Llwyddiant melys i wneuthurwr mêl o Gymru
Mae’r gwneuthurwyr mêl o’r Canolbarth, Hilltop Honey yn dathlu ar ôl ennill gwobr glodfawr yng Ngwobrau’r Great Taste. Cyfeirir at Wobrau Great Taste fel Oscars y byd bwyd, ac fe’u cynhaliwyd yn Llundain neithiwr. Cyflwynwyd Gwobr Treftadaeth Nigel Barden Great Taste i’r cwmni o Gaersws, Hilltop Honey, am eu Mêl Teim Crai oedd eisoes wedi ennill 3 seren Great Taste. Crëwyd y wobr, a gyflwynir bob blwyddyn i gynhyrchydd sy’n defnyddio dulliau hanesyddol, bridiau prin...