Llaeth
Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gyda chynhyrchwyr i sicrhau diwydiant llaeth cadarn, deinamig sy’n canolbwyntio ar y farchnad. Mae ffermwyr llaeth, proseswyr llaeth, sefydliadau masnach ac unrhyw sefydliadau cymorth eraill yn rhan o Dasglu Llaeth, sy’n teimlo’n hyderus am ddyfodol y diwydiant a’i allu i fodloni anghenion poblogaeth sy’n tyfu a marchnadoedd sy’n datblygu.
Dyfodol proffidiol
Mae gan ffermwyr llaeth Cymru’r adnoddau naturiol, yr hinsawdd iawn a digonedd o ddŵr i gael digon o laswellt, maent o safon fyd-eang ac yn gallu cystadlu'n erbyn o gorau ar raddfa ryngwladol.
Ond mae angen niferoedd a gwerth ychwanegol ar y diwydiant, ac mae nifer o broseswyr eisoes yn datblygu cynhyrchion newydd y gellir eu hallforio. Mae Llywodraeth Cymru a’r Tasglu’n cefnogi’r diwydiant wrth iddo geisio sicrhau gwell proffidioldeb, annog ffermwyr i edrych ar y tymor canolig i’r tymor hir, yn hytrach na chanolbwyntio ar y tymor byr o ran prisiau wrth gât y fferm.
Ffeithiau Allweddol - Diwydiant Llaeth ac Wyau Cymru
Astudiaeth Ddichonoldeb Prosesu Llaeth
Blociau adeiladu ar gyfer diwydiant llwyddiannus
Mae sawl elfen yn cydweithio yng Nghymru i adeiladu diwydiant llaeth cadarn. Mae’r Tasglu Llaeth yn rhoi cyngor i Weinidogion ynghylch cyfeiriad strategol y diwydiant, datblygu cynlluniau i symud ymlaen a gwneud y gadwyn gyflenwi llaeth yn gynaliadwy’n economaidd ac yn amgylcheddol.
Mae Map Llaeth wedi’i baratoi, sy’n nodi targedau ar gyfer lleihau ôl-troed amgylcheddol y diwydiant, ac mae’r cynllun Diwydiant Llaeth Cyrff Cynhyrchwyr yn helpu ffermwyr i gael cydnabyddiaeth am safon eu cynnyrch.
Mae AHDB Llaeth/Dairy yng Nghymru’n arwain ar brosiect i wella cadwyni cyflenwi, ac mae Llywodraeth Cymru a AHDB Llaeth/Dairy wedi penodi Pennaeth Datblygu Llaeth sy’n cydlynu ac yn adeiladu ar y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael i ffermwyr llaeth Cymru.
Am ragor o wyboddaeth, ewch i gwefennau canlynol AHDB Llaeth/Dairy.