Bydd rhai o gwmnïau bwyd a diod gorau Cymru yn mynychu arddangosfa fasnach fwyaf y DU ym Mirmingham canol mis yma. Bydd dros 1,500 o arddangoswyr yn mynychu’r digwyddiad tri diwrnod, Food & Drink Expo yn yr NEC o ddydd Llun 16 Ebrill i ddydd Mercher 18 Ebrill.
Bydd naw ar hugain o gwmnïau yn rhan o stondin Cymru, a bydd nifer ohonynt yn dadorchuddio cynhyrchion newydd ac arloesol. Mae’r rhain yn cynnwys Princes Gate, Mario’s Ice Cream, The Welsh Sausage Company, Halen Môn, Snowdonia Cheese, Pancake World, Plas Farm a’r Authentic Curry Company. Hefyd, bydd nifer o gynhyrchwyr yn arddangos fel rhan o Arddangosfa Bwyd a Diod Cymru.
Un cwmni sy’n gobeithio defnyddio’r digwyddiad Food & Drink Expo fel llwyfan i lansio tair llinell newydd yw Fori, sy’n cynnig byrbrydau cig sawrus protein uchel, wedi’u hysbrydoli gan ddeiet Paleo, ac yn ddewis amgen i fariau byrbryd traddodiadol.
Mae’r bariau 35g newydd ar gael mewn tri blasau – Porc gyda Bacwn Mwg, Cig Eidion gyda Phupur wedi Cracio a Chyw iâr Texas BBQ. Mae’r tri bar yn cynnwys 100% cig wedi’i fagu yn yr awyr agored, yn rhydd, ar laswellt Prydain ac maen nhw i gyd yn cynnwys llai nag 80 o galorïau ond yn parhau i fod yn uchel mewn protein. Hefyd, nid oes unrhyw siwgr wedi’i ychwanegu atyn nhw ac nid ydynt yn cynnwys glwten, cnau na chynnyrch llaeth.
Dywedodd Juliana Morgans o Fori,
"Mae digwyddiadau masnach megis Food & Drink Expo yn gyfle pwysig i gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru arddangos eu cynnyrch i brynwyr a dosbarthwyr ac rydyn ni’n falch o fod yn rhan o’r digwyddiad hwn.
"Rydyn ni am ddefnyddio’r sioe i lansio ein tair llinell newydd ac rydyn ni’n hynod gyffrous. Rydym yn gobeithio bydd ein bariau yn aildanio’r categori byrbrydau cig gan ddefnyddio safonau lles anifeiliaid arloesol a defnyddio cynhwysion bwyd cyflawn, naturiol gorau posibl.”
Bydd cwmni Langford’s The Welsh Sausage Company yn cyflwyno sleisen frecwast heb glwten newydd yn ogystal â’u cynnyrch heb glwten gan ddefnyddio cig oen, cig eidion a phorc, ac mae disgwyl i’r rhain gael eu lansio mewn ysgolion yn y DU ar 1 Ebrill.
Wrth sôn am y cynhyrchion newydd, dywedodd John Langford o Langford’s The Welsh Sausage Company,
"Mae pob ysgol sydd wedi samplu ein griliau a’n pelenni cig wedi eu cymryd. Rydym wedi targedu plant 7 i 12 mlwydd oed gyda’r cynhyrchion hyn ac maen nhw wrth eu boddau. Byddant mewn dros 8,000 o ysgolion yn y DU o Ebrill, ac mae 2,000 ohonynt yn ysgolion yng Nghymru. Mae hyn yn swm enfawr i ni ac yn gyfle gwych i gael plant ysgol i fwyta a charu cig oen, sy’n eitem nad yw wedi bod ar fwydlenni ysgol am y 4 blynedd diwethaf.
Rydyn ni’n credu y bydd yn cael effaith fawr ar bobl yn prynu cig oen ac yn teimlo mai ein cynnyrch heb glwten yw’r ffordd ymlaen.”
Mae OK Food and Drinks Ltd yn lansio saws Tro Ffrio 250ml o’r enw That Style Sweet and Sour. Yn gynharach eleni fe wnaethon nhw newid eu pastau cyrri o jariau gwydr i fagiau bychan 2 x 65g sydd wedi’u pecynnu mewn llawes cardfwrdd amlwg, mawr, sy’n golygu ei fod i’w weld yn fwy amlwg ar y silff, yn haws i’w storio ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r cwsmer o ran faint o’r pâst sy’n cael ei ddefnyddio.
Mae Cwmfarm Charcuterie yn lansio dau gynnyrch newydd, gan gynnwys Calonnau Cig Eidion wedi'u Halltu – cydweithrediad newydd â’r Cogydd Cymreig Grady Atkins o Gaerdydd; yn ogystal â Salami Bara Lawr wedi’i orchuddio mewn Cŵyr Gwenyn Cymreig, gan weithio unwaith eto gyda rhai o Wenynwyr Cymru i ddefnyddio sgil-gynhyrchion y gwenyn mêl sy’n helpu gyda phecynnu ac oes silff.
Wrth sôn am fod yn rhan o'r arddangosfa, dywedodd Ruth Davies perchennog Cwmfarm Charcuterie,
“Rydym yn gyffrous iawn i lansio cynhyrchion newydd yn y Food & Drink Expo. Mae arddangos mewn digwyddiadau mawr fel hyn yn rhoi’r cyfle i ni siarad yn uniongyrchol gyda phrynwyr ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn sbardun i ni wrth i ni geisio symud y busnes yn ei flaen.
Mae'r holl gwmnïau o Gymru sy’n arddangos o dan frand Cymru/Wales yn cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru sy'n eu galluogi i fod yn bresennol mewn digwyddiadau masnach megis y Food & Drink Expo.
Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
"Rwyf wrth fy modd bod gymaint o gynhyrchwyr o Gymru yn mynychu digwyddiad Food & Drink Expo eleni. Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos rhai o'r cynhyrchion arloesol sy’n dod o Gymru a dangos pa mor bwysig yw bwyd a diod o Gymru i farchnad y DU.
"Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ac i ddathlu llwyddiant ein cynhyrchwyr wrth i ni barhau i weld y sector yn tyfu."
Bore Llun a Mercher rhwng 10:15am a 11:00am yn yr ardal The Grocer Talking Shop Live yn y Food & Drink Expo bydd cyfle i ‘Ddeffro gyda Chymru’. Gallwch ddathlu bwydydd Cymreig a samplu blasau newydd cyffrous y wlad wrth i’r darlledwr bwyd a diod Nigel Barden gyflwyno arddangosfa Cymru.
Bydd nifer o gwmnïau Cymreig, gan gynnwys Tomos a Lilford Brewery a Sabor de Amor yn cymryd rhan yn sesiwn Dragon’s Pantry, gydag amrywiaeth o brynwyr.
Food & Drink Expo 2018 yw sioe bwyd a diod fwyaf blaengar y DU, ac mae’n cael ei gynnal rhwng 16 ac 18 Ebrill. Bydd Food & Drink Expo yn rhedeg ochr yn ochr â Foodex, The Ingredients Show, National Convenience Show a Farm Shop & Deli Show. Mae sioeau bwyd y DU yn denu prynwyr a phobl sy’n gwneud penderfyniadau o bob cwr i’r diwydiant, a byddant yn cyfarfod i geisio darganfod y tueddiadau diweddaraf, digwyddiadau lansio cynnyrch diweddaraf a gweledigaeth y diwydiant ar gyfer y dyfodol.
Dewch i ymweld â stondinau Cymru L100, L110, M110, N100, P100 yn y Food & Drink Expo o 16-18 Ebrill 2018 am amrywiaeth o gynhyrchion bwyd a diod newydd ac arloesol. Bydd cyfle i gyfarfod cynhyrchwyr Cymreig sy’n arddangos mewn derbyniad i’w gynnal ar brif stondin Cymru ddydd Mawrth 17 Ebrill am 5:00pm - gyda Nigel Barden, darlledwr bwyd a diod.