Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynychu un o brif ddigwyddiadau diwydiant bwyd y byd yn Tokyo yr wythnos nesaf (7-10 Mawrth 2023). Mae Foodex Japan yn un o arddangosfeydd bwyd a diod rhyngwladol mwyaf Asia, ac mae'n cynnig cyfleoedd i ehangu busnesau ac yn cynnig atebion i'r diwydiant. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd chwe chwmni bwyd a diod o Gymru yn mynychu Foodex o dan faner Cymru, pob un eisiau...
Cig Oen Cymru yn gweld cyfleoedd wrth hybu marchnata yn yr Unol Daleithiau
Mae Hybu Cig Cymru (HCC), Llywodraeth Cymru a holl gyflenwyr Cig Oen Cymru PGI ar fin cydweithio i lansio ymgyrch fawr i fanteisio ar allforion i America. Cafodd y cyfyngiadau ar fewnforio cig oen o’r DU i UDA eu codi o’r diwedd y llynedd, ac mae proseswyr o Gymru wedi bod yn arwain y ffordd o ran cael yr archwiliadau a’r ardystiad angenrheidiol er mwyn dechrau allforio. Bydd y rhaglen hyrwyddo gychwynnol yn dechrau gyda...
Cennin Pedr ar Ffurf Calon yn arwydd o Hoffter o Fwyd a Diod o Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi
Ddydd Gŵyl Dewi eleni, bydd ymwelwyr â Chastell Caerdydd yn gallu dangos eu bod wrth eu boddau â bwyd a diod o Gymru drwy rannu ffotograffau o osodiad cennin Pedr ar ffurf calon a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Mae'r gosodwaith yn cynnwys miloedd o gennin Pedr ac fe’i crëwyd fel rhan o ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste o dan Raglen Llywodraeth Cymru i Ddatblygu Masnach mewn Bwydydd a Diodydd o Gymru. Mae'r gosodwaith, sydd...
Busnesau o Gymru yn teithio i Gulfood ar gyfer ymgyrch allforio
Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn teithio i Dubai yn ddiweddarach y mis hwn i fynychu Gulfood, un o arddangosfeydd masnach bwyd a diod mwyaf y byd sy’n ymestyn allan i wledydd allweddol o fewn rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA). Bydd Gulfood yn cael ei gynnal rhwng 20-24 Chwefror yng Nghanolfan Masnach y Byd Dubai, ble bydd brandiau rhyngwladol yn arddangos eu cynhyrchion a’u gwasanaethau bwyd a diod diweddaraf. Mae'r...
Yr holl gynhwysion i helpu busnes yn y Fflint i dyfu
Mae’r Pudding Compartment, a sefydlwyd gan Steve West yn 2007 ac sydd wedi’i leoli ar Ystad Ddiwydiannol Manor, yn cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion becws fel cynhyrchion pobi hambwrdd, cwcis, cynhyrchion cyflym a theisennau torth. Mae cyfleuster newydd y cwmni yn golygu bod y busnes wedi mwy na dyblu ei ardal gynhyrchu a buddsoddi mewn offer newydd. Mae’r Pudding Compartment wedi cael mwy na £100,000 gan Gynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd Llywodraeth Cymru i gefnogi’r prosiect...
Cwmni coffi o Gymru yn sicrhau cytundeb newydd yn yr Unol Daleithiau a Chanada
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi llongyfarch Ferrari's Coffee ym Mhen-y-bont ar ôl i'r cwmni sicrhau cytundeb newydd fydd yn gweld eu cynnyrch ar gael yn yr UDA a Chanada y flwyddyn nesaf. Aeth y Gweinidog i weld y cyfleusterau a chlywed sut mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi helpu'r cwmni i sicrhau cytundeb sylweddol i gyflenwi tri o'i gynnyrch i fanwerthwr mawr ar draws yr Iwerydd. Daw'r newyddion wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi yn...
Mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru wedi lansio ar gyfer 2023
Mae’r gwobrau’n dathlu cynhyrchwyr bwyd a diod gorau Cymru a’r cyfraniad y maent yn ei wneud i economi Cymru. Am ei hail flwyddyn, ac i adlewyrchu natur Cymru gyfan y sector, bydd Gwobrau Bwyd a Diod Cymru yn cael eu cynnal yn Llandudno yn Venue Cymru, ar y 18fed o Fai 2023. Yn ogystal â’i leoliad newydd, mae gwobrau 2023 yn falch o groesawu cadeirydd newydd y panel beirniaid, Bob Clark, sylfaenydd Clarks Maple Syrup...
Ymweliad Datblygu Masnach i Ffrainc
Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn ymweliad datblygu masnach bwyd a diod a Ffrainc. Yn dilyn llwyddiant Llywodraeth Cymru ynghlwm â SIAL 2022, mae cyfle gwych i gwmnïau Bwyd a Diod Cymru fynd ati i allforio’u cynnyrch i Ffrainc. Ffrainc ydy’r ail farchnad allforio fwyaf ar gyfer Bwyd a Diod Cymru, gyda chyfanswm gwerth o £100m yn 2021 sy’n gynnydd o £72m ers y flwyddyn flaenorol. Y categori allforio mwyaf gwerthfawr oedd Cig a Chynnyrch...
Ymweliad Datblygu Masnach i De Corea
Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn ymweliad datblygu masnach bwyd a diod a De Corea. Fe gynhaliwyd ymweliad datblygu masnach rithiol Cymreig i Dde Corea ym mis Mehefin 2021. O ganlyniad bu i nifer o fusnesau sicrhau archebion ac mae disgwyl i eraill dderbyn gros o dros £1m eleni. I’r perwyl hwn, De Corea ydy’r gweithgarwch masnach rithwir mwyaf llwyddiannus Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru. Mae hyn gan fod gan y farchnad Dde Corea awch sylweddol...
Expo Bwyd a Diod 2023
Mae recriwtio bellach ar y gweill i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan faner Bwyd a Diod Cymru yn yr NEC, Birmingham 24 - 26 Ebrill 2023. Nodwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen gais yw 30 Ionawr 2023. Cliciwch isod am fanylion llawn y pecyn stand a'r costau ac i'ch ffurflen gais arddangos ar y stondin.