Yn ystod y flwyddyn hon bu'n rhaid i lawer o fusnesau bwyd a diod Cymru feddwl yn ehangach a chreu ffyrdd newydd o wneud busnes i ymdopi â chanlyniadau pandemig COVID-19. Gyda chymorth Is-adran Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, mae un busnes bwyd wedi gwneud hynny’n llwyddiannus. Mae The Pudding Compartment, sydd wedi ei leoli yn Y Fflint, gogledd Cymru ac yn cyflogi 25 o bobl, wedi gorfod ailddyfeisio ei fodel busnes ar ôl i werthiant ostwng i ddim dros nos.

Cyn hynny, unig gwsmeriaid y cwmni oedd sectorau’r diwydiant gwasanaeth bwyd a theithio a ddaeth i stop ym mis Mawrth wrth i dafarndai, bwytai a chaffis gau ac i’r diwydiant teithio chwalu.

Mae Steve West, Rheolwr Gyfarwyddwr The Pudding Compartment yn esbonio'r effaith ddinistriol mae'r pandemig wedi ei chael ar ei fusnes a'r hyn y maen nhw wedi ei wneud i oresgyn yr argyfwng:

"Rydw i wedi bod yn rhedeg fy musnes pobi fy hun yng ngogledd Cymru ers 2007, gan arbenigo mewn cacennau a phwdinau, ac rydym ni wedi bod yn cyflenwi'r diwydiant gwasanaeth bwyd ers 2013. Ar ddechrau 2020, roedd 25 aelod ein tîm yn creu tua 40,000 o ddanteithion melys â llaw bob wythnos ac yn eu hanfon i dafarndai, bwytai, siopau coffi, canolfannau teithio a lleoliadau eiconig ym mhob cwr o'r DU. Cyrhaeddodd y gwerthiant blynyddol £1m am y tro cyntaf ddechrau mis Mawrth 2020.

"Fodd bynnag, pan ddaeth y cyfnod clo cenedlaethol diflannodd ein holl werthiant dros nos. Ers hynny rydym ni wedi bod yn brysur yn ailddyfeisio The Pudding Compartment. Bu'n rhaid i ni feddwl yn gyflym, a meddwl am wahanol strategaethau i gadw'r busnes i fynd.

"Roeddem ni’n lwcus i ni allu manteisio ar y cynlluniau cymorth sydd ar gael gan lywodraethau Cymru a'r DU, felly roeddem ni’n gallu rhoi staff ar ffyrlo ar y dechrau ac ers hynny rydym ni wedi derbyn arian o’r cronfeydd gwydnwch.

"Hefyd, yng nghanol y cyfnod clo cenedlaethol penderfynom ni greu menter gymdeithasol hirdymor o'r enw A Million Thanks. Creom ni wefan www.amillionthanks.co.uk  a chynnig prynu cynhwysion a byrbrydau dros ben gan siopau bara a chyfanwerthwyr gwasanaeth bwyd ledled y wlad oedd yn ei chael hi’n anodd am brisiau cyfanwerthu neu ddisgownt, a helpodd hynny nhw i dalu eu biliau a rhoi cyfle iddyn nhw oroesi’n hirdymor, gobeithio.

"Yna gwnaethom ni ail-becynnu’r cynhwysion i mewn i fagiau llai, a chynnig eu gwerthu i gwsmeriaid oedd gartref ac yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar gynhwysion sylfaenol fel blawd a siwgr. Gwnaethom ni hefyd roi llawer o ddanteithion i weithwyr allweddol i ddweud diolch.

"Yna datblygom ni ddetholiad o fyrbrydau am bris rhesymol rydym ni bellach yn eu cyflenwi trwy ddosbarthwr i ysgolion yn Sir y Fflint, ac rydym ni nawr yn dod o hyd i fwy o gleientiaid yn y sector cyhoeddus."

Ni fyddai llawer o'r gwaith hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Llywodraeth Cymru ac nid yw'r gwaith wedi dod i ben, fel yr esbonia Steve,

"Nesaf rydym ni’n paratoi i lansio fformat manwerthu newydd, cynnyrch ‘wrth fynd’ a chynnyrch hambwrdd pobi o dan ein brand newydd, The Creative Bake Co, gyda chefnogaeth Menter a Busnes, y byddwn yn ei lansio'n fuan.

"Mae'r cymorth a'r gefnogaeth rydym ni wedi ei chael gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Rydym ni’n aelod o'r Grŵp Clwstwr Bwydydd Da ac mae'n gymuned ragorol i weithio ynddi. Rydym ni wedi bod yn ymuno â seminarau rhithwir, ac mae'r un ddiweddaraf wedi rhoi nifer o syniadau i ni ynghylch sut y gallwn ni ehangu ymhellach ar ein strategaeth newydd."

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Yn ystod yr argyfwng hwn i fusnesau bwyd a diod Cymru, mae The Pudding Compartment yn gwneud gwaith rhagorol o arallgyfeirio, drwy amrywio ei ddetholiad o gynhyrchion ac ehangu ei gleientiaid.

"Mae Covid-19 yn effeithio'n fawr ar sector bwyd a diod Cymru ac yn bygwth goroesiad busnesau. Mae Llywodraeth Cymru, wrth weithredu o dan y canllawiau ac ar gyngor

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, eisoes yn cymryd camau i gefnogi'r sector drwy'r effaith uniongyrchol a'r camau cyntaf tuag at adferiad.

"Rydym ni eisiau cynyddu nifer y busnesau bwyd a diod sy'n goroesi ymyrraeth Covid-19 a chynnal rhwydweithiau cadwyn gyflenwi yn y sector a'r meysydd ategol. Mae angen inni leihau colledion swyddi yn y sector a chefnogi'r sector i adfer cyn gynted â phosibl a dychwelyd at dwf mewn gwerthiant.

"Mae'n hanfodol felly bod busnesau bwyd a diod Cymru yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen cyn gynted â phosibl i oroesi'r argyfwng hwn yn y diwydiant bwyd ac i ddod yn gryfach ar gyfer y dyfodol."

I gael cymorth a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ewch i:

https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/covid-19-food-and-drink-wales

https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/

https://menterabusnes.cymru/home/

 

 

Share this page

Print this page