O Fôn i Milan #Expo2015
Bydd bwyd a diod o Gymru yn cael sylw mawr yn un o arddangosfeydd rhyngwladol mwyaf y byd yr wythnos hon, wrth i ddirprwyaeth o Lywodraeth Cymru ymweld â'r Milan Expo 2015. Bydd Bwyd a Diod Cymru yn yr Expo rhwng 4 a'r 8 Mai, a bydd yn cynnwys arddangosfa i hyrwyddo ein cynnyrch gwych, gan addysgu'r gynulleidfa am ei hanes, ei darddiad a'i werth i economi Cymru. Meddai Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio...