Pam fyddai Caz yn fentor effeithiol?

  • Mae Caz, sy’n wreiddiol o Swydd Hertford, wedi byw yng Nghymru ers dros 20 mlynedd. Mae hi a’i gŵr, Mike, bellach yn berchen ar dyddyn 150 erw lle mae’n rhoi ei sgiliau academaidd ac ymarferol sylweddol ar waith mewn cadw gwenyn, rheoli coetir ac arferion rheoli tir adferol.
  • Yn 2006, prynodd y cwpl floc 100 erw o goedwigaeth i sefydlu cydweithfa weithwyr ger Llanrhath. Helpodd arian grant y grŵp i sefydlu ysgol goedwig ar gyfer y gymuned leol, gan ddysgu amrywiaeth o sgiliau coetir i blant ysgolion cynradd ac oedolion. Fe fuon nhw’n gweithio gyda grwpiau elusennol, yn darparu profiadau adeiladu tîm corfforaethol, yn denu nifer o wirfoddolwyr, ac yn cynnig prentisiaethau. Daeth y prosiect i ben yn 2014 gan alluogi'r cwpl i ychwanegu at eu buddsoddiad trwy brynu tyddyn cyfagos, darparu cartref i'w teulu ifanc, a chyflawni eu gweledigaeth o sefydlu noddfa natur.  
  • Yn frwd dros gysylltu pobl â byd natur a chynyddu bioamrywiaeth, mae Caz yn canolbwyntio ar gynllunio a rheoli coetir, ffermio cynaliadwy ac adfywiol, paramaethu a gwenyna. Mae incwm y cwpl yn deillio'n bennaf o gadw gwenyn a mêl. Maen nhw hefyd yn gwerthu sbriws mawr a phinwydd i'r diwydiant adeiladu a diwydiannau biomas. 
  • Yn 2016, ar ôl dysgu ei sgiliau gan wenynwr lleol, prynodd Caz nifer bach o gychod gwenyn, wedi’u lleoli mewn perllan dreftadaeth newydd ei phlannu. Yn fuan dechreuodd weithredu ar raddfa fasnachol ac mae Spiritwood bellach wedi cofrestru gyda Chymdeithas Ffermwyr Gwenyn ac mae ganddo 80 o gychod gwenyn ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynhyrchu digon o fêl bob blwyddyn i’w werthu’n uniongyrchol o giât y fferm yn ogystal â chyflenwi llawer o fanwerthwyr lleol. Mae'r cwpl yn delio â'u holl farchnata eu hunain yn bennaf trwy www.spiritwoodwales.co.uk a sianeli cyfryngau cymdeithasol.  
  • Mae gweledigaeth y cwpl o 'adfer ac ailgysylltu' wedi arwain at adfer cynefinoedd pwysig ar y tir ac un o'u nodau hirdymor yw gwahodd eraill i weithio ochr yn ochr â nhw i dyfu bwyd a sefydlu micro-fentrau eraill ar y fferm.

Busnes fferm presennol

  • Busnes fferm arfordirol 150 erw lle mae bron i 50% o'r goedwig wedi'i throi'n llydanddail cymysg. Mae gweddill y coetir yn cynnwys cnwd pren amrywiol gan ddefnyddio dulliau gorchudd di-dor. 
    ·    Sefydlwyd ardaloedd coetir newydd a gwrychoedd gwell gyda thechnegau plygu traddodiadol trwy gael cyllid gan Lywodraeth Cymru 

  • Busnes cadw gwenyn masnachol 

  • Ar hyn o bryd yn integreiddio mwy o goed blodeuol, gan gynnwys pisgwydd, afalau, draenen wen a cheirios sy'n darparu bwyd ar gyfer y boblogaeth wenyn sy'n tyfu

  • Yn bwriadu tyfu’r busnes mêl ymhellach drwy gynyddu nifer y cychod gwenyn, magu Breninesau a chynyddu’r ystod o gynnyrch

  • Ar hyn o bryd yn cynllunio maes gwersylla pwrpasol ar gyfer twristiaid, myfyrwyr a hyfforddeion.  
     

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

  • BA Astudiaethau Amgylcheddol/Astudiaethau Trydydd Byd (Prifysgol Middlesex)
  • MSc Coedwigaeth Amgylcheddol (Prifysgol Bangor)  
  • Cyrsiau Lantra, gan gynnwys trin llif gadwyn, tynnu trelar 
  • Ugain mlynedd o brofiad fel rheolwr coetir, cynghorydd a pherchennogDwy flynedd yn hunangyflogedig fel cynghorydd fferm ar ôl MSc, gan gefnogi ffermwyr gyda phlannu coed newydd neu sefydlu meithrinfeydd coed
  • Pedair blynedd yn gweithio i Trees for Life (https://treesforlife.org.uk) gan gynnwys hyfforddiant ar gadwraeth ac arweinyddiaeth ymarferol yn Sefydliad Findhorn
  • Hyfforddedig mewn dylunio paramaethu a chyfathrebu di-drais (trugarog). 
  • Arweinydd Ysgol Goedwig Lefel 3
  • Hyfforddedig mewn gwenyna (rheoli iechyd gwenyn) / wedi cyflawni sgôr 5 seren ar gyfer hylendid prosesu mêl.
     

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Dewch i wybod beth sy'n gwneud i'ch calon ganu. Mae bywyd yn rhy fyr i weithio'n galed ar gyfer rhywbeth nad ydych chi'n ei fwynhau.”
“Peidiwch â thaenu eich hun yn rhy denau – sicrhewch fod y cydbwysedd rhwng ffordd o fyw, busnes a nodau amgylcheddol yn gyfartal.”