Amserlen Gweithdy Meistr ar Slyri
20fed o Fedi - Diwrnod 1
10yb – 3:30yp
Keith Owen, KeBek a Chris Duller
- Y gwahaniaeth rhwng rheoliadau blaenorol SSAFO a’r rheoliadau newydd.
- Beth sydd angen ei wneud a pha bryd.
- Beth sy’n cael ei ystyried yn slyri a beth sydd ddim.
- Beth sy’n cael ei ystyried yn ddŵr ffo ‘ychydig yn fudr’ a beth mae hyn yn ei olygu.
- Sut i arbed arian wrth leihau faint o slyri /dŵr budr sy’n cael ei gynhyrchu, gan gynyddu capasiti storio.
- Sut i gyfrifo’r capasiti storio presennol.
- Sut i gyfrifo’r capasiti storio sydd ei angen, beth gellir ei gynnwys a beth gellir ei hepgor.
- Taith o amgylch y fferm, gan edrych ar enghreifftiau o’r pethau sy’n cydymffurfio a phethau sydd ddim yn cydymffurfio, a chyngor ar sut i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau.
- Prif lwybrau colli N a ffosfforws (P).
- Ffactorau allweddol sy’n arwain at golli maetholion.
- Llygredd gwasgaredig a tharddle penodol.
- Cyfanswm y maetholion yn erbyn y maetholion sydd ar gael.
- Gwerth slyri/tail, gan gynnwys gweddillion treuliad anaerobig a dofednod.
11ain o Hydref - Diwrnod 2
10yb – 3:30yp
Keith Owen, KeBek a Chris Duller
- Eglurhad o’r hyn sy’n cael ei ystyried yn FYM, a beth mae hyn yn ei olygu o dan y rheoliadau newydd.
- Enghreifftiau ymarferol o sut gellir cyflwyno gwelliannau gam wrth gam i leihau faint o slyri a gynhyrchir, ac effaith hyn ar gostau unrhyw storfeydd ychwanegol.
- Enghrefftiau o ddulliau arbed arian wrth leihau achosion o halogiad dŵr budr a chynhyrchu slyri.
- Buddion chwistrellwyr, ac ati.
- Y rheoliadau a gyflwynir yn 2021, 2023 a 2024 – gan gynnwys mapiau risg, tomenni storio, cadw cofnodion.
- Materion posibl sy’n gysylltiedig â’r cyfnodau pan mae gwasgaru slyri wedi’i wahardd.
- Materion yn ymwneud â chontractwyr.
- Y terfyn 170 a’r uchafswm N: sut i gyfrifo a fydd eich busnes yn cydymffurfio – a’r camau y gallwch eu cymryd er mwyn cydymffurfio.
- Sesiwn maes ymarferol ar reoli risg ac asesu cyflwr y tir.
- Enghreifftiau o gyfraddau gwasgaru.