Pobi
Nod ein Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod yw helpu’r sector pobi sydd wedi’i hen sefydlu yma i fodloni’r galw gan gwsmeriaid a rhoi sylw i heriau newydd. Rydym yn annog y sector i fuddsoddi mewn datblygu cynnyrch newydd, gan bwysleisio’r angen am fwyd iachach a rhoi sylw i anghenion diet arbennig.
Buddsoddi mewn cynnyrch newydd
Mae galw mawr am gynnyrch pobi o hyd. Mae rhai cwmnïau mwy yn y diwydiant hwn sydd wedi’i hen sefydlu’n dosbarthu i gadwyni cenedlaethol a manwerthwyr mwy, ond mae’r diwydiant yn wynebu heriau newydd. Rhaid i’r sector cyfan ddal ati i fuddsoddi mewn datblygu cynnyrch newydd i ymdopi â'r galw hwn, ac mae gofyn cael rhagor o gwmnïau i gynhyrchu bwyd sy'n bodloni'r agenda iach ac anghenion diet arbennig.
Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod
Rydym yn ymgysylltu â’r diwydiant pobi, drwy’r Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod, er mwyn rhoi sylw i gyfres o heriau, helpu cwmnïau i ymdopi â’r galw gan gwsmeriaid ac aros yn gystadleuol. Un o’r pethau pwysicaf yw'r angen i gynhyrchu cynnyrch i ddefnyddwyr a chanddynt ofynion arbennig o ran diet, fel bwyd halal neu gynnyrch heb glwten, a bwyd sy'n cynnwys llai o fraster, siwgr a halen. Mae gweithlu sy’n heneiddio a diffyg sgiliau penodol ymhlith pobl ifanc sy’n dod i’r diwydiant yn ffactorau i roi sylw iddynt hefyd.