Y cnwd gorau erioed o enillwyr gwobrau bwyd a diod
Mae Gwobrau Great Taste y Deyrnas Unedig, sydd ymhlith y gwobrau pwysicaf ym maes bwyd a diod, wedi cyhoeddi’r nifer uchaf erioed o enillwyr o Gymru eleni. Llwyddodd deg o wahanol gynhyrchion Cymreig i ennill gwobr 3 seren yn 2015, o’i gymharu â thri y llynedd. Am y tro cyntaf, yng Nghymru y daeth beirniaid arbenigol Great Taste ynghyd i bwyso a mesur yr ymgeiswyr. Ym mhlith y beirniaid yr oedd Xanthe Clay, Charles Campion...