Cig

Meat

Mae pobl o bob cwr o’r byd yn mwynhau cig coch o Gymru. Mae'n rhan bwysig o’n heconomi bwyd a diod. Mae’r diwydiant gwerth miliynau’n cefnogi degau o filoedd o swyddi, ac mae traean o’r holl gig eidion a chig oen a gynhyrchir yng Nghymru’n cael ei allforio ledled y byd.

Proffidiol, effeithlon, cynaliadwy, arloesol

Ein nod yw gwneud y diwydiant pwysig hwn, sy’n ennill incwm uchel yn hyd yn oed mwy proffidiol, effeithlon, cynaliadwy ac arloesol.  Mae'r diwydiant cigoedd oen, eidion a moch yng Nghymru’n werth dros £1 biliwn y flwyddyn i’n heconomi. Mae hyn yn adlewyrchu manteision ariannol y diwydiant a’r 50,000 o swyddi mae’n eu cefnogi.  Mae allforio’n bwysig, gan mai dim ond 5% o’r cig coch a gynhyrchir yng Nghymru sy’n cael ei fwyta yma.  Mae allforio cigoedd oen ac eidion yn cyfrif am tua thraean o’r holl werthiannau, ac roedd yn werth dros £224 miliwn yn 2013.

 

Ffeithiau Allweddol - Diwydiant Cig Cymru


Hyrwyddo a thyfu’r diwydiant

Mae gan gig oen a chig eidion Cymru statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig, sy’n bwysig iawn i’r diwydiant yn economaidd gan ei fod yn dynodi tarddiad a phriodweddau unigryw y cynnyrch. 

Mae’r corff a arweinir gan y diwydiant, Hybu Cig Cymru, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac yn gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cynnyrch cig coch Cymru.  Ceir Cynllun Gweithredu Strategol sy’n dynodi amcanion strategol, camau gweithredu a chanlyniadau i’r diwydiant, ac mae Map yn rhoi cyngor i randdeiliaid ynghylch yr amgylchedd, lleihau carbon a gwella effeithlonrwydd a phroffidioldeb.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'r gwefannau canlynol:

Hybu Cig Cymru

Bwytwch Gig Oen  Cymru

Bwytwch Gig Eidion Cymru

 


Food names

Tudalennau poblogaidd ar gyfer y sector hwn: 

Enwau bwyd gwarchodedig

Mae modd gwarchod cynnyrch bwyd a diod unigryw Cymru dan ddeddf Ewropeaidd

 

Hybu Cig Cymru

Meat promotion Wales