Garddwriaeth

Fruit

Rydym yn gweithio tuag at ddiwydiant garddwriaeth sydd o fudd i bobl ac amgylchedd Cymru. Mae garddwriaeth, a ddiffinnir gan gynhyrchu ffrwythau a llysiau, planhigion addurniadol, cnydau newydd a choed ifanc, yn tyfu’n gyson. Canolbwyntia ein Cynllun Gweithredu Strategol ar faterion allweddol fel hyfforddiant, datblygu cynaliadwy a gwella perfformiad busnes.

Heriau

Mae sector garddwriaeth ffyniannus yn uchel ar agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu diwydiant amaethyddol cynaliadwy, gan ei fod yn arwain at amrywiaeth o fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Mae’r diwydiant yn tyfu:  Cofnododd ystadegau Llywodraeth Cymru gynnydd o 50% yn nifer y daliadau, i dros 500 yn 2012. Rhaid i ni barhau i ddatblygu cadwyni cyflenwi effeithlon, helpu busnesau i wella eu perfformiad, gwella dealltwriaeth o farchnadoedd a mynediad i’r marchnadoedd hynny a rhoi sylw i anghenion hyfforddi er mwyn i gynhyrchwyr yng Nghymru ddal eu tir yn gystadleuol ac wynebu heriau newydd.


Ffeithiau Allweddol - Diwydiant Ffrwythau a Llysiau Cymru


Chyfleoedd

Horticultre Wales

Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda chynhyrchwyr i gael diwydiant garddwriaeth cynaliadwy sy'n helpu i wasanaethu amrywiaeth o anghenion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Mae ein Cynllun Gweithredu Strategol yn canolbwyntio ar faterion allweddol fel datblygu cynaliadwy, hyfforddi, gwella perfformiad busnes ac effeithlonrwydd a gwella ansawdd ac enw da cynnyrch o Gymru’n barhaus. Mae cadwyni cyflenwi effeithlon yn sicrhau bod ffrwythau a llysiau’n cael eu cynhyrchu’n gynaliadwy. Rydym yn helpu cynhyrchwyr i wella perfformiad busnes i fodloni ymddygiad cwsmeriaid a thueddiadau sy’n newid a meithrin arloesi a dysgu sgiliau newydd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'r gwefannau canlynol Garddwriaeth Cymru.