Rhaglen Yr Ifanc
Wyt ti rhwng 16 a 19 mlwydd oed ac â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn y diwydiant ffermio?
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer Rhaglen yr Ifanc yr Academi Amaeth 2023.
Bydd Rhaglen yr Ifanc, sydd wedi'i ariannu'n llawn, yn cynnig:
- Cyfle i rwydweithio gyda rhai o’r bobl fwyaf blaenllaw yn y diwydiant bwyd a ffermio
- Rhaglen o weithgareddau llawn ysbrydoliaeth i’ch cynorthwyo i gyrraedd eich targedau
- Hyfforddiant ar gyfer sgiliau cyfathrebu, ymdrin â'r wasg a'r cyfryngau a sgiliau negodi
- Cyfleoedd i ennill profiad o gadeirio cyfarfodydd, lleisio eich barn a mynegi eich safbwynt mewn modd effeithiol
- Llwybr mewn i rwydwaith cymorth amhrisiadwy a fydd yn agor drysau ac yn creu cyfleodd i chi
Mae ffenestr ymgeisio ar gyfer yr Academi Amaeth 2023 ar gau. Gweler ymgeiswyr llwyddiannus 2023 isod.
Cychwyn a Chyflwyniadau
|
Sioe Frenhinol Cymru
|
24 Gorffennaf 2023 |
SESIWN 1: Diwrnod 1 – Dod i’ch adnabod Eich amcanion, Mathau o bersonoliaeth, Cyfathrebu Diwrnod 2 – Ymweliadau Fferm a Chadwyn Gyflenwi Diwrnod 3 – Gwneud argraff da Delio â’r cyfryngau |
Penrhyn Llŷn, Gogledd Cymru
|
2 – 4 Awst 2023
|
SESIWN 2: Taith Astudio Tramor |
Yr Iseldiroedd
|
21 – 25 Awst 2023
|
SESIWN 3: Diwrnod 1 – Datblygu syniad, entrepreneuriaeth, dechrau a rhedeg busnes Diwrnod 2 - Ymweliadau Fferm a Chadwyn Gyflenwi Diwrnod 3 – Cynllunio ar gyfer eich dyfodol a adnabod eich diwydiant. |
Ceredigion, Gorllewin Cymru
|
30 Hydref – 1 Tachwedd 2023 |
SEREMONI ACADEMI AMAETH |
Ffair Aeaf Frenhinol Cymru
|
27 Tachwedd 2023
|
SESIWN I GLOI: Beth sydd nesaf? |
Bala, Meirionnydd
|
17 – 18 Chwefror 2024
|
Noder - mae’n rhaid i ymgeiswyr fynychu pob un o’r sesiynau uchod a rhaid iddynt gael pasbort sy’n ddilys am o leiaf 6 mis ar ôl y taith astudio. Gallai methu ymrwymo i’r profiad Academi Amaeth yn llawn arwain at ddiarddel o’r rhaglen ac ad-dalu costau. Mae rhestr lawn o reolau ar gael ar y wefan.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Lleol.