Bydd Menter a Busnes yn ehangu ei bortffolio o gymorth arbenigol i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru gan ychwanegu rhaglen sgiliau newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen 'Skills for Success' yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r diwydiant bwyd a diod i ddatblygu gweithlu medrus a galluog. Bydd yn helpu cwmnïau bwyd a diod Cymru i gael mynediad at hyfforddiant a datblygu sgiliau ar gyfer eu staff, gan wella cynhyrchiant, gwella enillion...
Cig Oen Morfa Heli Gŵyr yn ennill Gwarchodaeth Ewropeaidd
Mae Cig Oen Morfa Heli Gŵyr wedi ymuno â bwydydd fel Champagne, Parma Ham a Melton Mowbray Pork Pies yn dilyn ennill statws enw bwyd gwarchodedig gan y Comisiwn Ewropeaidd. O 27 Gorffennaf ymlaen, bydd enw Cig Oen Morfa Heli Gŵyr yn cael ei warchod ymhellach gan statws Enw Tarddiad Gwarchodedig Ewrop (PDO), sy'n un o dri dynodiad arbennig Enw Bwyd Gwarchodedig Ewrop (PFN). Ar 11 Awst 2021, Cig Oen Morfa Heli Gŵyr oedd y...
Uchafbwynt newydd i allforion Bwyd a Diod Cymru
Roedd allforion Bwyd a Diod Cymru werth £797 miliwn yn 2022, y gwerth blynyddol uchaf a gofnodwyd, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths. Pan oedd y RWAS yn ei anterth a thorfeydd yn mwynhau rhai o gynhyrchion bwyd a diod gorau Cymru, datgelodd y Gweinidog fod allforion y diwydiant wedi cynyddu £157m rhwng 2021 a 2022, sy'n gynnydd o 24.5%. Mae hyn yn gynnydd canrannol mwy na'r DU gyfan, a gynyddodd 21.6%. Y categorïau allforio...
Gwarchod Wisgi Cymreig Brag Sengl
Mae un o wirodydd mwyaf poblogaidd Cymru, y Wisgi Cymreig Brag Sengl, bellach wedi'i ddiogelu'n swyddogol ar ôl iddo sicrhau statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig y DU. Dyma'r gwirod newydd cyntaf yn y DU i ennill statws Dynodiad Daearyddol ers lansio Dynodiad Daearyddol y DU a dyma hefyd wirod Dynodiad Daearyddol cyntaf Cymru. Wisgi Cymreig Brag Sengl bellach yw'r 20fed aelod o deulu cynhyrchion Dynodiad Daearyddol Cymru, gan ymuno â chynnyrch gwych eraill fel Enw Tarddiad...
Cymdeithas Goginio Cymru - Llwyddiant i lywydd cymdeithas goginio yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru
Mae llywydd Cymdeithas Goginio Cymru (CAW), Arwyn Watkins, OBE, wedi ychwanegu gwobr arall eto at ei restr o anrhydeddau. Enillodd Wobr Arweinydd y Flwyddyn, a noddwyd gan Veteran Trees, yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru eleni a daeth yn ail yng Ngwobr Entrepreneur y Flwyddyn, a noddwyd gan Pinnacle Document Solutions Group. Mae'r wobr yn cydnabod gwaith Arwyn fel llywydd CAW yn arwain cais llwyddiannus Tîm Cymru i ddod â Chyngres ac Expo Worldchefs i Ganolfan Gynadledda...
Cyhoeddi Cronfa ar gyfer Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod
Mae cronfa gwerth £300,000 i ddarparu cymorth i wyliau a digwyddiadau bwyd a diod ledled Cymru yn agor i geisiadau heddiw (dydd Sadwrn, 1 Gorffennaf). Bydd y cynllun grantiau bach, a fydd yn mynd i’r afael â 10 cam allweddol ‘Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod’ Llywodraeth Cymru, yn cefnogi gwyliau a digwyddiadau i ychwanegu gwerth at y diwydiant yng Nghymru a’r nod yw gwella mynediad ymwelwyr at fwyd a diod o Gymru...