Sioe deithiol yn rhoi hwb i gynaliadwyedd bwyd a diod
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i gydweithio â busnesau i gyflawni ei nod o greu un o’r cadwyni cyflenwi bwyd a diod mwyaf cynaliadwy yn y byd. I hybu’r nod hwn, mae Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o gyfarfodydd brecwast a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru dros y misoedd nesaf. Bydd y cyfarfodydd yn dod â busnesau ac arbenigwyr ynghyd, ac yn cynnig cyfle unigryw...