Defnyddio data amser real ar wneud silwair i yrru llaeth o borthiant

Mae Ifan Ifans yn rhedeg buches laeth sy’n cynnwys 390 o wartheg sy’n lloia yn yr hydref. Ei nod yw cynhyrchu’r mwyaf o laeth o borthiant ag y gall drwy system silwair amldoriad (5 toriad) a thymor pori estynedig. Mae'r peiriant cynaeafu silwair a ddefnyddir ar fferm Tyddyn Cae yn casglu data ar yr holl doriadau silwair, ond nid yw Ifan wedi defnyddio'r data eto i wella ymhellach y llaeth a ddaw o borthiant ar fferm Tyddyn Cae.

Mae’r defnydd o ddadansoddiad NIRS o borthiant yn dod yn fwyfwy eang o ddefnydd arferol mewn labordai o dan reolaeth gwyddonwyr labordy hyd at offer llaw symudol a ddefnyddir ar y fferm gyda samplau sefydlog ac ar beiriannau megis lorïau TMR hunanyriant a pheiriannau cynaeafu porthiant. Mae holl ddulliau NIRS yn dibynnu ar fodelau rhagfynegi i amcangyfrif ansawdd silwair. Er mwyn i’r modelau rhagfynegi hynny fod yn gywir, mae angen setiau data mawr o borthiant perthnasol i’w dadansoddi drwy ddulliau cemegol ochr yn ochr â sganio NIRS o dan yr amodau y cânt eu defnyddio’n ymarferol. O'r setiau data hyn gellir cael modelau rhagfynegi cywir a'u defnyddio'n ymarferol yn y pen draw.

Mae'r peiriant cynaeafu a ddefnyddir yn y prosiect hwn yn cynnwys offer NIRS sy'n caniatáu ar gyfer amcangyfrif Deunydd Sych, Protein Crai, Carbohydrad sy'n Hydawdd mewn Dŵr, Ffibr Glanedol Niwtral, Ffibr Glanedol Asidig a Ffibr Crai. Yn ogystal â'r dadansoddiad hwn, gall y peiriant cynaeafu porthiant hefyd fesur faint o ddeunydd ffres a gynhyrchir. Mae'r wybodaeth uchod yn galluogi i fapiau cynnyrch porthiant gael eu pennu ochr yn ochr â pharamedrau ansawdd; mae hyn oll ar gael fesul cae. 

Nod y prosiect hwn yw dadansoddi’r data sydd ar gael ar gyfer ansawdd y silwair drwy gydol y tymor ar sail fesul trelar a fesul cae, gan gymharu data’r peiriannau cynaeafu â NIRS llaw a samplau a anfonwyd i labordai ar gyfer dadansoddiad NIRS neu Gemeg gyda hylif a sut y gall defnyddio data yrru llaeth o borthiant ymhellach mewn buchesi llaeth.

Trwy ysgogi gwelliant pellach mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
  • safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
  • defnyddio adnoddau’n effeithlon