Esgair Gawr, Rhydymain, Dolgellau, Gwynedd

Prosiect Safle Ffocws: Mesur ôl-troed carbon system gwartheg bîff a defaid yr ucheldir: Canfod cyfleoedd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) ar y fferm

Amcanion y prosiect:

Prif nod y prosiect hwn yw mesur ôl-troed carbon system gwartheg bîff a defaid yr ucheldir: Yr amcan yw canfod faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir o weithgareddau’r fferm, yn ogystal â faint o garbon a gaiff ei ddal a’i storio er mwyn tynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer ar y fferm. 

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ym mha ardal ar y fferm y caiff allyriadau nwyon tŷ gwydr eu cynhyrchu gan geisio canfod cyfleoedd i liniaru’r nwyon tŷ gwydr i’r dyfodol. Er bydd y gwaith o weithredu a mesur y strategaethau lliniaru yn mynd y tu hwnt i oes y prosiect, nod y prosiect yw rhagweld effaith defnyddio strategaethau lliniaru penodol ar ôl-troed carbon y fferm i’r dyfodol. Bydd bwrw amcan o’r lefelau dal a storio carbon hefyd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer y fferm i’r dyfodol. 


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Fferm Lower Eyton
Fferm Lower Eyton, Eyton, Wrecsam Prosiect Safle Ffocws
Fferm Penlan
Fferm Penlan, Cenarth, Castell Newydd Emlyn Prosiect Safle Ffocws
Fferm Pied House
Fferm Pied House, Trefaldwyn, Powys Prosiect Safle Ffocws