Digwyddiad masnach rhyngwladol yn dangos bwyd a diod o Gymru i’r byd
Bydd dros gant o gynhyrchwyr blaenllaw o Gymru’n cael cwmni prynwyr cenedlaethol a rhyngwladol, newyddiadurwyr, pwysigion ac arweinwyr y diwydiant yn y digwyddiad bwyd a diod cyntaf erioed yng Nghymru sydd wedi’i anelu at farchnad y DU a’r byd. Bwyd a Diod Cymru, Is-adran fwyd Llywodraeth Cymru, sy’n trefnu’r digwyddiad, BlasCymru/TasteWales, yng nghyrchfan nodedig y Celtic Manor ar 23-24 Mawrth, gan ddod â’r diwydiant cyfan dan yr un to i arddangos y gorau o blith...