Cyfle #104

Lleoliad (tref agosaf): Newport

90 acar

Llety syml i'r Ymgeisydd

Provider Profile
(An outline of the opportunity being provided)
 

Cwblhewch y ffurflen yma er mwyn ymgeisio am y cyfle yma: Ymgeisiwch heddiw am y cyfle yma

Rhif Cyfeirnod Mentro: 104

Y CYFLE

Rydym yn chwilio am ffermwr menter ar y cyd i ymuno â ni i ddatblygu Llwyngoras yn fferm amaeth-ecolegol fioamrywiol a biodynamig sy’n gynhyrchiol, yn ddichonadwy o safbwynt economaidd ac yn hardd.

Mae dull paramaethu wedi’i ddefnyddio i ddatblygu cynllun busnes sy’n amlygu datblygiad proffidiol y fferm dros 5 mlynedd.  Mae’r cynllun isod yn dangos gwasgariad y mentrau arfaethedig ledled y fferm.

Gyda’r partner priodol, gallwn adeiladu ar y cynllun hwn gyda’n gilydd i greu menter werth chweil sy’n cael ei llywio gan y cynllun busnes presennol heb gael ei chyfyngu ganddo.
 

Mae’n fferm 90 erw, ac mae oddeutu un rhan o dair ohoni yn goetiroedd, un rhan o dair yn dir amaeth-goedwigaeth ac un rhan o dair yn borfeydd sy’n cael eu rheoli i'w troi'n ddolydd blodau gwyllt a phorfeydd coediog.

Mewn dau gae, rydym eisoes wedi sefydlu system amaeth-goedwigaeth sy’n cynnwys oddeutu 250 o goed ffrwythau sydd wedi’u dewis ar sail eu blas, wedi’u plannu yn lonydd ar hyd y cyfuchlineddau, ynghyd â choed afalau surion bach a gwern i gynorthwyo i sicrhau ffrwythlonder a pheillio.  Ar y caeau hyn, rydym yn bwriadu cynhyrchu ffrwythau o ansawdd uchel, wyau gan ieir a gedwir ar borfa a pherlysiau, a chaiff rhai o’r cynhyrchion hyn eu prosesu ar y fferm i’w troi yn gynhyrchion â gwerth ychwanegol.  Ceir dau gae mawr yn yng ngpgledd-orllewin y fferm sydd wedi’u defnyddio i dyfu cnydau porthiant a silwair, ond efallai y gellid eu defnyddio i dyfu naill ai grawn ar raddfa fechan, hadau blodau gwyllt neu fathau eraill o ddefnydd.

Mae’r pedair porfa yn ne-ddwyrain y fferm yn cael eu rheoli i leihau ffrwythlonder, ond efallai y byddant yn cael eu pori maes o law gan wartheg Henffordd traddodiadol gan ddilyn patrwm pori at ddibenion cadwraeth, a bydd hynny’n annog datblygiad y dolau blodau gwyllt a’r porfeydd coediog.  

Ceir amrywiaeth o ffensys ar y fferm, yn cynnwys rhai da a rhai wedi’u hadnewyddu, a rhai y mae angen eu hatgyweirio neu eu hadnewyddu. Cyflenwir dŵr o ddyfrdwll i bob cae.

Ceir 35 erw o goetir hynafol lled naturiol ar hyd terfyn deheuol y fferm.  Rydym yn ystyried mynd ati maes o law i gydweithio â saer coed gwyrdd i reoli’r coetiroedd a chynhyrchu cynhyrchion o’r gwrychoedd a’r coedlannau niferus.

Ceir 5 tŷ allan arall sydd angen eu hadfer, ac efallai bydd y rhain yn lleoliadau ar gyfer rhagor o fentrau fferm.

Mae’r tir eisoes wedi’i gofrestru’n dir organig, a bydd yn cael ei gofrestru’n dir biodynamig flwyddyn nesaf.

Bydd technegau megis casglu, meithrin a defnyddio micro-organebau brodorol, creu compost Johnson-Su, bokashi a chompost hylifol yn cael eu defnyddio i ategu’r cymysgeddau biodynamig i ddad-ddofi ein tir yn raddol.  

Yn ogystal â’r cynllun amaethyddiaeth a phroses bwyd, bydd ecolegydd o’r Initiative For Nature Conservation yn llunio cynllun rheoli ecoleg a fydd yn gysylltiedig â chynlluniau cynhyrchu’r fferm ac yn eu hategu.  Bydd hyn yn digwydd yng ngwanwyn 2024. 
 

AMDANOM NI 

Jamie a Jessica Seaton ydym ni, ac rydym ni wedi gweithio gyda’n gilydd ers i ni droi’n oedolion.  Rydym wedi sefydlu a rhedeg dau gwmni dillad llwyddiannus - J&J Seaton, cwmni gweuwaith oedd yn gwerthu siwmperi cywrain wedi’u gwau â llaw i siopau ffasiwn arbenigol ledled y byd, a Toast, cwmni nwyddau cartref a dillad dan arweiniad y galon.

Fe wnaethom brynu Llwyngoras yn 2019 a threulio ein 3 blynedd gyntaf yma yn adfer y ffermdy hynafol a rhai o’r tai allan niferus, ac ar yr un pryd, roeddem yn arsylwi ac yn gweithio’r tir, gan ddatblygu ein cynlluniau yn unol â hynny. Nid ydym yn ffermwyr, ond rydym yn wastad wedi byw yn agos at y tir. Mae gennym brofiad helaeth o fusnes, marchnata a dylunio. 

Yn 2016, fe wnaeth Jessica ysgrifennu llyfr coginio o’r enw Gather Cook Feast a thema’r llyfr oedd bwyd a’r dirwedd - sut byddwn yn cael ymdeimlad o le ac amser trwy gyfrwng y pethau y byddwn yn eu bwyta. Treuliodd Jamie amser yn astudio ac yn ysgrifennu barddoniaeth ar gyfer gradd MA yn Royal Holloway.

YR ARDAL LEOL 

Lleolir Llwyngoras yng Ngogledd Sir Benfro ar gyrion pentref Nyfer.  Dros y ffordd, mae Awen Organics https://www.awenorganics.co.uk/ a’r ochr arall i’r afon, mae @Nevernvalleyveg. Dyma ddwy enghraifft o’r gymuned ffyniannus o dyfwyr a chrewyr creadigol sydd wedi’u denu i’r ardal hon oherwydd ei harddwch naturiol a’i chymuned fywiog.

Mae’r dref leol, Trefdraeth, yn ganolfan leol ffyniannus ble ceir marchnad bob dydd Llun, llyfrgell, dewis da o siopa a digwyddiadau niferus sy’n cael eu hysbysebu ar y polion telegraff yma ac acw yn y dref.

Ceir sîn greadigol fywiog yn nhref gyfagos Aberteifi, yn cynnwys gŵyl Lleisiau Eraill, theatr, sinema, siop fara a gardd farchnad organig Glebelands

Lleolir Llwyngoras ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ac mae swyddogion cadwraeth y Parc a swyddogion cadwraeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin a De Cymru yn cefnogi ein hamcanion o ran bioamrywiaeth. Lleolir y môr a chlogwyni a baeau creigiog yr arfordir ddwy filltir o’r fferm. Gerllaw, ceir fforestydd glaw tymherus hynafol ym Mhen Gelli a Thŷ Cano, ac mae Coed Llwyngoras - ein coetiroedd - wedi’u cysylltu’n uniongyrchol â’r llecynnau hyn

Y PARTNER PRIODOL A’R CYTUNDEB 

Rydym yn chwilio am rywun sy’n rhannu’r weledigaeth ar gyfer y fferm ac yn cael ei gyffroi ganddi, rhywun y byddwn yn mwynhau eu cwmni ac yn parchu eu hymagwedd.

Bydd yr unigolyn priodol yn ymrwymo i ffermio’n amaeth-ecolegol ac yn dymuno ymdrin â’r fferm gyfan a’i hoffer a’i chreaduriaid yn ofalgar. Bydd yn gryf ac yn egnïol, ond nid yn fyrbwyll nac yn ddifeddwl.  Yn ddelfrydol, bydd gan yr unigolyn brofiad ym meysydd garddwriaeth a magu da byw, a diddordeb mewn cnydau âr efallai.  Fel rhywun sy’n gallu dysgu’n gyflym, efallai nad yw cyfanswm y profiad mor bwysig â’r ymroddiad a’r brwdfrydedd cyffredinol, ond dylech allu dangos fod gennych brofiad o nifer o systemau amaeth-ecolegol.  Bydd y gallu i ddylunio ac adeiladu adeileddau effeithiol megis cytiau ieir symudol nei finiau bokashi gan ddefnyddio deunyddiau carbon isel yn bwysig.  Byddai profiad o systemau biodynamig yn wych.

Bydd y cytundeb yn gytundeb ffermio cyfran, ac yn unol â’r cytundeb, bydd pob carfan yn cytuno i rannu’r cyfrifoldeb am fusnes y fferm. Bydd y ffermwr yn cynnig cynllun blynyddol – gan barchu ysbryd y cynllun busnes – i’w drafod, ei addasu efallai, a’i gymeradwyo rhyngom.  Bydd cyfarfodydd rheolaidd yn sicrhau y byddwn yn parhau ar y trywydd iawn. Bydd yr elw yn cael ei ddosbarthu yn unol â’r cytundeb gan ystyried cyfraniadau bob carfan, a gan sicrhau cydnabyddiaeth synhwyrol i’r ffermwr. Bydd hyn yn cynnig cyfle i’r ffermwr wneud ei benderfyniadau ei hun a bod yn berchen ar fusnes, gan elwa o’r tir, yr offer, y profiad a’r cymorth cyffredinol y gallwn eu cynnig. Yng Nghymru, ceir cynllun o'r enw Dechrau Ffermio a’i diben yw helpu i sefydlu’r cytundebau cyfreithiol hyn.

Os bydd angen hynny, gellid darparu llety syml a boddhaol mewn carafán ar y fferm.

Os yw’r cyfle hwn yn ennyn eich diddordeb, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn cynnig rhywfaint o wybodaeth i ni am eich bywyd, eich diddordebau a’ch profiad, a pham rydych yn dymuno ymuno â ni.