Yr wythnos nesaf bydd rhai o brif gwmnïau arloesi bwyd Cymru yn bresennol yn Food Matters Live, digwyddiad blynyddol ar gyfer bwyd, iechyd a maeth yn ExCeL yn Llundain.  Bydd nifer o wahanol fathau o gynhyrchion arloesi bwyd, o fwydydd seiliedig ar bryfed, hufen ia di-laeth, a deunyddiau pecynnu naturiol yn lle deunyddiau yn defnyddio petrogemegau (megis plastig, glanedyddion, gwrtaith a phlaladdwyr) ar gael.

Mae Bug Farm Foods yn cynhyrchu bwydydd, blasus, arloesol ac unigryw a wneir gyda phrotein cynaliadwy'r dyfodol - pryfed!  Yr entomolegydd Dr Sarah Beynon a’r chef arobryn Andy Holcroft (a welwyd ar‘The Bug Grub Couple’ ar y BBC) yw sylfaenwyr y busnes.

Gan weithio ar fferm, canolfan ymchwil ac atyniad ymwelwyr y cwpl, The Bug Farm, cafodd y ryseitiau eu datblygu a’u profi gan Andy yn ei fwyty Grub Kitchen – y bwyty pryfed bwytadwy llawn-amser cyntaf yng ngwledydd Prydain.

Hefyd yn bresennol fe fydd y cwmni cynhyrchu hufen ia llaeth moethus, Mario’s, a enillodd nifer o wobrau.  Wrth ymateb i’r galw cynyddol am gynhyrchion llaeth ‘rhydd o’, mae Mario’s wedi datblygu eu cyfres eu hunain o hufen ia ‘dim llaeth’ moethus, sydd ar gael mewn tri blas ac sy’n addas i feganiaid.

Dywedodd Heather Dallavalle o Mario’s Luxury Welsh Ice Cream: “Fe benderfynon ni fynd i lawr y llwybr rhydd o gan ein bod wedi sylwi ar gynnydd enfawr yn nifer y bobl sydd wedi troi’n fegan, neu sydd â rhyw fath o anoddefiadau, ac roedden ni’n teimlo fod yna fwlch yn y farchnad am hufen ia blasus oedd yn rhydd o laeth.

“Mae ein hufen ia di-laeth yn cael ei wneud yn defnyddio llaeth coconyt yn lle llaeth a hufen ac rydym wedi parhau i gynnal ein safonau uchel gyda’n cyfres ddi-laeth trwy ddefnyddio’r cynhwysion gorau posib.”

Amcangyfrifir fod marchnad gwledydd Prydain ar gyfer bwyd a diod a gynhyrchir yn gynaliadwy werth £8.64biliwn ac mae’n tyfu 5% o flwyddyn i flwyddyn. Er mwyn parhau’n gystadleuol, mae’n hollbwysig fod busnesau bwyd a diod Cymru yn arwain trwy fod mor amgylcheddol gynaliadwy â phosib, wrth i sectorau manwerthu, cyfanwerthu a sectorau cyhoeddus oll fynd ati o ddifrif i chwilio am gyflenwyr fydd yn eu helpu i fodloni eu hamcanion cyfrifoldeb cymdeithasol a deddfwriaethol corfforaethol.

 

Ar y stondin  fe fydd Pennotec, cwmni technoleg a biotechnoleg bwyd bychan o Gymru ar flaen y gad yn datblygu a chefnogi’r Economi Gylchynol ar gyfer cynhyrchu bwyd. Crëwyd y cwmni i gydnabod y galw cynyddol am gynhyrchion amgen naturiol yn lle rhai’n seiliedig ar betrogemegau (megis cynhwysion porthiant, cadwolion bwyd, gloywyr dŵr ac ychwanegion iechyd pridd) a’r cyfle i wneud gwell defnydd o’r amrywiaeth cyfoethog o wastraffau prosesu bwyd yng ngwledydd Prydain.

Ar hyn o bryd mae Pennotec yn arwain cywaith Ymchwil & Datblygu i ddatblygu cynhwysion ffibr ffwythiannol allan o pomas, un o sgil-gynhyrchion sudd afal a chynhyrchu seidr, sy’n gallu lleihau lefelau siwgr a braster dirlawn mewn nifer o gynhyrchion bwyd poblogaidd. Yn yr hirdymor gellid defnyddio’r ffibrau ffwythiannol hyn yn lle rhai cynhwysion uchel mewn calorïau megis braster tra’n ychwanegu mwy o ffibr ar yr un pryd.

Mae Dr Jonathan Hughes, Rheolwr Gyfarwyddwr Pennotec yn gobeithio y bydd ei bresenoldeb yn Food Matters Live yn cynnig y cyfle perffaith ar gyfer trafodaethau gyda chynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr sy’n awyddus i gael mwy o werth a lleihau faint o wastraff y mae eu gwaith yn ei gynhyrchu.

“Mae ein harbenigwyr technegol yn gweithio gyda chynhyrchwyr bwyd i adnabod cynhwysion bwyd ffwythiannol allai fod â gwerth uchel mewn llifoedd gwastraff prosesu bwyd ac arwain ymchwiliadau cydweithredol i’r broses naturiol o alldynnu a phuro’r cynhwysion ffwythiannol hyn i’w gwerthu mewn marchnadoedd bwyd, porthiant a marchnadoedd heb fod yn rhai bwyd.

Gan ddefnyddio llwyfan biotechnoleg berchnogol, gall ein gwyddonwyr alldynnu cynhwysion bwyd ffwythiannol ar gyfer ehangu oes silff cynnyrch ffres a gwneud bwyd a diod yn iachach allan o gynnyrch bwyd fyddai fel arall yn cael ei daflu - gan wneud cyn lleied o argraff ag y bo modd ar yr amgylchedd.”

Mae’r deg cwmni o Gymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sy’n mynd i Food Matters Live yn cynnwys The Coconut Kitchen, Pennotec, DrNashGlycoHealth, Welsh Hills Bakery, Welsh Gluten Free Bakery Products, The Bug Farm Foods Ltd, The Bake Shed, Prima Foods, Mario’s Luxury Welsh Ice Cream a Samosaco.

Wrth gyfeirio at y digwyddiad, dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:

“Mae arloesi a phroses barhaus o ddatblygu cynhyrchion yn rhan allweddol o symud cwmnïau ymlaen mewn amgylchedd sy’n gyson yn newid. Mae’n golygu rhoi i’n cynhyrchwyr y gefnogaeth a’r llwyfan ar gyfer targedu marchnadoedd newydd, lansio cynhyrchion newydd ac anwesu technoleg newydd a symudiadau o ran ymchwil a datblygu.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi busnesau ym mha ffordd bynnag y gallwn, gan gynnwys ein rhaglen Clystyrau Busnes newydd, sy’n ymgysylltu â mwy na 400 o fusnesau mewn mentrau amrywiol i dyfu gwerthiannau, datblygu marchnadoedd newydd a gwella cynhyrchiant.

“Rydym yn deall yr heriau y bydd busnesau bwyd a diod yn eu hwynebu mewn byd wedi Brexit a gobeithiwn roi iddynt yr arfau i ffynnu ym mha farchnad bynnag y maent ynddi.”

Mae Food Matters Live yn cynnull at ei gilydd drawstoriad o arbenigwyr bwyd a diod gyda’r arloesiadau bwyd a diod fwyaf newydd a chyffrous mewn un digwyddiad tri diwrnod ysbrydoledig. Mae disgwyl i fwy na 16,000 o weithwyr proffesiynol dylanwadol fynd i arddangosfa eleni, yn cynnwys mwy na 800 o sefydliadau blaenllaw - sydd rhyngddynt yn amlygu’r rôl bwysig y mae pob rhan o’r sectorau bwyd, diod a maeth yn ei chwarae yn datblygu cynhyrchion iachus a ‘gwell ichi’.

Dewch i ymweld â stondinau Pafiliwn Bwyd & Diod Cymru 410 & 420 yn Food Matters Live rhwng 20-22 Tachwedd 2018 i weld dewis o gynhyrchion newydd ac arloesol.

Share this page

Print this page