Diodydd

Water

Mae’r diwydiant diodydd yng Nghymru’n perfformio’n dda, yn ein helpu i’n rhoi ar flaen y gad ym marchnad manwerthu diodydd Ewrop. Roedd gwerthiant dŵr mwynol dros £15 miliwn, ac mae gennym enw da’n rhyngwladol am gwrw, seidr, perai, gwin a gwirodydd, sy’n amrywio o’r brandiau uchel eu proffil, arobryn, i gynhyrchwyr crefftus bychan. 

Llwncdestun i lwyddiant

Mae twf o dros 6% yng ngwerthiant bwyd a diod yn 2013 yn golygu mai Cymru yw un o’r gwledydd sy’n gwneud orau yn y farchnad manwerthu bwyd yn Ewrop. Mae’r diwydiant diodydd sy'n ffynnu yn elfen bwysig o hyn. Mae'r diwydiant dŵr mwynol yn werth £15 miliwn, ac mae Cymru’n magu enw da am gwrw, seidr, perai, gwin a gwirodydd o safon a gynhyrchir gan amrywiaeth eang o gwmnïau, gan gynnwys brandiau arobryn a chynhyrchwyr crefftus ar raddfa fechan sy’n gwerthu i dafarndai lleol ac i gwsmeriaid yn uniongyrchol mewn gwyliau bwyd a digwyddiadau eraill.


Ffeithiau Allweddol - Diwydiant Diod Cymru

Dadansoddiad a Gorolwg dros Ddiwydiant Diodydd Cymru

Mae’r adroddiad byr hwn yn rhoi cipolwg a manylion am yr is-sector diodydd yng Nghymru, o gynhyrchu sylfaenol trwy brosesu i ddosbarthu ac adwerthu. Yn benodol, mae’r adroddiad yn adolygu’r cwmniau yn yr is-sector, y rhoi ystadegau cyflogaeth a gweithgaredd busnes manwl gan yr ONS a FSA, tueddiadau’r defnyddiwr trwy adolygu data Kantar a ffynonellau a gwaith ymgynghori arall gan y diwydiant. Yn olaf, mae’r adroddiad yn cynnig cip ar weithgaredd a chyfleoedd busnes trwy amrywiaeth o astudiaethau achos.

Yr Adoroddiad Terfynol

 

 


Drinks Wales

Adeiladu ar lwyddiant

Nid ydym yn gorffwys ar ein bri yma yng Nghymru. Rydym bob amser yn ceisio helpu cynhyrchwyr i wella ansawdd a gwella proffil y diwydiant. Felly rydym am sicrhau ein bod yn annog hyd yn oed mwy o gynhyrchwyr a phroseswyr diodydd llwyddiannus i wneud i’n diwydiant diod sefyll allan fwy fyth. Rydym yn gwneud hyn drwy Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020 sy’n ceisio rhoi hwb o 30% i’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru erbyn 2020.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan DiodyddCymru.