Bydd naw o gwmnïau bwyd a diod arbenigol o Gymru yn arddangos dan faner Bwyd a Diod Cymru yn y Speciality & Fine Food Fair (SFFF) yn Llundain y mis nesaf, wrth i’r digwyddiad ddathlu ei ben-blwydd yn 20.

Yn cael ei gynnal rhwng 1-3 Medi, mae Bwyd a Diod Cymru yn cydlynu cynrychiolaeth Gymreig o ystod o sectorau bwyd. Mae’r cwmnïau o Gymru Halen Môn, Cradocs Savoury Biscuits, Rogue, Snowdonia Cheese Company, Terry’s Patisserie, The Parsnipship, Hufenfa De Arfon, Daioni Organic a Sabor de Amor i gyd wedi cael eu cadarnhau fel arddangoswyr o Gymru yn y Ffair.

Mae gan Gymru enw da sydd wedi’i hen sefydlu ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod da, ac mae ystod eleni o gynhyrchion newydd ac arddangosfeydd yn dangos yn amlwg y creadigrwydd a’r arloesedd parhaus sy’n dod o Gymru

  • Mae Halen Môn - Anglesey Sea Salt Company yn lansio pecynnau Heli DIY ar gyfer dofednod y Nadolig a byddant yn arddangos eu Jin Môr
  • Bydd Daioni Organic yn lansio eu hystod newydd o goffi yn y Sioe. Ar ôl chwilio’n helaeth o gwmpas y byd ar gyfer y coffi perffaith i gyd-fynd â'u llaeth organig, mae Daioni yn awr yn cynnig ffa coffi organig un tarddiad 100% Arabica o Fecsico. Mae'r ystod yn cynnwys Skinny Latte, Mocha, Matcha Latte, Caffe Latte a Choffi Siot Dwbl
  • Bydd gan Rogue samplau o’u Jam Jin Mafon a Fioled; Marmalêd Negroni a Marmalêd Tywyll a Stormus newydd
  • Bydd Hufenfa De Arfon yn arddangos eu hystod 200g newydd a wnaed â llaw i gynnwys Dragon Cavern Aged Cheddar gyda Wisgi Penderyn; Dragon Welsh Slate Cavern Aged Cheddar; Dragon Maple Smoked Cheddar a’u Dragon Mature Cheddar gyda halen gan Halen Môn
  • Bydd The Parsnipship yn arddangos eu hystod llysieuol a fegan llawn i gynnwys Crymbl Morgannwg, Cacen Datws Stilton a Sbigoglys, Rhost Madarch & Chnau, Bom Betys, Mash Tandoori, Mash Thai a Rhost Cnau Cashiw a Chnau Ffrengig
  • Bydd Sabor de Amor yn arddangos eu sawsiau Sbaeneg sydd wedi cael eu diwygio ychydig i wella'r blas


Yn y sioe, bydd arddangosfa o’r holl enillwyr Great Taste 2019 o Gymru.  Hefyd bydd nifer o gwmnïau eraill o Gymru yn cymryd rhan yn arddangosfa Bwyd a Diod Cymru, y Clwstwr Bwyd Da a’r Clwstwr Diod gan gynnwys Capital Cuisine, Moose Maple UK, Flawsome! Drinks, Fowey Shellfish Co, From Our Farm, Mêl Gwenyn Gruffydd Honey, Gower Cottage Brownies, Aber Falls Distillery, Jin Mor, Pembrokeshire Gin Company, Sloane House a Gower Brewery.

Mae’r Speciality & Fine Food Fair yn cynnig cyfle heb ei ail i adwerthwyr annibynnol, siopau delicatessen, cogyddion, gwestai, bwytai, mewnforwyr, dosbarthwyr a chyfanwerthwyr i ddod o hyd i gynnyrch, rhwydweithio a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau diweddaraf.

Yn siarad cyn y Sioe dywedodd Prif Swyddog Gweithrediadau Daioni Organic, Daniel Jones,

"Rydym yn teimlo bod y Speciality & Fine Food Fair yn darparu llwyfan gwych i gynhyrchwyr arbenigol sy'n cynnig rhywbeth unigryw sy'n denu amrywiaeth o brynwyr o bob sector.

"Bydd ein hystod o goffi newydd y cyntaf o'i fath yn y farchnad yn y DU gan gynnig cynhwysion organig a Masnach Deg, heb unrhyw siwgr ychwanegol a defnyddio bio-sgriwgapiau (sy'n deillio o gansen siwgr) i wneud y deunydd pacio mor gynaliadwy â phosibl."

Gan wneud sylw pellach, dywedodd Asher Flowers o Rogue,

"Alla’ i ddim canmol digon ar y cyfle y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i ni. Y llynedd, roeddem yn rhan o’u Stondin Arddangos yn y Speciality & Fine Food Fair. Rydym yn dal i elwa ohono hyd heddiw gyda rhestrau gyda dosbarthwyr, cyflenwi i stocwyr ar lefel genedlaethol a rhyngwladol yn ogystal â bod mewn trafodaethau gyda siopau cadwyn mawr.

"Ers mynychu’r Speciality & Fine Food Fair, mae Rogue wedi tyfu'n sylweddol gan ein bod ni bellach wedi ein hachredu gan SALSA, wedi ail-frandio ac rydym yn cyflenwi i'r sector gwasanaeth bwyd. Ffair y llynedd oedd ein sioe fasnach mawr cyntaf ac ni allwn aros i fod yn bresennol eleni. "

Ychwanegodd Ffion Davies, Rheolwr Cyfrif Cenedlaethol yn Hufenfa De Arfon,

"Rydym yn gwybod bod siopwyr a defnyddwyr yn gyson yn chwilio am gynnyrch newydd i roi cynnig arnynt yn y sector categori caws. Mae defnyddwyr i gyd yn hoffi meddwl eu bod yn 'arbenigwyr caws' ac yn chwilio am darddiad, treftadaeth a chynnyrch blasus, gwych o ansawdd da.

"Yn Dragon, rydym yn gwybod bod ein defnyddwyr yn caru bwyd, ychydig yn hŷn ac ychydig yn gyfoethocach ac yn barod i wario ychydig yn fwy am gynnyrch o ansawdd da. Rydym yn ymwneud â chymuned a chydweithio ac mae hyn wedi arwain at ymuno gyda chyflenwyr o’r un anian i gynhyrchu ystod o gaws sydd wir yn cyflawni o ran tarddiad a blas.

“Mae arddangos yn Speciality yn rhoi ein cynnyrch yn uniongyrchol o flaen cynulleidfa o ansawdd o brynwyr bwyd a diod. Gyda lansiad ein hystod 'a wnaed â llaw' newydd ym mis Mehefin 2019, mae'n gyfle perffaith i gael y cynnyrch o flaen cynulleidfa arbennig a phrynwyr bwydydd da o bob cwr o'r DU ac ymhellach."

Mae’r naw cwmni wedi cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru i fynychu’r Speciality & Fine Food Fair yn y Pafiliwn Cymru/Wales. Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths,

"Mae'n wych unwaith eto i weld cynrychiolaeth o Gymru yn y Speciality & Fine Food Fair eleni. Mae'n rhoi cyfle gwych i godi proffil ac enw da ein diwydiant ac mae’n brawf o'r twf parhaus yr ydym wedi bod yn dyst iddo yn y sector bwyd a diod o Gymru. Mae'n bwysig bod busnesau bwyd a diod o Gymru yn paratoi ar gyfer effaith Brexit ac rydym wedi bod yn cefnogi eu hymdrechion i wneud hyn drwy eu helpu i gael mynediad i ddigwyddiadau diwydiant mawr ac arddangos eu cynnyrch ar lwyfan y byd.

"Rydym yn deall yr heriau ac mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i roi’r cymorth a’r offer iddynt ffynnu yn yr hyn sy’n ddiwydiant cystadleuol iawn iddyn nhw. Bydd y ffair yn gyfle perffaith i arddangos cynnyrch arbenigol o Gymru a helpu busnesau bwyd a diod i adeiladu perthynas yn eu diwydiant. "

Mae mynychu’r Speciality & Fine Food Fair yn rhoi cyfle i gysylltu â 10,000 o brynwyr diwydiant, yn cyfarfod dros 700 o gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd a diod arbenigol, archwilio 200 o gynhyrchion newydd yn y parth darganfod, mynychu 50 o sesiynau gwybodaeth a gweld 50 o gwmnïau oedd yn rownd derfynol y Great Taste Awards o dan yr un to.

Dewch i ymweld â stondinau Cymru 1710/1720/1820 yn y Speciality & Fine Food Fair 2019 yn  Nghanolfan Arddangos Olympia yn Llundain o 1-3 Medi 2019.

Share this page

Print this page