Proffil Darparwr
(Amlinelliad o'r cyfle sy'n cael ei ddarparu)
Rhif Cyfeirnod Mentro: 841
MANYLION Y TIRFEDDIANNWR
Wedi ffermio y tîr ers dros 50 mlynedd ac mae’r tirfeddiannwr yn awyddus i gymeryd cam yn ôl o rhedeg y fferm o ddydd i ddydd.
Wrth cynnig cyfle i berson ifanc a brwdfrydig yn y diwydiant amaeth, mae’n hanfodol bod ansawdd y fferm yn cael ei cynnal a’i wella drwy samplo pridd, ffensio ac ail-hadu.
Ein targedau dros y 5 mlynedd nesaf
- Llai o gyfrifoldebau i ni ar y fferm a mwy o gyfrifoldebau i rywun ifancach
- Cyfle i rannu ein arbenigedd a phrofiad o ffermio’r tîr
- Edrych ar ôl a pharau i wella answadd y fferm (pridd, cloddiau, ffens)
MANYLION Y FFERM
Lleoliad:
Tair milltir o Llanfyllin a Llanrhaedr y Mochnant
Ardal tir ar gael:
130 acer / 52 ha
Isadeiledd ar gael h.y. adeiladau, cyfleusterau trin anifeiliaid:
-
80 x 40 shed ar gyfer wyna
-
Shed cubicles ar gyfer gwartheg
-
Corlannau trîn defaid
Da byw ar gael:
Math |
Niferoedd |
defaid welsh mule / tex x |
110 |
stabilisers / angus x |
14 |
Peiriannau ar gael:
- Telehandler a 3 tractor
- Spinner
- Chwalwr tail
Llety ar gyfer yr un sy’n chwilio am gyfle:
Na
MANYLION Y CYFLE
Math o gytuneb sy’n cael ei ystyried:
Ffermio ar y cŷd
Ffermio ar gytundeb
Gofynion y rôl gan gynnwys y prif dasgau, cyfrifoldebau a'r sgiliau sy'n ofynnol
Y gallu a’r profiad I thrîn ag bugeilio y diadell o’r defaid a’r gwartheg ar y fferm yn barod. Gallu I weithio’n annibynnol ond bydd cymorth ar gael ar gyfer unrhyw tasg pan fydd angen.
Profiad o weithio hefo peiriannau amaethyddol yn gymorth ond ddim yn hanfodol – tasgiau fel torri gwair ag ail hadu.
Yr angerdd a’r brwdfrydedd i ymdopi a’r newidiadau sydd ar y gweill i polisiau amaethyddol. Yn barod i ddefnyddio technegau modern o pwyso DLWG, recordio’r canlyniadau ag ymdopi technegau fel bod angen. Edrych fewn i gychwyn system pori cylchdro.
Nodweddion allweddol y mae'r tirfeddiannwr yn chwilio amdanynt mewn partner busnes
- Gweithgar
- Dibynadwy
- Lleol