Mae fferm fêl yng ngorllewin Cymru yn dathlu ar ôl ennill y brif wobr ranbarthol yng Ngwobrau Golden Fork y Great Taste neithiwr.

O’r deg cynnyrch Cymreig a gafodd y brif anrhydedd o 3 seren aur yng Ngwobrau Great Taste 2019, dyfarnwyd y Fforch Aur o Gymru i Afon Mêl, Fferm Cêl Cei Newydd am eu Medd Grug Cymreig.

Mae Afon Mêl yn fferm fêl deuluol draddodiadol yng Nghei Newydd, Ceredigion, a sefydlwyd yn 1995 a chafodd ei ysbrydoli gan gariad ac angerdd y teulu dros gadw gwenyn. Eleni, mae Afon Mêl hefyd yn dathlu 20 mlynedd o wneud medd. Mae'r fferm fêl yn gartref i dros 500 o gychod gwenyn ac yn cynhyrchu detholiad o fêl 100% naturiol a mêl amrwd ac mae yno amrywiaeth o gymeriadau nodedig o ran y medd, pob un â'i flas unigryw ei hun.

Mae Medd Grug Afon Mêl wedi cael ei eplesu gan ddefnyddio mêl grug ac mae ganddo flas cyfoethog, moethus, bron yn fyglyd o rug. Mae nifer o bobl yn dymuno cael gafael ar ei flas unigryw; yn sicr, dyma’r medd gyda’r blas mêl mwyaf nodweddiadol.

Wedi’i ddisgrifio gan feirniaid Great Taste yn "wirioneddol drawiadol", mae ganddo “ymddangosiad glan ac arogl myglyd cyfoethog hyfryd". "Yn llyfn ac yn hawdd i'w yfed gydag arlliwiau mêl hyfryd", mae’r medd hwn yn "groyw, yn gytbwys ac yn gyflawn gyda sychder yn debyg i sieri bron ar ôl ei yfed" gan ei wneud yn bartner delfrydol i gaws.

Wrth sôn am eu cyflawniadau, dywedodd y perchennog Sam Cooper,

"Fe wnaethom benderfynu rhoi cynnig arni eleni gan ein bod yn dathlu 20 mlynedd o wneud medd. Rydym wrth ein boddau ein bod wedi ennill dwy wobr Great Taste, a 3-seren am ein Medd Grug ac 1-seren am ein Medd Mêl Canolig. Mae hyn wedi ychwanegu gymaint o werth i’n busnes. "

Wrth longyfarch Fferm Fêl Afon Mêl ar eu cyflawniadau, dywedodd Gweinidog  Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths,

"Hoffwn longyfarch Fferm Fêl Afon Mêl ar eu llwyddiant yng Ngwobrau Great Taste. Mae'n wych gweld busnesau o Gymru yn cael eu cydnabod am ansawdd rhagorol y bwyd maen nhw’n ei gynhyrchu. Dylent fod yn falch iawn ac rwy'n dymuno’r gorau iddynt wrth iddynt barhau i symud ymlaen."

Mae Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, yn cael ei gydnabod yn eang fel y cynllun achredu bwyd mwyaf uchel ei barch ar gyfer cynhyrchwyr bwyd crefftus ac arbenigol, ac mae'n cael ei ddisgrifio fel 'Oscars' y byd bwyd.

Mae 174 o gynnyrch eithriadol Cymreig yn amrywio o gynhyrchwyr arbenigol annibynnol bach i ddosbarthwyr ar raddfa fawr wedi cael eu hystyried yn deilwng o’r wobr bwysig hon, gyda 128 o gynhyrchion yn cael 1-seren, 36 yn derbyn 2-seren a 10 yn ennill y stamp aur o gymeradwyaeth gyda 3-seren.

Yn gyffredinol, mae nifer y cwmnïau o Gymru sy’n derbyn gwobr Great Taste 2019 yn fwy o gymharu â'r llynedd gan brofi bod y diwydiant bwyd a diod yn ffynnu yng Nghymru.

Bob blwyddyn mae panel o feirniaid o fri sy'n cynnwys y cogyddion gorau, awduron coginio, beirniaid bwyd, bwytai a manwerthwyr bwyd da yn ymgasglu i flasu bwyd a diod gorau’r genedl ac eleni, ni wnaeth y cynhyrchwyr o Gymru siomi. Mae'r broses yn cynnwys beirniaid yn blasu’n ddall mewn timau o dri neu bedwar, gan sicrhau eu bod yn "cael cydbwysedd o arbenigedd, oedran a rhyw" cyn cwblhau eu penderfyniadau.

Mae rhestr lawn o enillwyr eleni i'w gweld yn www.greattasteawards.co.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Fferm Fêl Afon Mêl ewch i www.afonmel.com

 

Share this page

Print this page