Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru cyntaf erioed yn 2019, dyma ddiwrnod allan gyda gwahaniaeth – diwrnod na fydd unrhyw ffermwr neu goedwigwr eisiau ei golli!
Pryd: 15 Mehefin 2022
Ble: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-muallt, Powys, LD2 3SY
Beth: Bydd cyfres o brif siaradwyr a chyflwynwyr rhyngwladol yn rhannu eu profiadau a'u safbwyntiau, gan gynnig cymorthfeydd un-i-un, gweithdai a seminarau ar bynciau sy'n ymwneud ag amaeth, gan gynnwys:
- Arloesi – ffyrdd mwy effeithlon o weithio sy’n manteisio ar dechnolegau newydd cyffrous
- Arallgyfeirio – syniadau newydd a fydd yn eich helpu i gynyddu elw
- Da byw – ffyrdd newydd o gryfhau perfformiad a gwella cynhyrchiant
- Cynaliadwyedd – arbed amser ac arian, cynyddu allbynnau, lleihau eich ôl troed carbon
- Newid y ffordd rydych chi'n meddwl ac yn gweithio – cymorth, arweiniad, hyfforddiant ac arddangosiadau ymarferol a fydd yn eich paratoi chi a'ch busnes ar gyfer y dyfodol...
Pwy a ddylai fynychu?
Yn 2019, denodd y digwyddiad hwn 1,000 o ymwelwyr. Rydym am i chi ymuno â ni yn 2022! Denwyd 90 o arddangoswyr gennym hefyd!
Bydd y digwyddiad hwn yn eich ysbrydoli a'ch cymell i….
- Ychwanegu gwerth at eich busnes a chyflawni eich potensial ar bob lefel
- Eich cyfeirio at y cymorth a'r arweiniad a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i atebion i heriau a gwella eich llinell waelod
- Darparu syniadau a gwybodaeth am ystod eang o opsiynau i greu ffrydiau incwm newydd
- Tynnu sylw at arloesedd mewn amaethyddiaeth
- Annog a chefnogi datblygiad proffesiynol parhaus drwy ddysgu effeithiol, gan ddangos i chi ffyrdd mwy effeithlon o weithio a diogelu dyfodol eich busnes ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cymorthfeydd byr 1 i 1
Bydd yna sesiynau cymorthfeydd byr 1 i 1 ar gael, a fydd yn slotiau o 20 munud. Dyma’r pynciau fydd ar gael:
- Ynni Adnewyddadwy
- Marchnata ac Arallgyfeirio
- Cynllunio a Datblygu
- Cynllunio Ariannu a Chyfrifyddu
- Cyfraith Amaethyddiaeth ac Olyniaeth
- Cynllunio Busnes
DS – Mynediad am ddim i ymwelwyr.
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch ein tîm digwyddiadau’n uniongyrchol yn fcevents@menterabusnes.co.uk