Y Sioe Frenhinol yn parhau i fod yn hollbwysig i’r diwydiant bwyd a diod wrth i £1.4 miliwn gael ei sicrhau
Wrth i uchafbwynt y calendr amaethyddol agor ei ddrysau’r wythnos hon, cyhoeddodd Bwyd a Diod Cymru ffigyrau yn dangos fod y digwyddiad yn parhau i fod yn lle hollbwysig i’r diwydiant er mwyn cyfarfod â manwerthwyr a chwblhau cytundebau allai fod yn rhai gwerthfawr iawn. Mae ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw, yn dilyn ymarferiad tracio dros gyfnod o ddeuddeg mis, yn dangos y gellir priodoli gwerthiannau gwerth £1.4 miliwn yn uniongyrchol i berthnasoedd busnes a ddatblygwyd...