Mae Calon Wen, prif gwmni llaeth organig Cymru, newydd ennill contract cyflenwi sylweddol yn Qatar yn dilyn taith fasnach Llywodraeth Cymru. Trwy bartneru gydag un o brif gwmnïau dosbarthu Qatar, bydd Calon Wen ar gael yn nifer o fanwerthwyr blaenllaw y wlad.
O bryfed blasus i ddeunyddiau amgen di blastig Bwyd & Diod Cymru yn cyflwyno Cymru yn genedl arloesi bwyd
Yr wythnos nesaf bydd rhai o brif gwmnïau arloesi bwyd Cymru yn bresennol yn Food Matters Live, digwyddiad blynyddol ar gyfer bwyd, iechyd a maeth yn ExCeL yn Llundain.
Cyhoeddi enwau siaradwyr blaenllaw wrth i docynnau fynd ar werth ar gyfer prif gynhadledd fwyd ryngwladol Cymru
Meddwl Aflonydd’ - ar y fwydlen ar adeg dyngedfennol i’r diwydiant bwyd yng Nghymru Bydd dros 600 o gynrychiolwyr yn clywed gan rai o brif arbenigwyr y diwydiant wrth i enw da’r sector bwyd a diod o Gymru barhau i dyfu’n rhyngwladol Ymysg y siaradwyr mae Claus Meyer, yn enwog yn rhyngwladol a’r un a daniodd y chwyldro bwyd yng ngwledydd Llychlyn
Arddangos enillwyr Great Taste bwyd a diod o Gymru er mwyn dathlu eu llwyddiant
Mae Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn bresennol heddiw (Dydd Mawrth 6 Tachwedd) pan gaiff 153 o gynhyrchion o Gymru a gafodd gydnabyddiaeth ynghynt eleni yng ngwobrau mawreddog Great Taste eu harddangos mewn digwyddiad dathlu yng Ngwesty St David’s, Caerdydd.
Eich Gwahoddiad i Ddigwyddiad Clwb Allforio Bwyd a Diod
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd digwyddiad nesaf y Clwb Allforio Bwyd a Diod ar gyfer 2018 yn digwydd ar ddydd Mercher 7 Tachwedd yn lleoliad cynadledda Porth Eirias ym Mae Colwyn rhwng 3 a 6yp.
A yw eich busnes Bwyd a Diod yn barod ar gyfer Brexit?
Gyda Brexit yn agosáu a dyfalu cynyddol am natur y cytundeb terfynol (os o gwbl), mae'n bwysicach nag erioed i fod yn barod am bob posibilrwydd trwy sicrhau bod eich busnes bwyd a diod yn barod ar gyfer Brexit. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
A yw eich busnes Bwyd a Diod yn barod ar gyfer Brexit?
Gyda Brexit yn agosáu a dyfalu cynyddol am natur y cytundeb terfynol (os o gwbl), mae'n bwysicach nag erioed i fod yn barod am bob posibilrwydd trwy sicrhau bod eich busnes bwyd a diod yn barod ar gyfer Brexit. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Brwsel, Gwlad Belg a Utrecht, Yr Iseldiroedd
Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymweliad datblygu masnach bwyd a diod i'r Gwlad Belg a'r Iseldiroedd ar ran Llywodraeth Cymru.