Mesur i Reoli
Deall eich perfformiad presennol i anelu at y dyfodol
Mae Cyswllt Ffermio wedi cyflwyno dull newydd ac arloesol o feincnodi ar gyfer busnesau Fferm a Choedwigaeth, ac mae ar gael i bob busnes, trwy’r rhaglen ‘Mesur i Reoli’.
Mae hyn yn cynnwys:
- casglu data ffisegol (canran sganio, canran magu, canran gwerthu ac ati)
- creu ffurflenni syml i gasglu data
- darparu ffurflen cam wrth gam i'w chwblhau mewn darnau bychain ar hyd y flwyddyn gynhyrchu
- darparu cyngor/mentora o ansawdd i drafod canlyniadau
Cliciwch yma i weld ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer adnodd meincnodi Mesur i Reoli Cyswllt Ffermio.