Datgan diddordeb ar gyfer cynnwys digwyddiad
Mae Cyswllt Ffermio yn cyflwyno digwyddiadau TGCh wedi’u dylunio ar gyfer unigolion sy’n awyddus i ddysgu am y dechnoleg amaethyddol ddiweddaraf.
Mae’r ffurflen isod yn gyfle i chi’r darparwr gynnig cynnwys y digwyddiad yr hoffech chi ei ddarparu drwy’r rhaglen.
Gwnewch yn siŵr bod eich cynnig yn ymwneud â’r diwydiant amaethyddol, gan ddangos sut y gall eich technoleg gael ei defnyddio i ddatblygu busnesau ffermio a/neu goedwigaeth.
Rhaid i’r digwyddiadau gael eu cynnal ledled Cymru. Sylwer mai dim ond aelodau Cyswllt Ffermio all fynychu’r digwyddiadau.
Dyma ychydig o enghreifftiau o ddigwyddiadau; meincnodi ar-lein, TAW a threth ar-lein, technoleg drôn, GPS a ffermio manwl, pecynnau costau ffermio, pecynnau recordio EID, meddalwedd cofnodi meddyginiaeth fferm, rhaglenni roboteg, sensro o bell, technoleg arloesol, recordio ar-lein BCMS / CTS.
*Derbynnir cynigion ar gyfer gweminarau a digwyddiadau wyneb yn wyneb.*
Er mwyn gweld ein Hysbysiad Preifatrwydd, cliciwch yma.