Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn ceisio cryfhau a chreu cysylltiadau gyda darpar bartneriaid a buddsoddwyr wrth iddyn nhw ymweld â Tokyo, Japan yn ddiweddarach y wythnos hon.

Fel rhan o Ymweliad Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru â Tokyo rhwng 16-21 Mehein, caiff pum cwmni bwyd a diod o Gymru gyfle i arddangos eu cynnyrch i nifer o ddosbarthwyr a phrynwyr manwerthu, fydd yn ceisio sicrhau busnes newydd. Ymhlith y busnesau Cymreig sy’n cymryd rhan mae Distyllfa Aber Falls Cyf., Cwmni Bragu Gŵyr Cyf., Hybu Cig Cymru, Bragdy Purple Moose Cyf. a Chyffeithiau Welsh Lady.

Dyma’r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru fynd ag Ymweliad Datblygu Masnach sy’n canolbwyntio ar fwyd a diod i Japan. Mae’r amseru’n berffaith. Mae Japan yn gartref i Gwpan Rygbi’r Byd 2019 o 20 Medi i 2 Tachwedd, yna’r Gemau Olympaidd yn 2020 sy’n golygu y bydd diddordeb mawr yng Nghymru a bwyd a diod o Gymru, a bydd mewnforwyr yn chwilio am gynnyrch Cymreig.

Mae’r ffocws sydd ar Gymru yn arbennig o fanwl gan mai tîm Rygbi Cymru yw’r 2il orau yn y byd yn dilyn eu buddugoliaeth ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Mae mwy a mwy o bobl Japan yn awyddus i ddarganfod mwy am Gymru, ac mae hefyd yn flwyddyn brysur i fwyd Cymreig yn Japan, cyrhaeddodd y cig oen masnachol cyntaf o Gymru Tokyo yn gynharach yn y mis ar ôl i’r gwaharddiad ar gig eidion a chig oen wedi ei allforio gael ei godi gan y Prif Weinidog Abe yn gynharach eleni.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag chyfryngau Japan yn ogystal â siopau adrannol a gwestai yn y dinasoedd ble cynhelir gemau Cwpan y Byd tîm Cymru ar ddigwyddiadau i hyrwyddo bwyd a diod Cymreig yn ystod Cwpan y Byd.

Bwriad yr Ymweliad Datblygu Masnach yw datblygu cyfleoedd rhwydweithio a chydweithio rhwng y cynhyrchwyr, Llywodraeth Cymru a Japan yn ogystal â chryfhau perthnasoedd busnes, masnach a thwristiaeth.

Cyn yr ymweliad, dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

 “Mae’r ymweliad masnach hwn â Tokyo yn gyfle gwych i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig geisio creu cysylltiadau newydd mewn marchnadoedd tramor. Gan fod pencampwriaeth Cwpan y Byd Rygbi’n cael ei chynnal yn Japan yn ddiweddarach eleni a’r Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf, mae hwn yn gyfle cyffrous i allforwyr bwyd a diod Cymreig gyflwyno eu cynnyrch i fewnforwyr o bob cwr o’r byd a rhoi Cymru ar y map.

“Wrth inni baratoi i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd rydyn ni’n benderfynol o gefnogi allforwyr Cymreig a rhoi cymaint o help â phosibl iddyn nhw, fel y gallan nhw barhau i ffynnu a hybu economi Cymru.”

Yn ystod yr ymweliad caiff y cynrychiolwyr gyfle i gymryd rhan mewn cyfres arbennig o deithiau tywys o gwmpas siopau, digwyddiad rhwydweithio briffio yn y farchnad, cyfarfod prynwyr manwerthu, y gwasanaeth bwyd, dosbarthwyr a mewnforwyr a derbyniad rhwydweithio masnach yng Nghartref y Llysgennad.

Mae James Wright, Rheolwr Gyfarwyddwr Distyllfa Aber Falls yn un o’r cynrychiolwyr sy’n mynd ar Ymweliad Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf ac mae’n edrych ymlaen yn fawr:

 “Pan wnaethon ni lansio Aber Falls, roedden ni’n gwybod bod allforio yn rhan annatod o’n cynllun busnes gan fod enw da dihafal y brand hefyd yn agor nifer fawr o farchnadoedd posibl ar hyd a lled y byd. Am y rheswm hwn, mae’r daith i Tokyo yn gyfle gwych i hyrwyddo ein cynnyrch, cryfhau perthnasoedd ac ystyried cyfleoedd i allforwyr yn y DU.

 “Mae sicrhau marchnadoedd allforio newydd a chynnal y rhai presennol yn hanfodol i’n huchelgais ar gyfer 2019 a thu hwnt, fel y gallwn ni barhau i ddatblygu enw Aber Falls,” meddai Wright.

Cwmni arall sy’n mynd ar yr Ymweliad Datblygu Masnach yw Cyffeithiau Welsh Lady, cynhyrchydd mwyaf cyffeithiau melys a chynfennau sawrus Cymru.

Mae Carol Jones o Gyffeithiau Welsh Lady yn ystyried yr ymweliad masnach hwn fel y cyfle perffaith i ddatblygu ei pherthynas gyda marchnad Japan ymhellach,

“Pan ddarllenais y cynnig i fynd ar yr Ymweliad Datblygu Masnach Bwyd a Diod i Tokyo, Japan, roeddwn i’n gwybod ar unwaith bod rhaid i mi fynd. Mae perthynas agos wedi bod rhwng Welsh Lady a Japan ers blynyddoedd, ac mae gennyn ni ddilynwyr ffyddlon yno, yn enwedig pobl sy’n hoff iawn o’n Remon Curdo!

“Mae pobl Japan yn dangos parch mawr tuag at Gymru. Maen nhw’n adnabod Cymru, gan fod nifer o bobl Japan wedi bod yn fyfyrwyr yma. Maen nhw’n gwerthfawrogi bod gennyn ni iaith a diwylliant sy’n lliwgar ac yn unigryw; maen nhw’n gwerthfawrogi bod gennyn ni hanes a thraddodiadau, ac maen nhw’n eu parchu. Maen nhw hefyd yn rhannu ein cariad tuag at rygbi!

“Drwy fynd i Japan rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu hyrwyddo Cymru fel gwlad sy’n cynhyrchu bwyd gwych, safonol. Hoffwn gyflwyno fy netholiad o jamiau, ceuledau a siytnis i farchnad ehangach. Yn Japan, mae diddordeb cynyddol mewn bwyd sydd â tharddiad; mae’r ymweliad hwn yn gyfle i brynwyr a mewnforwyr Japan glywed yn uniongyrchol gan gynhyrchwyr bwyd Cymreig ynghylch sut rydyn ni’n gwneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud, a thrwy hynny, gael eu hannog i roi mwy o fwyd o Gymru yn eu siopau a’u bwytai.

Mae datguddio marchnadoedd newydd yn dod â hyd yn oed mwy o gyfleoedd i fusnesau bwyd a diod Cymreig i arddangos eu cynnyrch safonol ledled y byd, a hefyd i greu mwy o refeniw a chynyddu eu helw. Oherwydd enw da a tharddiad Cymru, mae llwyfan cryf ar gyfer rhagor o dwf fydd o fudd i bawb.

Mae poblogaeth o 127 miliwn o bobl yn Japan, ac mae’n un o’r marchnadoedd cwsmeriaid cyfoethocaf ac aeddfetaf yn y byd. Bwyd a diod yw gwariant mwyaf cartrefi Japan ac mae’r wlad yn dibynnu’n helaeth ar fwyd sy’n cael ei fewnforio er mwyn diwallu galw defnyddwyr. Mae bwytai yn hynod boblogaidd yn Japan.

Cynhelir Ymweliad Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru 16-21 Mehefin

Share this page

Print this page