15 Ebrill 2021

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Nod amaethyddiaeth adfywiol yw symud oddi wrth gynhyrchiant a chynnal allbynnau tuag at y pedair A: adnewyddu, adfer, amnewid ac atgyweirio ecosystemau.
  • Mae llawer o ffermwyr eisoes yn defnyddio arferion adfywio unigol ond efallai y bydd arnyn nhw angen cymorth i gyfuno mwy o'r rhain mewn systemau holistig sy'n dal yn broffidiol.
  • Efallai mai bri-air yw amaethyddiaeth adfywiol, ond mae ysbryd y peth yn cyd-fynd yn dda â’r rhan y mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweld amaethyddiaeth yn ei chwarae fel ased byd-eang yn y dyfodol.

 

Beth yw amaethyddiaeth adfywiol?

Nid peth newydd mo amaethyddiaeth neu ffermio adfywiol ac yn aml mae’r term yn cael ei ddefnyddio am yn ail â chysyniadau sy’n cynnwys amaethyddiaeth gadwraeth ac amaeth-ecoleg. Cafodd y cysyniad ei drafod yn wreiddiol dros 40 mlynedd yn ôl a chafodd ei addasu ar sail arferion a delfrydau mewn ffermio organig. Mae un testun allweddol yn 2015, a awgrymodd y gallai amaethyddiaeth adfywiol wrth-droi newid hinsawdd, wedi troi amaethyddiaeth adfywiol yn un o hoff eiriau’r sector amaethyddiaeth a’r cyfryngau. Er hynny, mae amaethyddiaeth adfywiol yn gysyniad anodd ei ddiffinio ac yn aml gall ceisio gwneud hynny gyfyngu ar y cyfle i systemau amaethyddol weithio mewn cytgord â natur. Ond, un agwedd allweddol ar amaethyddiaeth adfywiol y cytunir arni yw symud oddi wrth nodau amaethyddiaeth gynaliadwy o "leihau niwed neu wneud dim niwed" neu "defnyddio llai o gemegolion" tuag at ddull sy’n canolbwyntio ar "adfer", "gwella" a "darparu manteision". Mae llawer yn edrych ar ffermio adfywiol fel dull sy'n anelu at adfer priddoedd dirywiedig a'r fioleg gysylltiedig, ond gall hyn fod yn un elfen yn unig. Heblaw priddoedd, dylai amaethyddiaeth adfywiol hefyd effeithio ar fioamrywiaeth, cynefinoedd, cylchoedd dŵr, coedwigoedd, enillion cymdeithasol a thirweddau a dylai effeithiau holistig bras amaethyddiaeth gael eu hystyried. Felly, gellid ystyried amaethyddiaeth adfywiol fel system led-gaeedig sy'n defnyddio agweddau ar economi cylchol i leihau mewnbynnau ac allbynnau niweidiol (fel gwastraff) ar sawl ffurf. Mae'r strategaeth wedi gweld datblygiadau o bwys fel cysyniad yn yr Unol Daleithiau ac amcangyfrifodd adroddiad diweddar fod cyfanswm o $47.5 biliwn wedi’i fuddsoddi mewn systemau adfywiol. Gan ein bod wedi gweld sawl rhybudd yn y 10-20 mlynedd diwethaf fod angen symudiad sylfaenol oddi wrth amaethyddiaeth ddiwydiannol, beth all amaethyddiaeth adfywiol ei gynnig?

 

Ffocws presennol y Deyrnas Unedig

Cyfyngedig yw nifer y ffermwyr y bernir eu bod yn ffermio’n adfywiol yn y Deyrnas Unedig, ond mae llawer o brosesau adfywio yn cael eu harfer i wahanol lefelau, yn enwedig mewn systemau organig ardystiedig sy'n gorfod cael y rhain er mwyn cael eu hardystio. Dangoswyd bod annog pobl i fanteisio ar arferion adfywio yn llwyddo’n well os oes yna wasanaethau sy'n rhannu gwybodaeth a chyngor rhwng ffermwyr. Un wefan sy’n gwneud hyn yw BASE UK (‘Biodiversity, Agriculture, Soil & Environment’) mewn cydweithrediad â’r ‘Farming Forum’. Yn fwy diweddar, mae ‘Regenagri’, sef menter amaethyddiaeth adfywiol fyd-eang, wedi’i lansio, gyda’r Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy yn rhan o’r tîm llywodraethu. Mae Regenagri yn darparu hyb digidol sy'n ceisio dod â ffermwyr at ei gilydd i roi mynediad at ddulliau asesu sy’n caniatáu i waith adfywio gael ei feincnodi a mynediad at gamau rheoli a allai wella sgoriau ffermydd. Yn bwysig ddigon, gall unrhyw system sy'n darparu asesiad digidol o'r fath ddod yn fwyfwy pwysig fel system dystiolaeth wrth wneud cais am gymorthdaliadau amgylcheddol. At hynny, mae mudiad di-elw ‘Regeneration international’ wedi mynd ati’n ddiweddar i greu ‘map ffermydd adfywiol’ sy’n dangos cynnyrch a gynhyrchwyd mewn modd adfywiol ar sail galwadau’r defnyddwyr, sy’n dangos bod hyn yn faes o bryder cynyddol i’r defnyddwyr (mae’n cynnwys pedair fferm yn y Deyrnas Unedig, o’i gymharu â miloedd yn yr Unol Daleithiau).

Yn nes at gartref, mae gan Cyswllt Ffermio safle ffocws sy'n edrych ar ddefnyddio'r safbwynt adfywiol hwn yn sgil ymweliad y ffermwr arweiniol ag Ewrop i werthuso systemau tebyg drwy'r rhaglen 'Cyfnewid Rheolaeth'. Mae gweminar addysgiadol ar gael yma

 

Prosesau

Gall prosesau amaethyddol sy'n cael eu hystyried yn adfywiol amrywio ond maent yn cynnwys defnyddio cnydau gorchudd, cnydau neu gwndwn sy’n cynnwys rhywogaethau cymysg (arallgyfeirio cnydau), ffermio cymysg (da byw ochr yn ochr â chnydau), aredig yn llai neu beidio ag aredig, stribedi byffro ar hyd y dorlan, silfoborfa, amaeth-goedwigaeth, rheoli plâu yn integredig (IPM), dyframaethu, rheoli maetholion yn integredig (INM), pori cylchdro (pori celloedd) a defnyddio glaswelltoedd lluosflwydd/porfeydd parhaol "dylai fod gwreiddiau yn y ddaear bob amser". Yn annibynnol, nid yw'r holl brosesau hyn yn ddim byd newydd i ffermwyr ac mae llawer o'r rhain yn cael eu harfer i wahanol raddau. Ond, fe allai'r cyfuniad o systemau holistig o'r fath roi mwy o fanteision nag a welwyd o weithrediadau unigol.

Er enghraifft, mae systemau pori adfywiol yn defnyddio cylchdro porfeydd dwys am gyfnodau byr a mynych sy’n gallu bod o fudd ar gyfer iechyd y pridd a chynnal twf y borfa a’r anifeiliaid yr un pryd. I wneud hyn, maen nhw’n dilyn egwyddorion allweddol:

  • Cynllunio, monitro a rheoli’r porfeydd yn gywir
  • Rhoi cyfle i’r gorchudd planhigion orffwys ac ymadfer rhwng cyfnodau pori
  • Cyfateb y capasiti stocio a’r capasiti cario
  • Sicrhau'r perfformiad gorau posibl o ran da byw
  • Rheoli’r amrywiaeth o anifeiliaid, planhigion a microbioleg yn holistig

Effeithiau pendant a phosibl arferion ffermio adfywiol wedi’i godi o Spratt et al. (2021)

Mae strategaethau pori adfywiol eraill yn cynnwys ffermio cymysg. Drwy bori da byw fel rhan o gylchdro cnydau, cynigir y gall ffermwyr ychwanegu maetholion yn uniongyrchol i’r pridd drwy dail, sy'n arwain at systemau dolen gaeedig. Gall hyn leihau’r mewnbynnau allanol a chael effaith arwyddocaol ar ecosystemau’r caeau gan gynnwys gwella’r cylch maetholion drwy gyfrwng chwilod tail. Gallai ffermwyr tir âr ystyried defnyddio da byw ffermydd cyfagos, a’u cynnwys yn y cylchdro yn ôl yr angen i ddarparu manteision sy'n llifo yn y ddau gyfeiriad.

Trafodwyd sawl proses adfywio o’r blaen mewn erthyglau gan Gyswllt Ffermio. I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw faes penodol sydd o ddiddordeb, gweler y dolenni yn y tabl isod.

Proses

Dolenni

     

Cnydau gorchudd

1

2

   

Lleihau/atal triniaeth tir

1

2

3

 

Stribedi byffro ar y dorlan

1

     

Silfoborfa

1

2

   

Amaeth-goedwigaeth

1

2

   

Pori ar gylchdro (pori celloedd)

1

2

3

 

Glaswelltoedd parhaol/Porfeydd parhaol

1

2

3

 

Cnydau neu gwndwn â rhywogaethau cymysg

1

2

3

4

Cysyniadau a Chanlyniadau 

Mae trafodaeth gynyddol ynghylch amaethyddiaeth adfywiol yn symud y ffocws oddi wrth brosesau a thuag at werthuso’r canlyniadau. Drwy feddwl fel hyn, gall y sector symud tuag at safbwynt mwy holistig a daw’r dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) pwysicaf yn glir. Mae hyn yn arwain at newid arwyddocaol yn y mesuriadau perfformiad gan fod angen i lawer o’r rhain gael eu mesur a’u datblygu’n fanylach i fod yn addas at y dasg. Mae llawer o’r trafod ar ffermio adfywiol yn ymwneud â phum pryder craidd: 1) Gwella iechyd a ffrwythlondeb y pridd, 2) dal a storio carbon, 3) cynyddu bioamrywiaeth, 4) gwella iechyd ecosystemau a 5) gwella ansawdd dŵr.

Gallai dal a storio carbon drwy amaethyddiaeth adfywiol chwarae rhan yn ei hyfywedd economaidd fel cysyniad os bydd arferion masnachu/rhannu carbon posibl yn y dyfodol yn dod i rym. Gallai strategaethau o'r fath ganiatáu i amaethyddiaeth fel sector gyfnewid y carbon sydd wedi’i ddal ac wedi’i storio uwchlaw’r gofynion am fewnbynnau o werth cyfatebol gyda sectorau eraill (fel hedfan, sydd heb fawr ddim potensial ar gyfer dal a storio carbon). Os daw arferion adfywiol yn gyffredin, dylai'r gronfa o garbon wedi’i ddal sydd ar gael i’w ffeirio fel hyn gynyddu nes cyrraedd cydbwysedd uwch, ond dim ond mewn rhanbarthau â phriddoedd dirywiedig, gan y gall priddoedd a reolir yn dda fod wedi cyrraedd neu bron â chyrraedd eu capasiti carbon. Dyma faes lle mae'n rhaid ystyried amaethyddiaeth adfywiol yn ofalus, er mwyn osgoi honiadau gormodol ynglŷn â dal carbon. Un rheswm am hyn yw ei bod yn hawdd gwrth-droi’r carbon sydd wedi’i ddal mewn pridd drwy amaethyddiaeth os bydd yr arferion rheoli’n newid. Un enghraifft dda o hyn yw arferion fel peidio â thrin y tir yn troi yn ôl at drin y tir eto, fel sy’n digwydd mewn 30% o’r achosion yn yr Unol Daleithiau. Er hynny, o ran manteision, mae amaethyddiaeth adfywiol wedi'i chynllunio i fod yn system hylifol ac adweithiol y mae cylchdroi rhywogaethau’r cnydau a’r cymysgedd cnydau yn elfen allweddol ynddi. Gall amrywiaeth rhywogaethau o’r fath gynyddu gallu systemau’r fferm i wrthsefyll anghysondebau’r hinsawdd, fel sychder a llifogydd, naill ai’n uniongyrchol drwy gydadwaith y rhywogaethau neu’n anuniongyrchol drwy rannu’r risg (cnydau penodol yn ffynnu ac yn gwneud iawn pan fo rhywogaethau eraill yn cynhyrchu lai).

Fel yn achos y prosesau, mae llawer o gysyniadau amaethyddiaeth adfywiol hefyd wedi'u trafod i wahanol raddau yn erthyglau blaenorol Cyswllt Ffermio. Ceir mwy o wybodaeth isod:

Cysyniadau

Dolenni

   

Lleihau neu atal mewnbwn cemegolion

1

   

Lleihau neu atal mewnbwn gwrteithiau

1

2

3

Gwella iechyd a ffrwythlondeb y pridd

1

2

3

Dal a storio carbon

1

2

3

Cynyddu bioamrywiaeth

1

   

Gwella ansawdd dŵr

1

2

 

Rhagolygon

O ran defnyddio arferion adfywiol ar y fferm i sicrhau’r cynnyrch sydd i’w gyflawni, mae allbynnau cymysg wedi’u hawgrymu. Mae ffermydd organig yn defnyddio llawer o arferion adfywio ac mae rhai astudiaethau wedi nodi cynnyrch is drwy systemau o'r fath mewn rhai achosion ond mae astudiaethau eraill wedi nodi cynnyrch tebyg neu uwch. Fel gyda llawer o arferion ffermio, gall y gwerthusiad hwn fod yn wahanol o’r naill achos i’r llall. Dangosodd astudiaethau o arferion amaethyddol adfywiol ar dir cnydio yn yr Unol Daleithiau fanteision economaidd o'u cymharu ag amaethyddiaeth gonfensiynol, yn enwedig ar fân-ddaliadau o ran defnyddio llafur. Mae hyn yn awgrymu y gallai systemau llafur-isel effeithlon o’r fath fod yn allweddol i ateb anawsterau cynyddol ynglŷn â’r gweithlu sydd ar gael ledled Ewrop. Ochr yn ochr â hyn, dangosodd cymhariaeth ddiweddar o ddulliau ffermio indrawn adfywiol a chonfensiynol yng Ngogledd America ostyngiadau 10 gwaith mewn plâu drwy arferion a ddyluniwyd i wella gwydnwch yn erbyn plâu o’i gymharu â strategaethau plaleiddiaid confensiynol. Ond, cafodd cynnyrch is ei weld ar ffermydd adfywiol (pryder allweddol i lawer sy'n gwrthwynebu'r strategaeth hon) ond nodwyd eu bod yn sicrhau elw uwch er hynny. Un ystyriaeth allweddol wrth werthuso ffermydd adfywiol o’u cymharu â rhai confensiynol yw i ba lefel y maen nhw’n adfywio, oherwydd mewn llawer o astudiaethau bernir bod fferm yn adfywiol er mai dim ond un neu ddau o arferion adfywio sy’n cael eu defnyddio.

Mae caeau indrawn adfywiol yn creu bron dwywaith yr elw a geir o indrawn a reolir yn gonfensiynol yn ôl LaCanne a Lundgren 2018. Roedd yr arferion adfywiol yn cynnwys defnyddio cnydau gorchudd, dim pryfleiddiaid na phlaleiddiaid, dim trin y tir a phori anifeiliaid ar gaeau’r cnydau.

 

Mae ymwybyddiaeth ffermwyr o ba arferion maen nhw eisoes yn eu defnyddio ac eraill y gellid eu newid neu eu haddasu i fod yn fwy adfywiol yn holl-bwysig. Gallai addysg a hyfforddiant ar strategaethau o'r fath i ffermwyr ac fel ffocws mewn addysg gyffredinol fod o les i ledaenu neges sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd. Dangoswyd yn gyson hefyd fod cyfleoedd lle gall ffermwyr gyfathrebu â ffermwyr eraill i drafod syniadau yn gweithio'n dda. Hefyd, gallai sawl technoleg chwarae rôl mewn ffermio adfywiol, gan gynnwys synwyryddion pridd, mapio cynnyrch, mapio â lloeren/drôn a thechnolegau gwasgaru ar gyfraddau amrywiol er mwyn codi iechyd y pridd, y cnydau a’r porfeydd i’r eithaf gan leihau faint o gemegolion a gwrteithiau a wasgerir hefyd. O ran pori da byw, mae yna botensial mewn systemau GPS i greu ffensys rhithiwr sy’n caniatáu arferion pori ar gylchdro heb fawr o lafur ar draws tir agored heb fod angen ffensys helaeth. Yn realistig, dylai'r sector fod yn ceisio cyfuno unrhyw offer sydd ar gael i symud tuag at fwy na system gynaliadwy yn unig, ond hefyd un sy'n mynd ati i adfywio a ffynnu mewn cydbwysedd newydd sy’n is o ran mewnbynnau yn y tymor hir.

Un cwestiwn allweddol o ran cynyddu'r nifer sy'n defnyddio’r dull hwn o hyd yw, os yw arferion amaethyddol adfywiol i gael eu cydnabod wrth symud ymlaen, a oes angen eu diffinio'n fwy penodol? Yn 2020 amlygodd astudiaeth y gallai termau ansicr arwain at anawsterau diffyg ymddiriedaeth ynglŷn ag eco-labeli ar fwydydd a chaniatáu i’r term ‘ffermio adfywiol’ gael ei ddefnyddio’n ddiegwyddor er mwyn creu manteision tybiedig o ran delwedd. Ar y llaw arall, gall dealltwriaeth glir o beth yn union yw ffermio adfywiol fod yn fuddiol wrth ddatblygu rhaglenni polisi, yn enwedig lle gallai’r strategaethau hynny ddylanwadu ar daliadau yn y dyfodol am wasanaethau carbon/gwasanaethau ecosystemau.

 

Crynodeb

Mae’n edrych fel petai amaethyddiaeth adfywiol yn gam ymhellach ymlaen o systemau cynaliadwy. Gall ffermio cynaliadwy fod yn gysyniad dryslyd gan fod cynaliadwyedd yn wahanol gan ddibynnu ar safbwyntiau'r rhai sy'n rhan ohono. Gall cynnal allbynnau economaidd neu broffil maetholion y pridd ar draws un fferm fod yn nodau pendant er gwaethaf effeithiau amgylcheddol yr ychwanegiadau sy’n angenrheidiol i gyflawni'r rhain. Felly, mae symud ein persbectif oddi wrth gynnal yn unig tuag at reolaeth holistig yn hanfodol er mwyn cynnal-a-chadw'r blaned a'i holl ddeiliaid yn y tymor hir. Mae ffermwyr eisoes yn ymwybodol o brosesau unigol a all helpu i gyflawni hyn ond gallai trosolwg ehangach o fanteision posibl cyfuno nifer o arferion adfywiol gynnig enillion pellach. Yn bwysig ddigon, mae angen amser i lawer o arferion adfywiol ddod i rym a gall y rhain greu baich o ran cynhyrchiant a darbodaeth yn ystod y cyfnod ymsefydlu hwn. Gallai hyn, ynghyd â'r ymdrech i symud oddi wrth systemau dwys, atal ffermwyr rhag defnyddio’r dull ac mae'n ddigon posibl y bydd angen mynd i'r afael â newidiadau sydd ar y gweill yn y cymorthdaliadau sy'n cael eu darparu ledled y Deyrnas Unedig os bernir bod amaethyddiaeth adfywiol yn fuddiol yn y pen draw. Gallai amaethyddiaeth adfywiol gynnig gwell manteision amgylcheddol a chyflenwi nwyddau cyhoeddus anuniongyrchol hefyd, felly mae angen gwerthuso'r allbynnau hyn yn ofalus er mwyn gwobrwyo ffermwyr yn effeithiol am eu cyfraniad. Hefyd, fel gyda chynhyrchion organig, gellid dadlau y dylai cynhyrchion a dyfir yn adfywiol gario premiwm i adlewyrchu gwir gostau cynhyrchu’r bwyd.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth