Cynllun wedi'i ddatgelu i arwain ymwelwyr at fwyd Cymreig o safon uchel
Bydd Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at helpu ymwelwyr â Chymru i ddarganfod bwyd a diod o safon fyd-eang, yn cael ei lansio gan Weinidogion heddiw. Mae twristiaid yn chwilio fwyfwy am brofiadau lleol, dilys a newydd sy'n gysylltiedig â'r mannau y maent yn ymweld â hwy. Gall bwyd ddod yn elfen unigryw o brofiad yr ymwelydd, gan greu nodweddion unigryw rhanbarthol, ac felly mae'n ffordd bwysig o annog ymwelwyr i ymweld...