Mae paratoadau’n mynd rhagddynt er mwyn i gwmnïau bwyd a diod o Gymru serennu yr wythnos hon mewn dau ddigwyddiad masnach rhyngwladol.

Y cyntaf yw IFE (Y Digwyddiad Bwyd a Diod Rhyngwladol), un o brif ddigwyddiadau’r diwydiant yng ngwledydd Prydain. Fe’i cynhelir rhwng 17-20 Mawrth yn ExCeL yn Llundain, a disgrifir digwyddiad eleni fel dathliad o 1,350 gynhyrchwyr bwyd a diod blaengar, byd-eang ac arloesol.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd naw cwmni bwyd a diod o Gymru yn ymddangos ar stondin Cymru/Wales, gydag amrywiaeth eang o gynhyrchion i’w gweld, o selsig, caws a chynnyrch llaeth, bara a melysion, i halen a dŵr mwynol.

Y cwmnïau o Gymru fydd yn arddangos yw Pancake World, The Welsh Sausage Company, Snowdonia Cheese Company, Wild Trail, Anglesey Sea Salt Company/Halen Môn, Nimbus Foods, Princes Gate Water, The Authentic Curry Co Ltd ac Euro Foods UK.

Cafodd Wild Trail, un o frandiau Brighter Foods, ddechrau llwyddiannus eisoes i 2019 wrth i dri o flasau eu cyfres byrbrydau iachach gael eu rhestru yn siopau’r Co-op ledled Cymru, a hynny wedi iddynt gael archebion gan Tesco (ledled gwledydd Prydain), Ocado ac Amazon.

Mae Jim Williams, Rheolwr Brand Wild Trail, yn edrych ymlaen at y cyfleoedd y bydd IFE yn eu cynnig,

“Rydym wrth ein bodd o fod wedi ennill y rhestriad newydd gyda’r Co-op yng Nghymru. Rydym wedi gweithio’n galed i greu bar byrbryd rhydd rhag safon uchaf sy’n bodloni gofynion y defnyddiwr cyfoes.

“Mae’n gyffrous cael mynd i IFE gyda’n cynhyrchion. Mae’n gyfle gwych i arddangos i’r diwydiant yr holl gynhyrchion gwych ac arloesol sydd ar gael yma yng Nghymru, ond mae’n gyfle gwych hefyd i ddatblygu partneriaethau busnes a pharhau i adeiladu ar ein llwyddiant diweddar.”

Hefyd yn bresennol fydd y cwmni dŵr ffynnon Princes Gate, fydd yn datgelu eu pecynnu plastig wedi'i ail-gylchu 51% am y tro cyntaf. Ar eu fferm laeth organig ar odre mynyddoedd y Preseli, sefydlwyd y cwmni gan ddau frawd 27 mlynedd yn ôl a bu eu teulu’n amaethu’r tir ers cenedlaethau. Mae eu proses yn un syml iawn – mae glaw yn syrthio ar fynyddoedd y Preseli ac maent wedyn yn aros 15 mlynedd i’r dŵr hidlo drwy’r creigiau llawn mwynau hyd nes y caiff ei botelu yn eu ffatri bwrpasol.

Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad, dywedodd Derick Lewes-Gale, Rheolwr Cyfrifon Cenedlaethol yn Princes Gate Spring Water Ltd,

“Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio 25% o rPET wedi’i ail-gylchu yn ein holl boteli ar draws y gyfres ac rydym wedi ymrwymo i gynyddu hyn i 51% y gwanwyn eleni gan ddefnyddio cwmni o wledydd Prydain. Mae cynaliadwyedd yn hollbwysig inni, ac felly yn y blynyddoedd diwethaf gwnaethom nifer o newidiadau mawr yn ein ffatri sy’n golygu erbyn hyn mai ni yw’r unig gwmni cynhyrchu yn sector diodydd meddal gwledydd Prydain sy’n gwbl hunangynhaliol o’r ynni gwyrdd sy’n cael ei gynhyrchu ar y safle.”

Yn dilyn IFE, bydd cwmnïau bwyd a diod o Gymru’n cael cwmni arbenigwyr o’r diwydiant, prynwyr cenedlaethol a rhyngwladol, cynhyrchwyr a newyddiadurwyr yn ail ddigwyddiad bwyd a diod ryngwladol Cymru, BlasCymru/TasteWales.

Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan y Celtic Manor Casnewydd ar 20-21 Mawrth, a bydd yn cynnwys rhaglen ysbrydoledig o siaradwyr blaenllaw, arddangosiad o’r cynhyrchion gorau sydd gan Gymru i’w cynnig, Ardal Arloesi a Sgiliau yn arddangos technoleg ddiweddaraf y diwydiant a sesiynau un i un er mwyn i brynwyr gyfarfod â chynhyrchwyr o Gymru a darganfod mwy am eu cynhyrchion blasus iawn.

Bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths yn arwain digwyddiad BlasCymru/TasteWales,

“Mae gan fwyd a diod o Gymru enw da am ansawdd a rhagoriaeth ar draws y byd, ac rydym eisiau cefnogi ein cynhyrchwyr i ddatblygu eu marchnad yng Nghymru a thu hwnt.

 

Wrth inni wynebu her Brexit mae’n bwysicach nac erioed ein bod yn eirioli dros gynnyrch o Gymru ac yn cefnogi busnesau bwyd a diod o Gymru ymhob ffordd y gallwn. Mae angen inni eu helpu i adeiladu perthnasoedd gyda busnesau yn eu sector fel y gallant ddysgu am dechnolegau newydd, archwilio marchnadoedd tramor a bod yn gystadleuol yn eu diwydiant.”

Wrth i baratoadau Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru fynd rhagddynt yn hwylus, mae ffigyrau newydd yn dangos fod y digwyddiad BlasCymru/TasteWales cyntaf yn 2017 wedi cynhyrchu dros £16 miliwn o werthiannau a chontractau ychwanegol, ac mae gobaith gwirioneddol y ceir perfformiad gwell fyth y tro hwn.

Galwch heibio stondin Cymru/Wales yn rhifau stondin N3040 ac N3010 yn IFE 2019 rhwng 17-20 Mawrth 2019.

Share this page

Print this page