Ymchwilio i batrwm rhyddhau nitrogen o chwistrelliad yn y gwanwyn o hylif nitrogen ar dir pori

Mae'r teulu Wheeler wedi bod yn chwistrellu wrea hylifol/amoniwm nitrad ar eu tir pori yn y gwanwyn ers blynyddoedd lawer ac mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn deall rhagor am ba mor effeithlon yw'r arfer ynghyd â phatrwm rhyddhau a symud y nitrogen (N) yn y pridd.

Credir bod chwistrelliad hylif N yn lleihau effeithiau negyddol anweddolrwydd ac yn cynnal cyflenwad parhaus o N i laswellt am sawl mis ar ôl y chwistrelliad. Er bod llawer o honiadau anecdotaidd am gyflenwad parhaus a gwastad o N a’r manteision posibl ar gyfer cyflenwad ar ddyfnder gwreiddio ac yn enwedig o dan amodau sychder, nid oes bron dim ymchwil i’r defnydd o hylif N a chwistrellir.

Gyda mesuriadau twf glaswellt eisoes yn cael eu cofnodi ar y platfform pori trwy ddefnyddio mesurydd plât codi a’i gofnodi yn AgriNet, mae lle i gynnal gwerthusiad o’r dull hwn o ran ei NUE (Effeithlonrwydd Defnydd Nitrogen).

Agweddau yr ymchwilir iddyn nhw:

  • A yw'r system yn darparu defnydd effeithlon o N o ran kg o ddeunydd sych (DM) a dyfir fesul kg o N a chwistrellir?
  • A yw chwistrelliad yn cynyddu N gweddilliol y pridd a pheryglon colledion trwytholchi yn y gaeaf?
  • A yw'r cyflenwad o N yn gyson, neu a oes risg y bydd y borfa'n gorlifo yn ormodol ag N gydag effeithiau negyddol dilynol ar ansawdd y glaswellt, NUE, a pherfformiad anifeiliaid (e.e. lefelau uchel o wrea yn y llaeth)?

Trwy ysgogi gwelliant pellach mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Aer glân
  • Dŵr glân
  • Gwneud y mwyaf o storio carbon
  • Llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Lleihau risg llifogydd a sychder
  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon

Lleihau cywasgu pridd i wella iechyd y pridd 

Mae Clyngwyn yn bennaf ar briddoedd podsolaidd brown y gyfres Manod. Mae'r priddoedd cleiog hyn yn draenio'n rhwydd ar y cyfan, ond gyda thipyn o law, gallan nhw ddod yn ddirlawn yn hawdd ac maen nhw’n dueddol o gael eu cywasgu.

Mae gwaith ymchwil wedi edrych ar fanteision posibl peiriannau awyru (rholwyr miniog a pheiriannau â choesau) ac mae'r canlyniadau wedi amrywio yn dibynnu ar y math o bridd ac amseriad gweithrediadau, ond yn aml yn dangos gostyngiadau mewn dwysedd swmp a lleithder pridd. Gweler Batey (2009) am adolygiad. Mae'r teulu Wheeler wedi cynnig defnyddio rholer miniog Grass Care / AerWorx i geisio lleddfu rhywfaint o'r difrod a gwella iechyd y pridd. 

Bydd y prosiect yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Dŵr glân
  • Gwneud y mwyaf o storio carbon
  • Lleihau risg llifogydd a sychder
  • Llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon