Dofednod ac wyau

Chicken

Cywion ieir yw’r categori mwyaf o ddofednod sy’n cael eu magu ar gyfer cig, gyda llai na 100 o gynhyrchwyr yn cyfrif am 90% o’r dofednod sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru. Mae’n werth £58.3 miliwn, ac mae gwerth cynhyrchu wyau’n £39.2 miliwn. Rydym yn gweithio gyda chynhyrchwyr i sicrhau gwerth ychwanegol i fodloni’r galw gan ddefnyddwyr.

Cynhyrchwyr wyau'n ymateb i'r galw am wyau buarth

Mae nifer yr adar buarth yng Nghymru wedi codi yn ystod y blynyddoedd diweddar, wrth i gynhyrchwyr, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, ymateb i alw cynyddol. Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion nawr yn amcangyfrif (31 Awst 2014) fod 350 o ddaliadau cynhyrchu wyau gyda 2.3 miliwn o adar yn y farchnad wyau buarth, sy’n cyfrif am oddeutu 89% o’r sylfaen gynhyrchu.

Chwilio am werth ychwanegol

Mae dofednod gwerth ychwanegol yn farchnad sylweddol sy’n berthnasol i angen defnyddwyr am hwylustod am bris fforddiadwy. Yng Nghymru, mae cynhyrchwyr cynradd cywion ieir ar gyfer y bwrdd yn cyfrif am gyfran sylweddol o’r sylfaen gyflenwi, ond dim ond nifer gyfyngedig o gynhyrchwyr sydd â’r capasiti angenrheidiol i sicrhau gwerth ychwanegol, ac mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r diwydiant i wella’r sefyllfa hon. Cyfanswm gwerth y cynnyrch yn y sector dofednod ac wyau yw £97.5 miliwn - tua 6% o'r cynnyrch amaethyddol gros yng Nghymru.

Ffeithiau Allweddol - Diwydiant Llaeth ac Wyau Cymru

Is Sector Dofednod

Yr Adroddiad Terfynol