Mae Welsh Lady Preserves wedi bod yn gwneud cyffeithiau melys a chynfennau (condiments) sawrus arobryn am dros 50 mlynedd, nid yn unig i lenwi'r silffoedd yma yn y DU ond maent yn cyrraedd archfarchnadoedd mor bell â Japan.

Yn dilyn ymweliad masnach ddiweddar a gydlynwyd gan Lywodraeth Cymru, mae perchennog Welsh Lady Preserves Carol Jones wedi gweld y busnes yn mynd o nerth i nerth ac mae cyrraedd  Dwyrain Asia wedi golygu cyfnod cyffrous, fel mae Carol yn egluro,

"Rydym eisoes yn cael ein stocio gan bump archfarchnad wahanol yn Siapan ac yn ymddangos mewn llawer o'u canghennau. Ein cleientiaid cyntaf oedd Takashimaya ac erbyn hyn maetn yn awyddusi gael mwy o'n cynnyrch ar eu silffoedd. Rydym hefyd yn disgwyl am gadarnhad gan nifer o siopau eraill yn Siapan, ac rydym hefyd yn gweithio ar greu cynnyrch unigryw ar gyfer y farchnad Siapaneaidd, gyda chymorth y Llysgenhadaeth Gymraeg yn Siapan.

"Tra roedden ni ar Ymweliad Datblygu Masnach diweddar gyda Llywodraeth Cymru i Siapan cefais y fraint o ymweld â rhai o siopau a gwestai mwyaf moethus y wlad, ac mae'n braf meddwl bod eu prynwyr yn dymuno stocio cynnyrch Welsh Lady yn eu sefydliadau.

"Yr hyn sy'n amlwg yw eu hangen am botiau bach, ac o ganlyniad i gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi gallu diwallu eu hanghenion, sy'n newyddion gwych".

Mae stocio holl geuled Welsh Lady  ac amrywiaeth o jamiau yn Siapan wedi bod yn gamp wych i’r cwmni ac mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn credu ei fod yn hanfodol i’r diwydiant bwyd a diod i fanteisio ar gyfleoedd o’r fath i barhau i ddatblygu marchnadoedd byd-eang.

"Mae ffyniant Welsh Lady Preserves  yn Nwyrain Asia yn enghraifft wych o sut y gall busnesau bwyd a diod Cymru dorri i mewn i farchnadoedd byd-eang drwy ymweld a mynychu digwyddiadau masnach allweddol," meddai.

"Rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Cymru a sicrhau bod ganddynt lwyfan cadarn i werthu cynnyrch o amgylch y byd.

"Mae angen i ni eu helpu i adeiladu perthynas gyda busnesau yn eu sector fel y gallant ddysgu am dechnolegau newydd, archwilio marchnadoedd tramor a bod yn gystadleuol yn eu diwydiant."

Yn dilyn Ymweliad Datblygu Masnach diweddar Carol i Siapan mae'r cwmni wedi cael llwyddiant pellach gyda The Imperial Hotel yn Tokyo yn gosod archeb am eu potiau 28g o Jam Mefus ar gyfer bwydlen Te Prynhawn y gwesty, tra bod gwesty arall wedi archebu eu saws mintys. Caiff y ddau archeb  eu hallforio i Siapan ar ddechrau mis Medi.

Daw llwyddiant Welsh Lady Preserves ar adeg berffaith gyda Siapan yn cynnal Cwpan Rygbi'r Byd 2019 o 20 Medi - 2 Tachwedd, wedi'i ddilyn gan y Gemau Olympaidd yn 2020, sy'n golygu y bydd diddordeb mawr yng Nghymru a bwyd a diod Cymru dros y misoedd nesaf.

Mae’r cwmni o Ogledd Cymru yn fusnes teuluol sy'n cynnwys y gŵr a gwraig John a Carol, ac yn ddiweddar mae eu plant David a Hannah wedi ymuno â nhw gan gynnig cyfoeth o sgiliau o weithio yn y diwydiant bwyd. Maen nhw’n cyflogi 20-25 o bobl yn y ganolfan ym Mhwllheli, gyda llawer ohonynt yn dod o'r ardal leol ac wedi gweithio i'r cwmni ers blynyddoedd.

Am fwy o wybodaeth am Welsh Lady Preserves ewch i welshladypreserves.co.uk

Share this page

Print this page