Dirprwyaeth bwyd a diod Cymreig yn teithio i Doha, Qatar

Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig yn ceisio cryfhau a chreu cysylltiadau gyda darpar bartneriaid a buddsoddwyr wrth iddyn nhw ymweld â Qatar fis nesaf. Fel rhan o Ymweliad Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru â Doha o 9-14 Tachwedd, bydd deng cwmni bwyd a diod o Gymru yn cael cyfle i arddangos eu cynnyrch i lu o ddosbarthwyr a phrynwyr manwerthu, a phob un yn ceisio sicrhau busnes newydd.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Lywodraeth Cymru fynd â dirprwyaeth fasnach i Qatar ar gyfer Ymweliad Datblygu Masnach, ac maen nhw’n gobeithio am ragor o lwyddiant eto eleni. Nod yr ymweliad yw manteisio ar gyfleoedd rhwydweithio a chydweithio rhwng y cynhyrchwyr, Llywodraeth Cymru a Qatar yn ogystal â chryfhau perthnasoedd busnes, masnach a thwristiaeth.

 Cyn yr ymweliad, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC:

“Mae’r ymweliad masnach hwn â Qatar yn gyfle gwych i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig sydd eisiau creu cysylltiadau newydd mewn marchnadoedd tramor ac mae’n rhan o’n hymdrech gyffredinol i gefnogi allforion Cymreig.

“Mae allforion y sector wedi tyfu yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf wrth i fusnesau ddatblygu perthnasoedd ac archwilio marchnadoedd ledled y byd.

“Mae potensial mawr i farchnad fwyd a diod Qatar ac mae’n gweddu’n dda i gynnyrch Cymru sydd o safon uchel.

“Mae’n bleser cefnogi’r grŵp hwn o gynhyrchwyr sy’n mynd i Doha i archwilio marchnadoedd newydd dros eu hunain a datblygu cysylltiadau pellach gyda busnesau rhyngwladol.”

Qatar yw un o wledydd cyfoethocaf y byd, ac mae’n mewnforio dros 90% o’i bwyd. Mae’r prynwr nodweddiadol yn ifanc, yn ennill incwm uchel ac yn byw mewn ardal drefol, dyma boblogaeth gynyddol o alltudion sy’n hoffi bwyta allan, opsiynau iach a bwyd o safon uchel.

Ers lansio hediadau Qatar Airways o Gaerdydd dros flwyddyn yn ôl, sy’n rhedeg hyd at 7 gwaith yr wythnos rhwng Caerdydd a Doha, mae’r posibilrwydd o ragor o fasnach a buddsoddi rhwng y ddwy wlad wedi cynyddu.

Ymhlith y cwmnïau o Gymru sy’n cymryd rhan yn yr Ymweliad Datblygu Masnach mae Frank’s Ice Cream, Prima Foods UK, Ultrapharm, The Lobster Pot, Llanllyr Source, Gut Instinct Foods Ltd, Ferrari’s Coffee, Hybu Cig Cymru, Randell Parker Foods a Dunbia.

Yn ystod yr ymweliad bydd y cynrychiolwyr yn cymryd rhan mewn Sesiwn Briffio’r Farchnad, ymweld â siopau, digwyddiad rhwydweithio, digwyddiad Cwrdd â’r Cynhyrchydd, ac ymweld â’r Hospitality Qatar Show.

Un o’r cwmnïau sy’n gobeithio datblygu eu llwyddiant diweddar gyda chyflenwr o’r Dwyrain Canol yw Frank’s Ice Cream o Rydaman. Cyn yr ymweliad, dywedodd Dino Dallavelle,

“Yn ddiweddar rydyn ni wedi sefydlu partneriaeth gyda chyflenwr o’r Dwyrain Canol a hoffen ni barhau i ddatblygu perthnasoedd a chwilio am gyfleoedd newydd. Rydyn ni’n gobeithio datblygu cysylltiadau cryfach yn y rhanbarth a dysgu syniadau newydd a allai fod yn ddeniadol i’r farchnad hon.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod ac yn parhau i fod yn gefnogol dros ben ynghylch ein targedau allforio, gan drefnu cyfarfodydd llwyddiannus gyda phrynwyr o nifer o wahanol farchnadoedd. Mae hyn, felly, wedi ein galluogi ni i fynychu nifer o gyfarfodydd, a fyddai wedi bod yn gostus a thrafferthus fel arall.”

Cwmni arall sy’n mynd ar yr ymweliad Masnach yw The Lobster Pot, cwmni sy’n cyflenwi cimwch a chranc brown byw, cynaliadwy o’r ansawdd gorau yn fyd-eang. Mae The Lobster Pot yn fusnes teulu o Gaergybi, Ynys Môn a sefydlwyd dros 70 mlynedd yn ôl.

Mae Julie Hill, Rheolwr Gwerthiant a Marchnata The Lobster Pot yn un o’r cynrychiolwyr sy’n mynd ar Ymweliad Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf, ac mae’n edrych ymlaen yn fawr,

“Mae The Lobster Pot yn fusnes sy’n tyfu ac mae ganddo enw da iawn. Hoffen ni ddangos ein dull arloesol o gwrdd â gofynion cwsmeriaid newydd mewn marchnadoedd newydd, fel Qatar. Byddai datblygu perthynas barhaus gyda chwsmeriaid newydd a chyflenwi pysgod cregyn byw’n rheolaidd yn arwydd o lwyddiant inni.”

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ein helpu ni drwy ariannu ymchwil i benderfynu a yw Qatar yn farchnad ymarferol. Maen nhw hefyd wedi ein helpu ni trwy drefnu ac ariannu’r daith yn rhannol a threfnu cyfarfodydd gyda darpar fewnforwyr a nodwyd ymlaen llaw, sy’n llawer o help.”

Mae gan Ultrapharm Ltd o Bontypŵl dros 25 mlynedd o brofiad o bobi Heb Glwten yn eu safleoedd arbennig sydd heb glwten. Mae Iain Lewis, y Cyfarwyddwr Masnach yn ystyried yr ymweliad hwn fel cyfle cyffrous a allai fod yn llawn potensial,

“Mae’r sector heb glwten yn parhau i fod yn fywiog iawn wrth i fwy o ddefnyddwyr ddod yn ymwybodol ohono a newid i ddeiet heb glwten. Mae ymchwil yn dangos mai’r ardal ddaearyddol sy’n dewis cynnyrch heb glwten sy’n tyfu fwyaf yw EMEA gyda thwf cyfansawdd blynyddol disgwyliedig o 10.6%. Rydyn ni eisoes yn cyflenwi i gwsmeriaid yn llawer o’r cyfandir a’r DU, felly mae diddordeb gennyn ni nawr mewn ehangu i’r Dwyrain Canol. Mae’n rhanbarth gyffrous iawn sydd â llawer o botensial ac mae Qatar yng nghanol y cyfan, sy’n golygu bod hwn yn gam cyntaf gwych inni.”

Un o’r cynhyrchwyr aeth ar Ymweliad Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru â Qatar llynedd a sy’n gobeithio archwilio’r farchnad Gwasanaeth Bwyd yn Qatar yw Massimo Bishop-Scotti, Pennaeth Arloesedd Prima Foods. Dywedodd,

“Roedd bod yn rhan o’r Ymweliad Datblygu Masnach â Qatar yn 2018 yn golygu inni gael cipolwg ar y farchnad ranbarthol a’r cyfleoedd sydd ar gael i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig. Roedd yr ymweliad wedi cael ei drefnu’n dda iawn a cawson ni gyfarfod amrywiaeth o brynwyr a dosbarthwyr o’r sectorau manwerthu a gwasanaeth bwyd. Rwy’n argymell cymryd rhan yn yr ymweliadau gan y gallan nhw helpu i’ch paratoi chi ar gyfer y marchnadoedd allforio mwy heriol hyn.”

Mae cynnydd i’w weld yng nghategorïau canlynol marchnad fwyd a diod Qatar: organig, yn rhydd o, label preifat premiwm, ffordd iach o fyw fel fegan a llysieuol, carbohydrad isel, siwgr isel, protein uchel, bwyd cyfleus a bwyd sy’n hawdd i’w baratoi, bwyd a chig wedi eu pecynnu (mae’n rhaid iddynt fod yn halal, ac wedi eu hardystio gan sefydliad sy’n cael ei gydnabod gan awdurdodau Qatar).

Mae disgwyl i sector lletygarwch Qatar dyfu dros 12% er mwyn cyrraedd US$1.4bn erbyn 2022. Mae twristiaeth yn faes twf allweddol sydd â tharged o ddenu 5.6m o dwristiaid erbyn 2023 a disgwylir 1.5m o dwristiaid yn ystod 2022 pan fo Qatar yn cynnal Cwpan y Byd FIFA.

Mae Ymweliad Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru â Doha, Qatar yn digwydd 9-14 Tachwedd 2019

 

Share this page

Print this page