Mae'r berthynas rhwng Cymru a Wcráin wedi mynd yn felysach fyth gyda lansiad mêl newydd sy'n crynhoi hanfod y ddwy wlad.

Mae mêl Blodau Haul Wcreinaidd Wainwright’s yn ganlyniad cydweithrediad rhwng Wainwright's Bee Farm o Geredigion a'r cynhyrchydd Wcreinaidd Honey Brothers.

Mae'r mêl yn cael ei werthu yn siopau Marks and Spencer ar Lannau Mersi mewn pryd ar gyfer yr Eurovision Song Contest yr wythnos nesaf, sy'n cael ei chynnal yn Lerpwl ar ran Wcráin. Ac, am bob jar o fêl sy'n cael ei werthu, mae Wainwright's yn cyfrannu at gronfa Bees for Development ar gyfer ailadeiladu'r ffermydd gwenyn yn Wcráin a ddifrodwyd yn y rhyfel.

Mae cyd-sylfaenydd Honey Brothers, Dmytro Kushnir, wedi bod ar ymweliad canfod ffeithiau i ddysgu mwy am gynhyrchu mêl yng Nghymru a chwrdd â gwenynwyr Cymru.

Yn wreiddiol o dref fechan Horodok yng Ngorllewin Wcráin, mae Dmytro wedi byw yn Kyiv ers bron i 30 mlynedd, lle mae'n rhedeg Honey Brothers gyda'i frawd Yuriy.

Mae cadw gwenyn yn Wcráin yn ymestyn yn ôl canrifoedd. Mae'r wlad yn un o'r cynhyrchwyr mêl mwyaf yn y byd ac mae ganddi oddeutu 400,000 o wenynwyr (1% o'r boblogaeth).

Gan ddisgrifio ei hun fel “hanner gwenynwr”, mae prif ffocws Dmytro ar ddadansoddi cynnyrch ac ochr werthiannau Honey Brothers, gydag Yuriy, y gwenynwr llawn amser.

Dywedodd Dmytro, “Rwy'n gweithio ar ddatblygu syniadau a chreu a hyrwyddo mêl Wcráin. Mae gennym tua 110 o gychod gwenyn, ac yn ogystal â'r rhain; mae gennym gymuned o wenynwyr sy’n gweithredu ar raddfa fach - felly mae tua 250 o gychod gwenyn i gyd.”

“Mae gen i ddiddordeb bob amser mewn darganfod diwylliannau, ac mae mêl yn rhan o'r diwylliant, yn rhan o'r diriogaeth, a'r ardal. Mae mêl Cymru yn adlewyrchiad o diriogaeth Cymru — mae’n anhygoel ac yn hollol wahanol i'r hyn sydd gennym yn Wcráin, ac mae'r amrywiaeth hwn yn rhywbeth y mae angen i ni ei ddathlu gyda'n gilydd.”

Ffurfiwyd y cysylltiad â Wainwright’s Bee Farm pan welodd cyfarwyddwr y cwmni, David Wainwright, hysbyseb am Honey Brothers mewn cylchgrawn ffermio gwenyn.

Dywedodd Dmytro, “Cefais neges gan David yn dweud bod ganddo ddiddordeb mewn darganfod mwy am y mathau o fêl sydd gennym yn Wcráin. Es i ar ei wefan a gweld ei fod yn gwneud fwy neu lai yr hyn yr oeddem ni yn ei wneud wrth hyrwyddo mêl rhanbarthol. Roeddem yn deall ein bod ar dudalen debyg ac yn rhannu athroniaethau ein gilydd, ac fe'm gwahoddodd i ddod draw i'r DU.”

Er gwaethaf y rhyfel yn Wcráin, nid yw allforio mêl yn broblem, ond er mwyn i Dmytro adael y wlad roedd angen caniatâd arbennig arno.

“Mae Wcráin ar agor ac mae’r economi yn gweithredu. Rydym yn parhau i anfon a derbyn nwyddau, ond mae cyfyngiadau ar gyfer dynion o’r un oedran â fi, ac ni allwn fynd dramor mor hawdd yn awr oherwydd bod gennym reolaeth filwrol. Er mwyn teithio, roedd yn rhaid i mi fynd trwy ein cymdeithas gwenynwyr, a chefais gefnogaeth gan y Gweinidog Amaeth yn Wcráin.”

Ar ôl dychwelyd i Wcráin, bydd Dmytro yn rhannu'r wybodaeth y mae wedi'i gasglu gan wenynwyr Cymru, yn enwedig techneg David o roi cyn lleied o straen ar y gwenyn â phosibl. Ac yn Wcráin, maent yn cyfeirio at nythfeydd gwenyn fel 'teuluoedd gwenyn'.

Dywedodd Dmytro, “Os byddwch chi'n cychwyn y nythfa gyda'r amodau gorau ac yn gadael llonydd iddyn nhw gymaint â phosibl, byddant yn gwneud eu gwaith ar eu pennau eu hunain. Mae gan nythfa gof cyffredin ar y cyd, ac unwaith y bydd dan straen, bydd yn cadw'r straen trwy gydol ei oes. Rwy'n gweld y cysyniad hwn yn ddiddorol iawn a byddaf yn mynd ag ef yn ôl i Wcráin."

“Mae'n ymwneud â chefnogi gwenynwyr a chynhyrchwyr bach. Mae cymaint o wahanol ffyrdd ac arferion. Mae hwn yn broffesiwn lle nad oes bron unrhyw reolau, a'r unig reolau yw eich bod yn gweithio mewn ffordd sy'n barchus i'r wenynen a'ch bod yn cael eich mêl wrth barchu'r amgylchedd."

Dechreuodd Wainwright’s Bee Farm ger Aberystwyth ar ddechrau'r 1970au pan gafodd David ei gychod gwenyn cyntaf. Heddiw mae gan y busnes tua 1,500 o nythfeydd gwenyn mewn gwenynfeydd ledled Cymru a Lloegr. Ar ôl gwirfoddoli gyda gwenynwyr coedwig yn Zambia, dechreuodd y busnes teuluol fewnforio mêl organig a chwyr gwenyn o Affrica.

Meddai David, “Mae pob math gwahanol o fêl yn foment mewn amser a lle sy'n cael ei ddal gan y gwenyn, gyda blasau, aroglau a lliwiau yn ddibynnol ar y blodau o amgylch y wenynfa ar y dyddiau fflyd hynny pan drodd y tywydd yn braf.

“Rydyn ni'n ystyried ein hunain yn fwy fel bugeiliaid gwenyn, yn gofalu amdanyn nhw ond yn rhoi lle iddyn nhw ac yn caniatáu iddyn nhw wneud eu peth eu hunain. Arwyddair ein cwmni yw 'Wedi ein huno gan y Gwenyn', ond gallai hefyd fod yn 'Dal i ddysgu gan y Gwenyn'.

“Mae llawer o fêl Wcreinaidd sy'n cael ei allforio yn cael ei gymysgu gyda'i gilydd, ond os edrychwch ar yr holl samplau gwahanol o fêl o bob rhan o Wcráin - o'r mynyddoedd, y coedwigoedd a'r dyffrynnoedd - mae'r amrywiaeth o flasau yn anhygoel, a dyna beth rydyn ni eisiau ei chyfleu. Byddwn yn ymroi ein hunain i barhau â'r bartneriaeth hon gyda Dmytro a hyrwyddo mêl Wcreinaidd yma ym Mhrydain oherwydd ei fod yn fêl mor arbennig.

“Hefyd, rydym yn talu mwy na phris Masnach Deg am fêl Wcreinaidd fel bod y teuluoedd cadw gwenyn yn cael mwy o incwm a marchnad ddibynadwy i werthu eu mêl.”

Yn ystod ei ymweliad â Chymru, cyfarfu Dmytro ag aelodau Clwstwr Mêl Cymru, sy'n rhan o fenter clwstwr Bwyd a Diod Cymru i feithrin cysylltiadau rhwng busnesau yn y sector. Mae'r Clwstwr Mêl yn cael ei hwyluso gan Cywain, sydd â'r arwyddair 'Twf trwy Gydweithredu'.

Fel rhan o'r broses gydweithredol, aeth Dmytro ac aelodau’r Clwstwr Mêl ar ymweliad diwrnod cyfnewid gwybodaeth i Tropical Forest Products ger Talybont yng Ngheredigion, lle mae mêl Wainwright’s yn cael ei gynhyrchu.

Dywedodd Arweinydd Clwstwr Mêl Cymru, Haf Wyn Hughes, “Dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi darganfod y gall galwad ffôn fer gyda David Wainwright ysbrydoli llawer o syniadau arloesol.

“Fel arweinydd y Clwstwr Mêl, rydw i bob amser yn meddwl am ffyrdd o annog ein haelodau i symud eu busnesau ymlaen ac i ddysgu fel grŵp, pan fo hynny'n bosibl, am newyddion amrywiol y sector.

“Pan soniodd David ei fod wedi sefydlu perthynas ar-lein gyda Dmytro yn Wcráin, roedd yn rhaid i mi ddod o hyd i ffordd i'n cefnogi ni i gyd trwy ei wahodd draw i gwrdd â ni. Mae'n rhyfeddol, ac yn eironi, ein bod yn croesawu Dmytro, o wlad sydd yng nghanol gwrthdaro chwerw, i siarad am felyster mêl.”

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, “Mae gan Gymru hanes balch o hyrwyddo'r ysbryd o gydweithio a chreu cysylltiadau â mentrau o bob cwr o'r byd.

“Rwy'n falch iawn bod Wainwright’s Bee Farm yn helpu Honey Brothers a gwenynwyr yn Wcráin i ddatblygu marchnadoedd newydd a, thrwy hynny, helpu i gynnal eu cynhyrchiad a diogelu'r amgylchedd.”

Dywedodd Dmytro, “Diolch i Lywodraeth Cymru a'r Clwstwr Mêl am eu cefnogaeth; rwyf mor ddiolchgar. Mae Cymru, harddwch y dirwedd a charedigrwydd y bobl wedi creu cymaint o argraff arna i — rwy'n teimlo'n lwcus iawn. Rwy'n credu y bydd Cymru yn un o'm hoff gyrchfannau.”

Share this page

Print this page