Gweinidog yn hyrwyddo Bwyd Môr Cymru ym Mrwsel
Bydd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd yn bresennol yn arddangosfa bwyd môr Brussels Seafood Global EXPO, y digwyddiad masnachu bwyd môr mwyaf yn y byd. Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymuno ag wyth o gwmnïau o Gymru, pob un ohonynt yn arddangos bwyd a diod o Gymru, a dros 25,800 o brynwyr o 150 o wledydd. Dywedodd: “Rydym yn gwybod bod safon y bwyd a'r diod yng Nghymru cystal â'r gorau yn...