Bydd busnesau bwyd a diod o bob rhan o Gymru’n arddangos eu cynnyrch mewn cyfres o ddigwyddiadau ar draws y Deurnas Unedig i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi 2019.  

I geisio hyrwyddo cynnyrch Cymru i ddefnyddwyr y tu allan i Gymru, bydd yna gyfres o ddigwyddiadau yn Llundain a Manceinion, y dathliadau mwyaf hyd yma o fwyd a diod Cymru i’w cynnal ar lefel y DU.  

Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru’n chwythu’r utgorn ledled y DU ac yn atgyfnerthu’r neges bod ansawdd a gwerth am arian bwyd a diod Cymru gyda’r gorau yn y byd.  

Yn Llundain, bydd yna gyfle mewn digwyddiadau ym Marchnad Borough a Gorsaf Paddington i flasu cawsiau cyfoethocaf Eryri, brownis braf Bro Gŵyr, coffi cain o galon Sir Gaerfyrddin a chacuterie o safon ryngwladol o Fannau Brycheiniog.  

Bydd ymwelwyr â Marchnad Borough rhwng 28 Chwefror a 1 Mawrth yn cael eu trochi mewn bwyd a diod o Gymru wrth i gynhyrchwyr ddod â blas Cymru i'r farchnad fwyd boblogaidd gyda bwydydd parod yn ogystal â chynnyrch i fynd adref.  

Fel ‘y porth’ i Gymru, bydd Gorsaf Paddington yn croesawu llu o gynhyrchwyr o Gymru a fydd yn cynnig samplau a thameidiau i gymudwyr ddydd Mercher 27 Chwefror.  Bydd teithwyr ar wasanaeth trenau GWR o Abertawe i Paddington yn cael cynnig pice ar y maen gyda'u coffi a tê Welsh Brew a’u ar Ddydd Gŵyl Dewi ei hunan.    

Ymhellach i’r gogledd, bydd gorsaf Piccadilly, Manceinion, yn croesawu cynhyrchwyr o Gymru ar 1 Mawrth i arddangos bwyd o’r popty, jins o Gymru ac hefyd y halen môr gorau yn y byd gan Halen Môn.  

Bydd siopau hefyd yn cefnogi cynnyrch Cymru gyda nifer o gynhyrchwyr yn cael eu gwahodd i bencadlysoedd Waitrose, Co-op a Tesco i hyrwyddo’r gorau oll o Gymru i’w staff.  

Yn siop Morrisons yn Wrecsam, bydd yna ffrwydrad o Gymreictod ar Ddydd Gŵyl Dewi gydag amrywiaeth o gynhyrchwyr a Hybu Cig Cymru’n cynnig samplau i staff a chwsmeriaid.

Rhan yw’r dathliadau hyn ar Ddydd Gŵyl Dewi o ymgyrch Llywodraeth Cymru #ThisisWales #GwladGwlad i wneud yn siŵr taw Cymru a'i chynnyrch safon ryngwladol yw seren y sioe ar y diwrnod mawr.  

Meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Bob blwyddyn, mae ein dathliadau Dydd Gŵyl Dewi’n tyfu’n fwy ac yn well ac mae'r diolch am hynny i ansawdd y bwyd a'r diod sy'n dod o Gymru.  O gynhyrchwyr bwrdd y gegin i gynhyrchwyr graddfa enfawr, rydyn ni'n cynhyrchu bwyd a diod sydd cystal bob tipyn â'r enwau brand mwyaf a gorau o dros y byd i gyd.  Mae’r ffaith bod cynnyrch Cymru i’w gael erbyn hyn yn rhai o’r bwytai gorau ym mhob rhan o’r byd yn rhywbeth y dylen ni fod yn hynod falch ohono.

“Gyda Brexit mor agos, mae'n rhaid i ni hyrwyddo brand Cymru gymaint ag y gallwn ni, fel bod cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru'n cryfhau eu lle yn y farchnad ac i wneud yn siŵr y byddan nhw’n gallu llwyddo yn wyneb yr heriau sydd o’u blaenau”.   

Mae Wythnos Cymru’n ymestyn o 23 Chwefror i 9 Mawrth a bydd bwyd a diod Cymru’n cael ei hyrwyddo’n eang yn ystod y cyfnod hwn.

Share this page

Print this page