniannus, a does dim achlysur gwell i'w ddathlu na Dydd Gŵyl Dewi.

"Ar ddechrau'r flwyddyn, fe gyhoeddon ni'r ffigur trosiant blynyddol uchaf erioed o £7.47 biliwn ar gyfer y sector – flwyddyn yn gynnar – sy'n cynrychioli twf o 30% yn y sector ers 2014.

"Caiff ein bwyd a'n diod eu hallforio a'u mwynhau ledled y byd, ac mae cynhwysion poblogaidd, o gig oen eiconig Cymru i'r halen puraf, yn cael eu dewis gan y cogyddion gorau i'w cynnwys ar eu bwydlenni.

"Mae digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi eleni wedi gosod diwydiant bwyd a diod Cymru ar y map, a byddant yn atgyfnerthu ansawdd a gwerth cynnyrch Cymru yn y byd."

Er mwyn annog pawb i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, creodd Bwyd a Diod Cymru, sef Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru, stôr o syniadau am ryseitiau gan ddefnyddio'r gorau o gynnyrch Cymru.

Mae'r seigiau'n cynnwys cawl cennin a thatws gyda Chaws Caerffili a phlu bara lawr, y rac gorau o gig oen Cymru a phwdin o gwstard mêl Cymreig gyda chrymbl pice ar y maen a riwbob wedi'i ysbrydoli gan y gwanwyn, yn ogystal â detholiad o seigiau ar yr ochr.

Mae'r ryseitiau ar gael ar-lein yn: Dyma Ddathliad. Gwlad Gwlad.

 

Share this page

Print this page