Amlygwyd pwysigrwydd iechyd meddwl a sut i helpu'r rhai sy'n cael anhawster, mewn gweminar a gynhaliwyd gan Cywain ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod.

Cynhaliwyd y weminar yn dilyn anogaeth gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer busnesau a'u staff gan amlygu pwysigrwydd iechyd meddwl, yn enwedig yn y gweithle.

Hwyluswyd y weminar, sef 'Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl' gan Cywain, Menter a Busnes, ac fe'i cyflwynwyd gan yr elusen o Gymru, ‘The DPJ Foundation’, ac fe'i mynychwyd gan gleientiaid Cywain ar draws y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Amcangyfrifir y caiff un o bob pedwar eu heffeithio gan broblem iechyd meddwl bob blwyddyn yn y DU.  Ym mis Mai, adroddodd Llywodraeth Cymru bod 42% o oedolion – dros filiwn o bobl – yn teimlo bod eu hiechyd meddwl yn waeth nawr nag yr oedd cyn y pandemig.

Wrth i'r cyfyngiadau ddechrau llacio, mae'n anochel y bydd pobl yn wynebu'r gofid o ddychwelyd i'r gwaith, mynd allan i fannau cyhoeddus neu'r posibilrwydd o ddal amrywiolyn newydd.  Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n angenrheidiol i ni ddysgu sut i adnabod arwyddion iechyd meddwl gwael, mewn cydweithwyr, ffrindiau a theulu, gan ddysgu sut i gynnig yr help a'r cymorth cywir.

Dywedodd Dewi Evans, Rheolwr Prosiect Cywain:

“Fel prosiect sy'n cynorthwyo'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, roeddem yn awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael trwy ‘The DPJ Foundation’.  Roedd y weminar hon yn ein hannog i fod yn ymwybodol o'n hiechyd meddwl ein hunain ac yn wir, iechyd meddwl ein cydweithwyr.”

Darparwyd y weminar ar-lein, ac roedd yn darparu gwybodaeth am faterion a oedd yn cynnwys:

 

  • Beth yw salwch meddwl a pha mor gyffredin ydyw?
  • Sut i adnabod yr arwyddion bod rhywun yn cael anhawster
  • Sut i gael sgyrsiau gyda rhywun am y ffordd y maent yn teimlo
  • Ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac atal hunanladdiad
  • Sut i gynorthwyo rhywun gyda'u hiechyd meddwl
  • Codi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael a sut i fanteisio arno
  • Cyngor hunangymorth er mwyn cynnal eich lles meddyliol neu gynorthwyo eraill

Roedd Alison Lea-Wilson, Cyfarwyddwr yn Halen Môn, yn un a fynychodd y weminar, a dywedodd:

“Mae Halen Môn yn ddiolchgar i Cywain am drefnu hyfforddiant er mwyn codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl.  Yn ystod y cyfnod anodd ac anwadal hwn, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cynorthwyo staff a gofalu am ein hiechyd meddwl ein hunain.

Rydym wedi cael ein hysbrydoli i weithio ar les staff a byddwn yn defnyddio'r dolenni defnyddiol a ddarparwyd gan yr hyfforddwr rhagorol o ‘The DPJ Foundation’ i'n helpu.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd: “Mae’r flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi cael effaith arnom ni i gyd ac mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n gallu gwir ddeall iechyd meddwl, siarad am ein teimladau a chefnogi eraill.

“Mae’n gwbl hanfodol bod y cymorth perthnasol ar gael i gefnogi bobl â’u hiechyd meddwl ac rwy’n falch bod y weminar hon wedi cael ei chynnal ar gyfer rheiny yn y sector bwyd a diod.”

 

Share this page

Print this page